‘Grug y mynydd yn eu blodau,
Edrych arnynt hiraeth ddug’
Dwy o linellau Ceiriog yn ei gân hyfryd Nant y Mynydd.
Efallai mai golygfa tebyg i hon a ddaeth a’r hiraeth i’w fron.
Gair am fan lle mae grug yn tyfu’n drwchus yw grugos, hynny yw grug + yr ôl-ddodiad –os. Pan mae grugos yn dilyn y fannod, ceir treiglad meddal - y rugos, a dyna yw enw’r pentref bach yng ngogledd Cwm Cynon, rhwng Hirwaun a Chwm Nedd. Mewn amser, anwybyddwyd y fannod ar ddechrau’r enw gan amlaf, ac fe ddefnyddiwyd Rugos yn unig.
Ceir yr ôl-ddodiad luosog bachigol –os mewn geiriau megis plantos (am lu o blant bach), merchetos, bechgynnos, meibionos a dynionos (am gorachod, dynion bach). Mae’n digwydd hefyd gydag enwau coed a phlanhigion megis bedwos, brwynos, rhedynos ac wrth gwrs grugos.
Ardal y Wenhwyseg yw Cwm Cynon. Tafodiaith sy’n byrhau llafariaid ac yn caledu cytseiniaid. Yn y dafodiaith hon mae rugos yn cael ei ynganu megis ricos.
Mae enghraifft ar glawr yn llyfr gwych D. Rhys Phillips The History of the Vale of Neath, tud.599, lle mae e’n sȏn am ‘Gwŷr y byd, a gwŷr y Ricos’.
Orgraff wallus ac anfoddhaol yw Rhigos. Dywed yr Athro Melville Richards ‘Y Rugos yw’r ffurf safonol gywir, sef enw yn disgrifio llecyn lle y tyfai llawer o rug’ (Enwau Tir a Gwlad’, tud. 251.)
Onid yw hi’n bryd i ni ddilyn argymhellion y diweddar ddysgedig Athro?
Deric Meidrum John Ionawr 2010