CRAIG Y DINAS
Os edrychwch ar fap yr Ordnans yn ardal Pontneddfechan, fe welwch enw Craig y Ddinas ychydig i’r dwyrain o’r pentref, rhwng afonydd Mellte a Sychryd. Craig fawr o galchfaen carbonifferaidd ydyw sydd a gweddillion hen fryngaer yr oes haearn ar ei chopa. Ond arhoswch funud. Craig y Ddinas sydd ar fap yr Ordnans ond Craig y Dinas sydd ar ben yr erthygl hon. Paham y gwahaniaeth, a phun sy’n gywir? ``
Mae un o’r ffurfiau cynnar, ym Mheniarth 118 tua’r flwyddyn 1600, yn dangos rhestr o gewri gan Sion Dafydd Rhys. Yma mae Caer craic Dynas gawr (wedi ei recordio gan Hugh Owen M.A. yn Y Cymmrodor xxvii tud. 142), yn cofnodi i’r Brenin Arthur ladd Dynas gawr yng Nghaer Craic Dynas gawr. Mae’r stroi hon ymhlith llawer am y Brenin Arthur, y Graig a’r ogofau gyfagos. Ymgais yw stori Dynas gawr i esbonio ystyr yr enw.
Elfen olaf yr enw yw dinas, ‘caer, amddiffynfa, cadarnle’, enw gwrywaidd yn wreiddiol ond hwyrach yn wrywaidd ac yn fenywaidd wrth olygu ‘tref ac eglwys gadeiriol ynddi, tref fawr’. Mae’n digwydd yn gynnar ac yn wrywaidd mewn enwau lleoedd megis Dinas Dinlle, Dinas Mawddwy, Dinas Powys ac yma yn Craig y Dinas. Os disgrifio tref fawr ac eglwys gadeiriol, byddai Craig y Ddinas yn dderbyniol, ond gan taw bryngaer cyntefig yw’r ystyr, mae Craig y Dinas yn gywirach.
Ychydig i’r dwyrain o’r Graig roedd digonedd o silica sydd yn addas iawn ar gyfer gwneud priddfeini i’w gosod mewn ffwreisi gweithiau haearn etc, oherwydd iddynt fedru wrthsefyll tymereddau uchel iawn. Cynhyrchwyd y priddfeini hyn gan gwmni’r Dinas Firebrick Co. ac allforiwyd briciau’r Dinas i Ewrop ac America, gan gynnwys Rwsia. Mae tref Dinas (динас) yn rhanbarth yr Wral, sydd yn cynhyrchu’r priddfeini arbennig yma, wedi ei henwi ar ol priddfeini’r Dinas Firebrick Co. Pwy base’n meddwl byddai tref yng ngwlad Rwsia yn gysylltiedig a chraig a bryngaer Craig-y-Dinas, Pontneddfechan.Tybed, a yw’r Rwsiaid yn gwybod am y cysylltiad rhwng y Brenin Arthur, Craig-y-Dinas a thref динас yr Wral?