Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Rhwydwaith Arweinwyr Cynradd ar gyfer MDaPh Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Cynulleidfa Darged: Arweinwyr Meysydd Dysgu a Phrofiad mewn ysgolion a lleoliadau cynradd.

Mae ‘Cwricwlwm i Gymru: Y daith i 2022’ yn nodi disgwyliadau cyson i ysgolion a lleoliadau ar gyfer y broses o gynllunio a gweithredu eu cwricwla.Mae Cynllun Gweithredu Cwricwlwm i Gymru yn nodi dyheadau a rennir – sy’n disgrifio sut olwg ddylai fod ar y system addysg yn yr hirdymor, o ganlyniad i ysgolion a lleoliadau yn cynllunio a gweithredu eu cwricwla. Dylai fod gan ymarferwyr y gofod i ddatblygu a defnyddio eu gwaith addysgu, eu galluedd a’u creadigrwydd i helpu i wireddu eu huchelgeisiau trwy’r cwricwlwm, ac mae galluogi lle i arweinwyr Meysydd Dysgu a Phrofiad mewn lleoliadau cynradd drafod dysgu ac addysgu sy’n galluogi pob dysgwr i wireddu dyheadau’r pedwar diben yn allweddol.

Dim ond trwy greu cyfleoedd i ymarferwyr fod yn berchen ar y broses ddiwygio yn eu hysgolion a’u lleoliadau, iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u grymuso gan y broses honno, a theimlo eu bod wedi’u hysgogi i gyfrannu at ei datblygiad parhaus, y gallwn sicrhau llwyddiant hirdymor Cwricwlwm i Gymru.

Bydd y rhwydwaith Arweinwyr Meysydd Dysgu a Phrofiad Cynradd tymhorol yn rhoi cyfle i bawb rannu, trafod a gwella eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o ran anghenion unigryw pob MDaPh gorfodol, yn ogystal â’r sgiliau i fonitro a gwerthuso effeithiolrwydd pob MDaPh yn eu hysgolion. Bydd ymarferwyr yn datblygu gwybodaeth addysgegol sy’n cefnogi’r broses o ddarparu pob Maes Dysgu a Phrofiad mewn modd effeithiol, gan sicrhau bod pob dysgwr yn gwneud cynnydd.

Manylion y Digwyddiad:

24/10/23 Trwy’r dydd
Teifi, Halliwell Centre, Caerfyrddin SA31 3EP
Archebwch yma

12/03/24 Trwy’r dydd
Teifi, Halliwell Centre, Caerfyrddin SA31 3EP
Archebwch yma

04/07/24 Trwy’r dydd
Teifi, Halliwell Centre, Caerfyrddin SA31 3EP
Archebwch yma


Adrian Smith MDaPh Gwyddoniaeth a Thechnoleg adrian.smith@partneriaeth.cymru 

Stuart Jacob MDaPh Gwyddoniaeth a Thechnoleg stuart.jacob@partneriaeth.cymru 

David Bradley MDaPh Gwyddoniaeth a Thechnoleg david.bradley@partneriaeth.cymru 

PDF

Rhwydweithiau Pwnc Uwchradd: Gwyddoniaeth

Cynulleidfa Darged: Arweinwyr canol uwchradd

Mae’r rhwydweithiau tymhorol hyn yn rhoi cyfleoedd i arweinwyr gydweithio ar draws Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin ac Abertawe. Bydd y rhai sy’n bresennol yn cael diweddariadau a hyfforddiant ar y canlynol:


Manylion y Digwyddiad:   

Trwy’r dydd

18/10/23   Sir Gaerfyrddin                           
Y Llwyfan, Heol Y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ
Archebwch yma

19/10/23   Sir Benfro
Neuadd y Frenhines, Arberth, Sir Benfro SA67 7AS
Archebwch yma

20/10/23   Abertawe
Ysgol Dylan Thomas, Stryd John, Cockett, Abertawe, SA2 0FR
Archebwch yma

06/03/24   Sir Gaerfyrddin
Taf, Halliwell Centre, Caerfyrddin SA31 3EP
Archebwch yma

07/03/24   Sir Benfro
Neuadd y Frenhines, Arberth, Sir Benfro SA67 7AS
Archebwch yma

08/03/24   Abertawe
Ysgol Dylan Thomas, Stryd John, Cockett, Abertawe, SA2 0FR
Archebwch yma

26/06/24   Sir Gaerfyrddin
Y Llwyfan, Heol Y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ
Archebwch yma

27/06/24   Sir Benfro
Neuadd y Frenhines, Arberth, Sir Benfro SA67 7AS
Archebwch yma

28/06/24   Abertawe
Ysgol Dylan Thomas, Stryd John, Cockett, Abertawe, SA2 0FR
Archebwch yma


David Bradley MDaPh Gwyddoniaeth a Thechnoleg david.bradley@partneriaeth.cymru


PDF

Sesiynau galw heibio ar y Meysydd Dysgu a Phrofiad: Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Cynulleidfa Darged: Yr holl staff mewn ysgolion a lleoliadau addysgol.

Mae Partneriaeth yn ymrwymedig i ddarparu dysgu proffesiynol cyffredinol, pwrpasol ac o ansawdd uchel i bob ysgol a lleoliad ledled y rhanbarth. Mae Partneriaeth yn cydnabod yr heriau sylweddol sy’n wynebu ysgolion ar hyn o bryd, yn ogystal â’r anawsterau y mae sawl un yn eu hwynebu wrth geisio hwyluso’r staff i fynd i ddigwyddiadau dysgu proffesiynol. Er mwyn ceisio lliniaru’r heriau hyn, mae Partneriaeth wedi amserlennu sesiynau galw heibio ar-lein ar y Meysydd Dysgu a Phrofiad.

Mae’r sesiynau galw heibio hyn, a gynhelir bob tymor (a phob hanner tymor), wedi’u hamserlennu i ddarparu cyfleoedd i siarad â swyddogion Partneriaeth sy’n arwain y broses o ddatblygu a chefnogi’r Meysydd Dysgu a Phrofiad. Maent yn anffurfiol ac, yn ôl eu natur, byddant yn ymatebol i anghenion y rhai a fydd yn bresennol.

Manylion y Digwyddiad:

27/10/2023 09:30 - 11:00
Cliciwch yma i ymuno â’r cyfarfod

13/03/2024 15:00 - 16:30
Cliciwch yma i ymuno â’r cyfarfod

04/07/2024 13:00 - 14:30
Cliciwch yma i ymuno â’r cyfarfod


I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:

Adrian Smith Gwyddoniaeth a Thechnoleg MDaPh adrian.smith@partneriaeth.cymru

Stuart Jacob Gwyddoniaeth a Thechnoleg MDaPh stuart.jacob@partneriaeth.cymru

David Bradley Gwyddoniaeth a Thechnoleg MDaPh david.bradley@partneriaeth.cymru

PDF