Rhaglen Datblygu Uwch-arweinyddiaeth
Rhaglen Genedlaethol i Ddatblygu Uwch-arweinwyr
Cynulleidfa Darged: Mae’r rhaglen hon ar gyfer arweinwyr sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am agwedd ar arweinyddiaeth ar draws sefydliad. Mae hyn yn cynnwys uwch-arweinwyr cwricwlwm/bugeiliol ac aelodau o uwch-dîm arwain, er enghraifft penaethiaid cynorthwyol neu ddirprwy benaethiaid.
Mae’r rhaglen hon ar gyfer arweinwyr sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am agwedd ar arweinyddiaeth ar draws sefydliad. Mae hyn yn cynnwys uwch-arweinwyr cwricwlwm/bugeiliol ac aelodau o uwch-dîm arwain, er enghraifft penaethiaid cynorthwyol neu ddirprwy benaethiaid.
Mae symud o arweinyddiaeth ganol i uwch-arweinyddiaeth yn gofyn am newid i feddylfryd ysgol gyfan, y sgiliau i reoli timau cymhleth a blaenoriaethau gwrthgyferbyniol, a hynny gan sicrhau ar yr un pryd eich bod yn cadw dysgwyr wrth galon popeth a wnewch.
Mae’r rhaglen datblygu un flwyddyn hon yn gyfle dysgu proffesiynol i uwch-arweinwyr ledled Cymru. Bydd y cyfranogwr yn gweithio ar ei ben ei hun ac ar y cyd ag eraill yn rolau arweinwyr sefydliadau sy’n dysgu. Mae hon yn rhaglen genedlaethol a gydgysylltir gan gonsortia rhanbarthol ac sy’n defnyddio amrywiaeth o bartneriaid cyflawni.
Trwy hunanwerthuso a myfyrio, gan archwilio’r perthnasoedd rhwng arweinyddiaeth, ysgolion llwyddiannus a’r gymuned ehangach, mae’r rhaglen yn hyrwyddo arweinyddiaeth hynod o effeithiol.
Yn rhan o’r continwwm dysgu proffesiynol, bydd cyfranogwyr, trwy’r rhaglen hon, yn:
Datblygu ymhellach eu dealltwriaeth o rôl uwch-arweinydd
Datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau a ddylai fod yn gyfarwydd i uwch-arweinydd effeithiol ac y dylai allu eu mabwysiadu
Cael cyfle i ddatblygu’r ymddygiadau arweinyddiaeth y mae eu hangen ar uwch-arweinydd effeithiol
Datblygu eu dealltwriaeth o’r agenda diwygio cenedlaethol ymhellach
Datblygu eu hymarfer yn unol â’r safonau arweinyddiaeth ffurfiol.
Mae pawb a dderbynnir ar y rhaglen yn:
Arwain ar ddatblygu, gweithredu ac adolygu Tasg Profiad o Arweinyddiaeth
Mae’r holl gyfranogwyr yn mynychu ac yn cyfrannu at gymryd rhan ym mron pob un o fodiwlau’r rhaglen
Mae’r holl gyfranogwyr yn adolygu eu harweinyddiaeth eu hunain ac yn datblygu’r agweddau y maent yn eu nodi eu hunain i’w gwella, yn unol â’r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth.
Manylion y Digwyddiad:
Mae’r rhaglen hon yn rhan o broses ddatblygu barhaus a dilyniannol sy’n cyd-fynd â’r llwybr dysgu proffesiynol, a bydd yn adeiladu ar sgiliau a gwybodaeth dysgu proffesiynol blaenorol unigolyn.
Mae yna fodiwlau craidd sy’n galluogi’r cyfranogwr i ddatblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r ddealltwriaeth i ddod yn uwch-arweinydd effeithiol.
Mae dull darparu’r rhaglen i uwch-arweinwyr yn cynnwys mentora, rhwydweithiau cymorth cymheiriaid, a hunanadolygiad unigol o safonau arweinyddiaeth. Darperir yr holl weithgareddau yr ymgymerir â nhw yn rhan o’r rhaglen hon yn Gymraeg, yn Saesneg neu’n ddwyieithog.
Ceir mynediad i’r rhaglen trwy’r broses ymgeisio genedlaethol, mae dolen i’r cais ar y wefan hon.
Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno gan y consortia rhanbarthol ac uwch-arweinwyr o ysgolion yn y rhanbarth. Bydd y rhaglen ddatblygu hon yn cynnwys:
Modiwl 1 Gwerthoedd ac ymagweddau, hunanfyfyrio. Arddulliau arwain, arwain a rheoli
Modiwl 2 Gweithio gydag Eraill. Rheoli newid. Arwain ymholiad.
Modiwl 3 Datblygu perfformiad. Rheoli tangyflawni. Hyfforddi a Mentora.
Modiwl 4 Addysgeg. Hunanarfarnu a gwella ysgolion.
Modiwl 5 Cydweithredu. Tasg Profiad o Arweinyddiaeth.
Rhaid cofrestru trwy system archebu genedlaethol, a fydd yn dosbarthu ffurflenni wedi’u llenwi i’r priod ranbarth lle y cyflogir y cyfranogwr. Bydd y broses ganolog hon o gofrestru yn caniatáu i ddata cenedlaethol gael eu casglu ac i’r trefniadau mwyaf priodol gael eu rhoi ar waith ar gyfer pob carfan.
Dyddiad cau 13/10/2023
Janet Waldron Interim Lead for Middle Leader Development waldronj11@hwbcymru.net
Rob Phillips Interim Lead for Leadership phillipsr145@hwbcymru.net
Hazel Faulkner Business Support Officer hazel.faulkner@partneriaeth.cymru