Llandremôr a Llandymôr

Enwau dau le yng Ngŵyr (Sir Abertawe) sydd yn bur debyg i’w gilydd. Mae Llandremôr yn enw ar nifer o ffermydd tu allan i Bontardulais, plwyf Llandeilo Tal-y-bont (Llandremôr Fawr, Uchaf, Genol a Fach) ond mae Llandymôr (Landimore) yn hen enw ar anheddfa, bellach Cheriton (Saesneg, church & ton – ‘fferm yr eglwys’) ym Mhenrhyn Gŵyr.

Ar yr wyneb, mae elfennau Llandremôr yn edrych yn debyg i llan, tref a’r enw personol Môr ond mae ffurfiau Lladremor 1569, a Llodremor 1584-5 yn dangos taw llodre yw’r elfen gyntaf i’r enw. Mae llodre yn gytras gyda’r Wyddeleg lathrach ‘safle tŷ neu eglwys’. Byddai’r cyfan yn rhoi ‘safle tŷ neu eglwys Môr’. Ond erbyn canol y 1580au, newidiwyd Llodremor i Llandremôr (Llandremoore 1583) am ddau rheswm mi gredaf. Yn gyntaf, roedd daliwr y lles, William ap Morgan ap Rhys Llwyd, yn dal degymau eglwys y plwyf. Byddai’r cysylltiad agos hwn rhwng yr eglwys lleol a’r fferm yn siŵr o hybu defnyddio llandre am llodre. Hefyd roedd y gair Cymraeg llodrau – ‘trowsus, trowsus bach, hosanau’ yn cael ei ynganu megis llodre yn y dafodiaith leol, ac mi fyddai newid llodre i llandre er mwyn parchusrwydd yn gwbl ddealladwy. Mae’r elfen olaf , yr enw personol Môr, yn digwydd yn Peniarth 140 [AD1569] sydd yn olrhain achau teulu, dros yr afon Llwchwr, ym mhlwyf Llan Edi megis - ‘R. ap gwlhaved ap Einion ap llowarch ap mor &c.’ Tybed ai hwn, neu perthynas iddo , oedd y Môr eponymaidd yn yr enw Llodre Mor?

A beth am Landimôr/ Llandimôr? Mae ffurf Llandymor 1291, yn dangos mai llan yw’r elfen gyntaf, er bod lleoliad yr eglwys gynnar yn ansicr. I’r eglwys gynnar hon y perthyn yr enw personol Tymôr, ail elfen enw’r lle. Mae honno eto yn cynnwys yr enw personol Môr , wedi ei rhagflaenu gan y rhagddodiad parch ty- i rhoi Tymôr a Llandymôr. Byddai’n arferol i Tymôr ddatblygu’n Tyfôr (megis my & Môr > Myfôr) ond mi newidiwyd iaith yr ardal gyda dyfodiad y Normaniaid a’r Saeson yn eu sgîl, ac mi ffosileiddiwyd Tymôr yn ei ffurf gynnar – felly saif megis Llandymôr yn hytrach na’r ddisgwyliedig Llandyfôr.