Y Faenor

Y FAENOR

Enw ar eglwys a phlwyf y tu allan i Ferthyr Tudful yw’r Faenor. Mae ffurfiau cynnar yn cysylltu’r faenor a sant Gwynno (Vaynorweyno 1402, Vaynor Wyno 1570) un o dri sant Llantrisant (yng nghwmni ag Illtyd a Thyfodwg) a’r un Gwynno sy’n eponymaidd gydag eglwys a phlwyf Llanwynno, Cwm Cynon. Serch hynny, cafodd yr eglwys yn y Faenor ei chysegri ar gam i’r santes Gwenfrewi hyd at 1939.

Mae’r Faenor (Vaynor orgraff Seisnig) yn ffurf dreigledig ar y gair Cymraeg maenor ‘Uned diriogaethol a gweinyddol yng Nghymru gynt a gynhwysai nifer amrywiol o drefi’... G.P.C. Mae tebygrwydd y gair Cymraeg maenor i’r gair Ffrenig manoir a’r manor Saesneg wedi effeithio a dylanwadu ar y geirdarddiad. Mae’n bosib i maenor ffurf y De, a maenol y Gogledd, gynnwys y gair Cymraeg maen ‘carreg’, ond ar y llaw arall, mi allent ddeillio o’r Lladin magnus ‘mawr, eang, helaeth’ (gweler Enwau Lleoedd Sir Gaernarfon, tud. 114.)

Mae’r enw yn digwydd yn Y Faenor (Vaynor) siroedd Trefaldwyn a Maesyfed, y Faenor Gaer sir Benfro, a’r Faenor Uchaf, Ceredigion. Fel y soniwyd eisoes, mae’r ffurf y Faenol yn hysbys yng Ngogledd Cymru ac wedi dwyn enwogrwydd byd eang drwy ŵyl gerdd y cawr o fariton Bryn Terfel.