Y Celfyddydau Mynegiannol
Rhwydwaith Cynradd ar gyfer MDaPh Y Celfyddydau Mynegiannol
Cynulleidfa Darged: Arweinwyr Meysydd Dysgu a Phrofiad mewn ysgolion a lleoliadau cynradd.
Mae ‘Cwricwlwm i Gymru: Y daith i 2022’ yn nodi disgwyliadau cyson i ysgolion a lleoliadau ar gyfer y broses o gynllunio a gweithredu eu cwricwla.
Mae Cynllun Gweithredu Cwricwlwm i Gymru yn nodi dyheadau a rennir – sy’n disgrifio sut olwg ddylai fod ar y system addysg yn yr hirdymor, o ganlyniad i ysgolion a lleoliadau yn cynllunio a gweithredu eu cwricwla. Dylai fod gan ymarferwyr y gofod i ddatblygu a defnyddio eu gwaith addysgu, eu galluedd a’u creadigrwydd i helpu i wireddu eu huchelgeisiau trwy’r cwricwlwm, ac mae galluogi lle i arweinwyr Meysydd Dysgu a Phrofiad mewn lleoliadau cynradd drafod dysgu ac addysgu sy’n galluogi pob dysgwr i wireddu dyheadau’r pedwar diben yn allweddol.
Dim ond trwy greu cyfleoedd i ymarferwyr fod yn berchen ar y broses ddiwygio yn eu hysgolion a’u lleoliadau, iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u grymuso gan y broses honno, a theimlo eu bod wedi’u hysgogi i gyfrannu at ei datblygiad parhaus, y gallwn sicrhau llwyddiant hirdymor Cwricwlwm i Gymru.
Bydd y rhwydwaith Arweinwyr Meysydd Dysgu a Phrofiad Cynradd tymhorol yn rhoi cyfle i bawb rannu, trafod a gwella eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o ran anghenion unigryw pob MDaPh gorfodol, yn ogystal â’r sgiliau i fonitro a gwerthuso effeithiolrwydd pob MDaPh yn eu hysgolion. Bydd ymarferwyr yn datblygu gwybodaeth addysgegol sy’n cefnogi’r broses o ddarparu pob Maes Dysgu a Phrofiad mewn modd effeithiol, gan sicrhau bod pob dysgwr yn gwneud cynnydd.
Bydd y rhai sy’n bresennol yn ymgysylltu â phob Maes Dysgu a Phrofiad a bydd ganddynt ddealltwriaeth well ohonynt er mwyn cynllunio eu cwricwlwm lleol
Bydd gan y rhai sy’n bresennol ddealltwriaeth ddyfnach o gynnydd ym mhob Maes Dysgu a Phrofiad
Bydd y rhai sy’n bresennol yn datblygu gwybodaeth addysgegol er mwyn cefnogi proses effeithiol o gynllunio a gweithredu pob Maes Dysgu a Phrofiad
Bydd y rhai sy’n bresennol yn datblygu’r sgiliau a’r ddealltwriaeth i ddod yn arweinwyr Meysydd Dysgu a Phrofiad adfyfyriol er mwyn monitro a gwerthuso pob MDaPh
Bydd y rhai sy’n bresennol yn penderfynu ar gynnwys y rhwydweithiau tymhorol ac yn cael cyfleoedd i rannu eu profiadau o ran Cwricwlwm i Gymru.
Manylion y Digwyddiad:
10/11/23 Trwy’r dydd
Cothi, Canolfan Halliwell, Caerfyrddin SA31 3EP
Archebwch yma
22/02/24 Trwy’r dydd
Cothi, Canolfan Halliwell, Carmarthen SA31 3EP
Archebwch yma
28/06/24 Trwy’r dydd
Teifi, Canolfan Halliwell, Caerfyrddin SA31 3EP
Archebwch yma
Debbie Moon MDaPh Y Celfyddydau Mynegiannol debbie.moon@partneriaeth.cymru
Rhwydwaith Arweinwyr Uwchradd: Y Celfyddydau Mynegiannol MDaPh
Cynulleidfa Darged: Arweinwyr uwchradd ar gyfer y Maes Dysgu a Phrofiad
Cyfle i rwydweithio ar gyfer arweinwyr Celfyddydau Mynegiannol uwchradd. Bydd y rhwydweithiau tymhorol hyn yn rhoi cyfleoedd i arweinwyr gydweithio â chyd-weithwyr o bob rhan o’r rhanbarth.
Bydd y mynychwyr yn cael diweddariadau a hyfforddiant ar y meysydd canlynol:
Addysgu a dysgu – addysgeg, adnoddau ac enghreifftiau o ysgolion sy’n benodol i’r MDaPh.
Cwricwlwm – ystyried elfennau gorfodol Cwricwlwm i Gymru a darparu arweiniad ymarferol ar y modd i weithredu’r negeseuon hyn yn effeithiol mewn arweinyddiaeth ganol i gefnogi athrawon yn eu Maes.
Arweinyddiaeth – rhannu, trafod a gwella gwybodaeth a dealltwriaeth o ran anghenion unigryw’r Y Celfyddydau Mynegiannol MDaPh, ynghyd â’r sgiliau i fonitro a gwerthuso effeithiolrwydd y Maes yn eu hysgolion.
Wrth i’r rhwydwaith hwn aeddfedu, bydd yn darparu diweddariadau a phwyntiau trafod ynghylch diwygio Cymwysterau, ynghyd â diweddariadau gan Cymwysterau Cymru ac o ran cyfresi arholiadau TGAU penodol CBAC.
Bydd y mynychwyr yn ymgysylltu â’r Maes Dysgu a Phrofiad Celfyddydau Mynegiannol MDaPh, a bydd ganddynt well dealltwriaeth ohono ar gyfer cynllunio eu cwricwlwm lleol.
Bydd y mynychwyr yn datblygu gwybodaeth addysgegol er mwyn cefnogi proses effeithiol o gynllunio a gweithredu’r Maes Dysgu a Phrofiad Y Celfyddydau Mynegiannol MDaPh.
Bydd y mynychwyr yn datblygu’r sgiliau a’r ddealltwriaeth i ddod yn arweinwyr myfyriol yn achos y Meysydd Dysgu a Phrofiad, a hynny fel y gallant fonitro a gwerthuso’r MDaPh Y Celfyddydau Mynegiannol MDaPh.
Bydd y mynychwyr yn llywio’r cynnwys ar gyfer y rhwydweithiau tymhorol.
Manylion y Digwyddiad:
23/10/2023 Trwy’r dydd
Teifi, Canolfan Halliwell, Caerfyrddin SA31 3EP
Archebwch yma
14/03/2024 Trwy’r dydd
Teifi, Canolfan Halliwell, Caerfyrddin SA31 3EP
Archebwch yma
05/07/2024 Trwy’r dydd
Teifi, Canolfan Halliwell, Caerfyrddin SA31 3EP
Archebwch yma
Debbie Moon Y Celfyddydau Mynegiannol MDaPh debbie.moon@partneriaeth.cymru
Sesiynau galw heibio ar y Meysydd Dysgu a Phrofiad: Y Celfyddydau Mynegiannol
Cynulleidfa Darged: Yr holl staff mewn ysgolion a lleoliadau addysgol.
Mae Partneriaeth yn ymrwymedig i ddarparu dysgu proffesiynol cyffredinol, pwrpasol ac o ansawdd uchel i bob ysgol a lleoliad ledled y rhanbarth. Mae Partneriaeth yn cydnabod yr heriau sylweddol sy’n wynebu ysgolion ar hyn o bryd, yn ogystal â’r anawsterau y mae sawl un yn eu hwynebu wrth geisio hwyluso’r staff i fynd i ddigwyddiadau dysgu proffesiynol. Er mwyn ceisio lliniaru’r heriau hyn, mae Partneriaeth wedi amserlennu sesiynau galw heibio ar-lein ar y Meysydd Dysgu a Phrofiad.
Mae’r sesiynau galw heibio hyn, a gynhelir bob tymor (a phob hanner tymor), wedi’u hamserlennu i ddarparu cyfleoedd i siarad â swyddogion Partneriaeth sy’n arwain y broses o ddatblygu a chefnogi’r Meysydd Dysgu a Phrofiad. Maent yn anffurfiol ac, yn ôl eu natur, byddant yn ymatebol i anghenion y rhai a fydd yn bresennol.
Cael cyfle i fynegi pryderon a chael eu cefnogi i ddod o hyd i atebion.
Manylion y Digwyddiad:
24/10/2023 09:00 – 10:00
Cliciwch yma i ymuno â’r cyfarfod
12/12/2023 13:30 – 14:30
Cliciwch yma i ymuno â’r cyfarfod
27/02/2024 15:30 – 16:30
Cliciwch yma i ymuno â’r cyfarfod
08/05/2024 09:00 – 10:00
Cliciwch yma i ymuno â’r cyfarfod
11/07/2024 15:00 – 16:30
Cliciwch yma i ymuno â’r cyfarfod
Debbie Moon Y Celfyddydau Mynegiannol debbie.moon@partneriaeth.cymru