Hendre-bolon
Enw ar hen ffermdy ar lan Afon Mellte ym mhlwyf Ystradfellte, yw Hendre-bolon. Heddiw mae’r tŷ wedi ei foderneiddio ac mae llyfryn tai yn ei ddisgrifio fel bwthyn dwy ystafell- wely yn sefyll mewn pum erw a’r hugain. Gweler y llun isod.
Mae coedwig Hendre-bolon ar rhan o’r tir. Daeth Coed Hendre Bolon yn hysbys i’r cyhoedd ym 1831 oherwydd yma, yn y goedwig hon, cafodd Lewsyn yr Haliwr, ei ddal yn cuddio ar ôl dianc o Ferthyr yn ystod y terfysg yno. [Gyda llaw, haliwr oedd Lewis wrth ei alwedigaeth, yn tynnu wagenni glo o’r Dyllas ger Llwydcoed tuag at odynnau calch Penderyn. Er bod yr enw Lewsyn yr Heliwr wedi cydio yn y dychymig a throi’n boblogaidd, mae'n debyg taw nid hwnnw oedd yr epithed cywir arno.]
Mae hendre(f) yn elfen weddol cyffredin mewn enwau llefydd. Mae’n dynodi prif breswylfa’r teulu. Yn y gwanwyn a’r haf byddai’r meibion a’r gweision yn trigo ar yr ucheldir yn yr hafotai, lluestai a’r pebyll wrth fugeilio’r gwartheg, defaid ac wyn, ond yn yr hydref dychwelent i’r hendre at weddill y teulu. Byddai’r gweision a’u teuluoedd, fel arfer yn byw yn y pentref, yr enw am yr adeiladau llai ar ben neu ffiniau’r dref. Mae’r ystyr wedi parhau heddiw, gan fod pentrefi yn llai o faint na threfi.
Beth am yr ail elfen bolon? Mae’r ffurf bolon yn digwydd ar lafar yn y de ar y gair bodlon. Roedd hi’n gyffredin ar un adeg i glywed pobol yn dweud “dyw e ddim yn bolon mynd” neu “ma hi’n itha bolon ar ‘i byd”. Ond go brin taw’r bolon hwnnw sydd yn enw Hendre Bolon.
Rwy wedi clywed yr esboniad polon, lluosog polyn ar yr enw, ond nid yw hwn yn dderbyniol oherwydd reolau treigladau. Byddai polon yn rhoi Hendre Polon.
Yn ffodus, mae ffurf cynnar ar yr enw yn ein harwain at geirdarddiad llawer mwy derbyniol. Mae cytundeb briodas rhwng Ieuan ap Ieuan ap Rees ac Elin ferch Lewis John Lloyd yn y flwyddyn 1579, (Penpont 1251, LlGC.) yn enwi Tir porthegogove a hendreyrrebollion ym mhlwyf Istradvelltey. Hendre(f) yr ebolion felly yw tarddiad Hendre Bolon, ac efallai byddai’n fwy priodol felly i gynnwys ebolion gyda gwartheg, defaid ac wyn bugeiliad hafol yr ucheldir. Ar y llaw arall, efallai roedd yr ebolion yn aros yn yr hendre ar lannau afon Mellte drwy gydol y flwyddyn. Ta beth am hynny, yn sicr, yr ebolion saif fel anifeiliaid eponymaidd Hendre Bolon.
1579, Oct. 31
1. Ieuan ap Rees of parish of Istradvelltey co. Brecknock, gent.; 2. Lewis John Lloyd of the parish of Devynock, gent.
COVENANT in consideration of the proposed marriage of John ap Ieuan ap Rees, son and heir of the said Ieuan ap Rees, and Ellnor, one of the daughters of the said Lewis John Lloyd, for the settlement of Tir porthegogove and tyr hendreyrrebollion, parish of Istradvelltey. Penpont 1251