Aseswyr Cynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch (CALU)
Rhaglen Genedlaethol i Hyfforddi Aseswyr Cynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch
Cynulleidfa Darged: Y rhai sydd â phrofiad amlwg o weithio’n effeithiol gyda chynorthwywyr addysgu: Uwch- arweinydd, Athro, cynorthwyydd addysgu profiadol sydd wedi ennill Statws CALU neu rôl yn eich Consortia rhanbarthol.
Mae’r Consortia Gwella Ysgolion Rhanbarthol yn chwilio am ymarferwyr i ymuno â’r tîm sy’n ymwneud â’r Rhaglen Asesu Cynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch (CALU) ar ran Llywodraeth Cymru.
O fod yn asesydd, bydd gofyn i chi gynnal asesiadau mewn ysgolion ledled eich rhanbarth o ymgeiswyr sydd wedi cwblhau’r Rhaglen ar gyfer Darpar Gynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch, ac sy’n symud ymlaen i gael eu hasesu.
I fod yn gymwys i ymgymryd â rôl asesydd ar gyfer Darpar Gynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch, bydd angen i chi:
Feddu ar ddealltwriaeth o rôl Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch.
Bod yn gyfarwydd â’r Safonau Proffesiynol ar gyfer Cynorthwyo Addysgu.
Bod yn uwch-arweinydd neu’n athro â phrofiad amlwg o weithio’n effeithiol gyda chynorthwywyr addysgu NEU
Fod â rôl yn eich Consortia rhanbarthol neu fod yn gynorthwyydd addysgu profiadol sydd â statws CALU.
Rhaid i chi hefyd:
Feddu ar sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig da, gan gynnwys lefel o gymhwysedd i allu cwblhau’r asesiad yn ddigidol.
Cael cymeradwyaeth eich Pennaeth/Rheolwr Llinell, a’r Corff Llywodraethu lle bo’n berthnasol.
Mae’r gallu i gynnig darpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol, ond nid yw’n hanfodol.
Manylion y Digwyddiad:
Er mwyn cyflawni’r rôl hon, byddai angen i aseswyr ymrwymo i’r canlynol:
Hyfforddiant Cenedlaethol ar gyfer aseswyr newydd yn unig (3 sesiwn hanner diwrnod ar-lein)
Hyfforddiant Diweddaru rhanbarthol (sesiwn hanner diwrnod ar-lein)
O leiaf 2 asesiad
Presenoldeb yn y sesiwn gymedroli ranbarthol (hanner diwrnod)
Ymrwymo i gymryd rhan yn Rhaglen Asesu Cynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch ar gyfer 2023-24 a 2024-2025.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:
Heulwen Lloyd Arweinydd Prosiect – Dysgu Proffesiynol Cynorthwywyr Addysgu heulwen.lloyd@partneriaeth.cymru