Gweithio Traws-ranbarthol
Mae Consortia Addysg Cymru yn gweithio mewn partneriaeth i godi safonau ar draws pob agwedd ar addysg yng Nghymru.
Cynulleidfa Darged: Pob arweinydd ysgol ac ymarferwyr.
Mae Consortia Addysg Cymru yn gweithio mewn partneriaeth i godi safonau ar draws pob agwedd ar addysg yng Nghymru. Bydd sesiynau MDPh trawsranbarthol wedi'u cyd-ddylunio gan swyddogion consortia rhanbarthol i sicrhau cysondeb negeseuon ynghylch elfennau gorfodol allweddol Cwricwlwm i Gymru. Mae disgwyl i ysgolion weithio gydag ysgolion y tu hwnt i'w clystyrau a bydd y sesiynau MDPh trawsranbarthol hyn yn darparu cyfleoedd ar gyfer hynny.
Yn ystod tymhorau'r Hydref a'r Haf, bydd cyfle i fynychu sesiynau MDPh trawsranbarthol er mwyn datblygu dealltwriaeth o gynnydd o fewn y MDPh penodol ac i archwilio sut mae ysgolion ledled Cymru wedi datblygu eu cwricwlwm.
Tymor yr Hydref:
26/10/23: Gwyddoniaeth a Thechnoleg
07/11/23: Iechyd a Lles
16/11/23: Celfyddydau Mynegiannol
21/11/23: Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
27/11/23: Dyniaethau
06/12/23: Mathemateg a Rhifedd
Tymor yr Haf:
25/06/24: Dyniaethau
26/06/24: Iechyd a Lles
02/07/24: Celfyddydau Mynegiannol
03/07/24: Mathemateg a Rhifedd
09/07/24: Gwyddoniaeth a Thechnoleg
10/07/24: Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
Gweler y rhaglen er mwyn cael mwy o wybodaeth a’r dolenni i’r sesiynau.
CFW brochure cymraeg 23/24 (pptx)
Gweler ar wefan Consortia Addysg Cymru sesiynau recordiwyd llynedd.
Consortia Addysg Cymru - Dysgu Proffesiynol Cwricwlwm i Gymru
Debbie Moon Ymgynghorydd Arweiniol debbie.moon@partneriaeth.cymru