PWLLIAN A PHONTNEDDFECHAN
Tribannau Morgannwg: (a) Pwllïan. (b) Pontneddfechan.
Richard Evans fwynlan
Sy’n dweud y gwir ym mhobman
Taw’r pydra dyn rhwng lloer a llawr
Yw Herbert fawr Pwllïan.
(a) Triban Ifan Bifan, Pontneddfechan yw’r uchod am rhyw Herbert fawr Pwllïan, a oedd yn nhyb Richard Evans, y pwdryn mwya erioed. Ni wn yn sicr pwy oedd yr Herbert dan sylw, ac efallai bod hynny’n beth da rhag ofn iddo berthyn i rhai o’n darllenwyr. Ond gwyddom am enw’r lle sydd yn dilyn enw Herbert fawr - Pwllïan.
Enw ar fferm ydyw, ar y chwith i’r ffordd fawr sydd yn arwain allan o Benderyn i Aberhonddu ger y fforch tuag at Ystradfellte. Mae’r enw wedi ei sillafu ar amryw ffurfiau dros y blynydde, gan gynnwys Pwllïan, Pwllhuan, Pwllyrhuan a Bwll y Caerlluan. Mae Dewi Cynon yn ei lyfr ar Hanes Plwyf Penderyn tud. 12 yn cynig “Pwll Huan – Pwll – pool; Huan – haul (Sunny Pool). Mae eraill wedi cynnig Pwll llian – the nun’s pool, ond mae ffurfiau cynnar Tyr Pwll y ddullyan (1727) Pwll y Ddylluan (1619) yn dangos taw y dylluan yw elfen ola’r enw.
Mae Pwll-y-dylluan ar lan afon Hepste, ac mae’n debyg mai pwll yn yr afon honno yw elfen gyntaf yr enw. Ychwanegwyd y dylluan i’r pwll am fod tylluanod yn ei fynychu. Ond sylwch ar y ffurfiau cynnar. Mae treiglad ychwanegol wedi digwydd wrth i tylluan > dylluan > ddylluan. Mae afon Hepste yn ymuno ac afon Mellte islaw’r cwm. Sylwch hefyd bod treiglad ychwanegol yn digwydd yn Mellte ee. Afon Mellte, Ystradfellte, Bedwellte; cf. Llanddywror < Llanddyfrwyr.
Darlun o’r hen Bont ar Nedd Fechan gan Henry Gastineau ym 1835
(b) Er taw o’r Fro neu’r cyffiniau oedd Ifan Bifan yn wreiddiol, bu’n byw yn Ystradfellte am flynyddoedd, a threuliodd dyddiau olaf ei oes ym Mhontneddfechan (sydd wedi ei Seisnigeiddio i Pontneathvaughan gan rai). Cafodd y pentref hon yr enw am iddi dyfu ger yr hen bont sydd yn croesi Afon Neddfechan cyn iddi ymuno ac Afon Mellte i ffurfio Afon Nedd. Cwtogir yr enw i’r Bont gan bobl lleol. Dyma driban Ifan (Ianto) Bifan i’r Bont:
Mae’r Bont yn llawen ddigon,
Mae’r Bont yn llawn o feibion,
Ond pan y cywir eiriau gawn,
Mae’r Bont yn llawn o ladron.
A dyma driban o bapurau yr hanesydd a’r ysgolhaig D. Rhys Phillips, “i’r hyfwedd Ifan Bifan”sydd wedi ei gladdu ar “dir Nedd Fechan” :
Têr gennyf dir Nedd Fechan
Waeth yno ‘mhell o ffwdan
Y ffyrnig fyd y cafwyd fedd
I’r hyfwedd Ifan Bifan.
DMJ.