Pontydd Pontardulais ar draws yr afon Llwchwr.
Cafodd y bont ar y chwith ei hadeiladu ym 1937.
Awgrymwyd i’r hen bont ar y dde cael ei hadeiladu tua’r flwyddyn1300. Datgymaliwyd hi ym 1943.
Mae'r enw Pontarddulais yn awgrymu taw'r elfennau Pont + ar + Dulais sydd yn bresennol yn enw'r pentre hwn sydd ar y ffin rhwng siroedd Morgannwg a Chaerfyrddin. Mi fyddai'r elfennau hyn yn rhoi’r ystyr fod pont yn croesi afon Dulais yn y fan a'r lle. Nid yw'r gred hon yn un fodern. Mi welwn y ffurf 'Ponte ar theleys' [ymgais ar Pontarddulais] mor gynnar a 1557.
Ond y gwirionedd yw bod y bont a elwir yn Saesneg 'the Pontardulais Bridge' yn croesi'r afon Llwchwr. Mae'r hanesydd Rhys Ameurig yn cofnodi 'Dulais bridge upon Loghoure' ym 1578 [BGA], ac mae Croniclau Holingshead (1586) yn datgan 'Arthelais bridge over Logor'.
Felly mae'n amlwg bod rhywbeth o'i le yma achos dyw geirdarddiad Pont ar Ddulais ddim yn cytuno a lleoliad y bont sy’n croesi afon LLwchwr.
Tystiolaeth ddogfennol
Mae 'na ddogfen yn Archifdy Morgannwg, Caerdydd, yn ddyddiedig 1550, sy’n rhoi’r enw Pen y bont aber Duleis. Mae'r ffurf gynnar hon yn rhoi gwir geirdarddiad yr enw - sef y bont ger aber yr afon Dulais. Dyw'r enw 'aber' ddim yn achosi treiglad ym Mhontaberdulais. Mewn amser cwtogwyd 'aber' i 'ar' ac mi ffurfiwyd geirdarddiad dybiedig wedi ei seilio ar gamddealltwriaeth.
Cyhoeddodd E. Lewis Evans ei lyfryn ar 'Hanes Pontarddulais' ym 1949 ac fe ddaeth y ffurf dreigledig yn boblogaidd yn yr ardal oddi ar hynny. Ond roedd gwell gan y prifardd a'r ysgolhaig John 'Gwili' Jenkins y ffurf Pontardulais, megis mwyafrif o drigoion y pentre cyn cyhoeddiad y llyfryn. Mae Pontardulais wedi ei naddu allan o Pont aber Dulais, ac yn gywirach o rhan geirdarddiad a lleoliad.
Mae Pontarddulais wedi ei ffurfio allan o gamddealltwriaeth.
Pontardulais heddiw.
Mae’r bont (dros yr Afon Llwchwr) wedi ei lleoli ger aber yr afonig Dulais (ar waelod y llun).
Deric Meidrum John 12.2.11.