Vyalt

VYALT

Wrth ddarllen drwy hen ewyllysiau plwyf Llanwynno (LlGC arlein) des i ar draws Vyalt ar ewyllys Evan Jones ym 1693 ynghyd a Vialt a Vyalt ar ewyllys Griffith Davies, 1742. Mae’n amlwg taw enw lle ydoedd ym mhlwyf Llanwynno, ond roedd yr enw Vyalt neu Vialt yn ddiarth i mi.

Rhyw bythefnos cyn hynny roeddwn yn darllen ewyllysiau plwyf Llanedi, Sir Gaerfyrddin pan ddes i ar draws ewyllys Elizabeth Mainwaring, Gelli berfedd, 1811, wedi ei sgrifennu yn Gymraeg, ac yn son am “..... Plwydd Llanedy”.

Doeddwn i erioed o’r blaen wedi gweld y gair ‘plwyf’ wedi ei sgrifennu fel ‘plwydd’ mewn unrhyw lawysgrif.

Yna cofiais am enw Caerdydd ein prifddinas. Pan oeddwn yn astudio barddoniaeth Dafydd ap Gwilym blynyddoedd maith yn ol, gwelais yr enw Caerdyf ar y lle. Dywed golygydd Thomas Parry yn ei nodiadau yn ‘Gwaith Dafydd ap Gwilym’ – “Caedyf: Ffurf wreiddiol Caerdydd o hen gyflwr traws yr enw Taf.”; hynny yw caer (afon) Taf.

Yn y dair engraifft uchod mae’r llythrennau ‘f’ ac ‘dd’ wedi eu cymysgu – plwyf > plwydd, Caerdyf > Caerdydd ac wrth gwrs y Dduallt > y Fuallt, yn y ffurfiau seisnigaidd Vyalt a Vialt.

Er mwyn cadarnhau bod Y Dduallt a’r Fuallt (Vyalt) yn ddau enw ar yr un lle, es yn ol i’r ewyllysiau a’r llawysgrifau. Mae ewyllys Griffith Davies, 1742, yn enwi “John Jones late of Vialt”. Mae cytundeb (Bond) 1714 (LlGC) yn enwi ‘John Jones of Ddyallt’. Mae Gweithredoedd Cilybebyll, 1724 (LlGC) yn cofnodi cytundeb priodas rhwng John Carne a ‘Mary Jones, sister and coheiress of John Jones of Ddyallt’. Does dim amheuaith felly bod Ddyallt, Vialt a Vyalt yn enwau am yr un lle – Y Dduallt, enw ar fferm a thir uchel ym mhlwyf Llanwynno. Mae hen bwllglo’r Black Grove Colliery gerllaw (Map 6” OS 1901), yn ymgais at gyfieithu’r Dduallt. Mae’r enw’r Dduallt yn cynnwys dwy elfen – du ac allt sy’n golygu ‘bryn coediog tywyll’.

Gyda llaw daeth y briodas rhwng Mary Jones a John Carne a rhagor o dir Gwm Cynon i afael y Carneiaid, sef Celli’rfynaches Uchaf, Y Dduallt a Rhiw Wenddar (Cilybebyll). Roedd cangen o’r teulu eisoes yn berchen ar Y Parc Newydd (The Masters of the Coalield, tud.21-23), ac mae Carnetown (1891 The Western Mail), ar dir y Parc Newydd (Parke Newydd 1672) yn ein hatgoffa am y teulu hwn o Fro Morgannwg.