NANT CREW
1991 Cefn Crew MO (Map yr Ordnans)
1991 Gwaun Crew MO
1991 Cwm Crew MO
1886 Blaen Crew MO
1886 Aber-Crew MO
1861 Crew Isha Cyfrifiad
1832 Crew Ucha MO
1831 Crew Isa Ewyllys David Jones
1816 Crew Ewyllys Jenkin Thomas
1780 lands called Crue Penpont
1760 common called Crew Tredegar
1671/2 Tire Aber Crue Penpont
Mae Nant Crew yn codi ym Mlaen Crew ar Gefn Crew ym mhlwyf Cantref, ac yn rhedeg drwy Gwm Crew a Gwaun Crew i gronfa ddwr Cantref tu uchaf i bentrefan a bwyty enwog y Nant Ddu. Cafodd y gronfa ddwr ei hadeiladu gan Gorfforaith Ddwr Caerdydd er mwyn sicrhau dwr glân i’w phoblogaeth estynedig. Agorwyd y gronfa ddwr ym 1892. Collwyd sawl ffarm teulu Cymraeg eu hiaith a’u thraddodiadau pan foddwyd eu tiroedd, gan gynnwys Aber-crew, Crew Isaf, Crew Uchaf a Blaen Tâf.
Ceir erthygl gwych ar y pwnc gan Gwyneth Evans, un o ddisgynyddion teulu Wern Fawr gynt, yng nghylchgrawn Brycheiniog XLV, 2014. (Mae’n ddiddorol darllen, roedd bwyty Nant Ddu gynharach yn borthdy saethu i’r tirfeddianwr lleol, Charles Morgan, yr Arglwydd Tredegar, a fu ei hun yn rhan o Ymosodiad y Frigâd Ysgafn yn ystod Rhyfel y Crimea ).
Mae’r ffurfiau uchod yn dangos cysondeb i’r elfen crew dros y canrifoedd. Mae’r sillafiad crue yn ymgais gan unigolyn di-gymraeg at sgrifennu’r enw. Nid oes unrhyw wyriad i’r elfen o gwbl. Beth am yr ystyr? Y gred leol yw mai ‘carw’ ydyw, ond nid oes sail na thystiolaeth ddogfennol i hynny.
Mae R.J. Thomas, yn ei lyfr Enwau Afonydd a Nentydd Cymru, tud. 136 yn sôn am nentydd Crewi a Crew. Yno mae’n datgan “mai Crew neu Craw (gyda g affeithiad i ) ydyw bôn yr enw hwn.” , gyda’r ystyr ‘twrw, trabludd’. Byddai’r ystyr hwnnw’n addas ar gyfer Nant Crew plwyf Cantref wrth iddi lifo’n swnllyd dros y niferus sgydau neu’r rhaiadrau trabludd ar eu thaith.
DMJ
Paratowyd yr erthygl hon dan nawdd Cymdiethas Enwau Lleoedd Cymru
Map heddiw yn dangos Nant Crew yn disgyn tuag at gronfa ddwr Cantref.