COURT FARM
Court Farm yw enw fferm ar fap1991yr OS nesaf at y Berth-Lwyd ger Hirwaun. Enw eithaf deniadol, parchus a braidd yn urddasol os gysyllter yr enw a phalas neu llys barn. Ond gosodwyd y ‘Court’ Saesneg yn gymharol ddiweddar am yr enw Cymraeg cwrt, sydd a’r ystyr ‘iard’ neu ‘clos fferm’. Yn wir, enw’r fferm ar gyfrifiad 1861 oedd Cwrt y llaccca, gyda llaca yn golygu ‘llaid, mwd, baw’. Nid yn urddasol iawn y pryd hynny.
Fodd bynnag, dangosodd y diweddar Nansi Selwood enw gynharach fyth i’r fferm ar ei map Penderyn Before 1750 sef “Cwrt y Llaca (Methygen)” ac mae papurau Ystad Penpont yn y flwyddyn 1547 yn cadarnhau hyn: “from the river Kenon up to a place called pull gwyn, and in breadth from lands called Methygen to nant hire,”
Mae Methygen yn ymdrech at sgrifennu meddygyn, sef yr enw Cymraeg ar y planhigyn Prunella Vulgaris sydd a rhinweddau iachaol. Defnyddiwyd ef mewn dulliau gwahanol fel carthiedydd (lacsatif); i oeri unrhyw boethder, i iachau clefydau yr afu, yr ysgyfaint, y clefyd melyn, y wrach neu gryd poeth; i esmwytho poen cefn, i symud graian o’r arenau a’r bledren ac i ostwng chwydd ar wahanol ranau’r corff. Yr enw Saesneg arno yw ‘self heal’ neu ‘all heal’.
Y planhigyn meddygyn (Prunella Vulgaris), sydd yn tyfu ar dir llaith tebyg i’r hyn sy’n cael ei awgrymu gan Cwrt y llaca.
Newidiwyd enw’r fferm Methygen i Gwrt y llacca ac yna i’r Court Farm presennol.
Dyma rhan o fap Degwm 1840 wedi ei lanhau a’i drawsgrifio. Sylwch ar enwau Cymraeg y caeau. Ystyr pedwran yw pedwar ran neu chwarter, ac mae serw yn air arall am ddisglair, pefriol.Ydy hi’n bosib bod yr enwau Erw Las, (cae 456), neu Pant Serw (cae 468) yn ein hatgoffa am y planhigion iachaol a dyfant yno ym 1547 pan alwyd y fferm wrth yr enw Methygen?
DMJ
Paratowyd yr erthygl hon o dan nawdd Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru.