Tegwch a Llesiant

Wrth wraidd Cwricwlwm i Gymru y mae ymrwymiad i ddatblygu pob dysgwr tuag at y pedwar diben. Ni ellir cyflawni hyn oni bai fod yna ddealltwriaeth o degwch mewn addysg a phwysigrwydd llesiant y dysgwyr, ynghyd ag ymrwymiad i sicrhau hynny. Mae tegwch mewn addysg yn golygu darparu'r adnoddau, y cymorth a'r profiadau dysgu i bob dysgwr, sy'n diwallu ei anghenion ac yn ei alluogi i lwyddo. Ni ddylai amgylchiadau unigol na chymdeithasol fod yn rhwystr i gyflawni potensial addysgol.