Tir-ergyd yw’r ffurf ar fap yr Ordnans ym 1989 gyda’r lleoliad ar godiad tir rhwng Llwydcoed a Bryn Pica. Mae map yr Ordnans 1885 fodd bynag yn dangos Tir-yr-Argae. Ond mae’r ffurfiau cynharaf 1632 Tyr yr Ergyd, 1633 Tyir yr Rergyd a 1638 Tyre yr Ergyd, yn cadarnhau taw ergyd yw elfen olaf yr enw.
Mae’r gair ergyd yn golygu ‘cernod, trawiad, curiad, tafliad’ etc. ac mae’r enw wedi cael ei ddehongli felly gan un neu ddau yn y gorffennol, i olygu tir a oedd yn gysylltiedig ac ergyd saeth neu garreg gan gawr neu arwr. Yn wir, mae un wefan gan y BBC yn cyfieithu’r enw’n “shooting land”.
Ond mae R. J. Thomas yn ei nodiadau ar Enwau Lleoedd Plwyf Aberdâr, yn cynnig esboniad sydd yn fwy synhwyrol a derbyniol. Mae e’n rhoi enghreifftiau ar Fynydd Margam megis Ergyd Uchaf ac Ergyd Isaf sydd yn enwau ar ddau esgair, neu breichiau sydd yn taflu allan o’r mynydd. Byddai ‘braich o dir yn taflu allan’ yn ffitio ystyr topograffig ergyd i’r dim.
Mae’r Athro Emeritws Gwynedd O. Pierce (Place-names in Glamorgan, t.188-90) yn mynd cam ymhellach drwy awgrymu taw’r un ystyr sydd i’r elfen yn yr enwau Pen-yr-ergyd ger Aberteifi (am ddarn o dir sydd yn ymestyn ar aber afon Teifi), Ergyd-y-gwynt yn Llanrhaeadr-ym-Mocnant (am ddarn o dir mewn safle agored) ynghyd ac Ergyd Non, Llansantffraid, ac Ergyd Ronw (Gronw < Goronwy) ger Dolgellau.
Addasiad ar fap 1914.
Efallai bod ffurf a maint Tirergyd plwyf Aberdâr wedi newid dros y blynyddoedd oherwydd gweithgareddau diwydiannol, ond mae’n debygol bod Tyr-yr-ergyd 1632 wedi ei leoli ar esgair neu darn o dir yn taflu allan, yn hytrach nag yn y fan lle disgynnodd tafliad saeth neu garreg cawr neu arwr.
DMJ Dan nawdd Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru.