Lliniaru effaith trawma

Wythnos Dysgu Proffesiynol Tegwch mewn Addysg  11eg - 15fed Mawrth 2024

Dydd Llun : Beth yw Tegwch mewn Addysg? 

Sesiynau'r Bore 09:30-11:30 Datblygu Gwybodaeth a Dealltwriaeth
Deall rôl Tegwch mewn Addysg
Dylan Williams, Partneriaeth
Cyflwyniad i egwyddorion allweddol darpariaeth deg a sut olwg all fod ar hyn yn yr ystafell ddosbarth ac fel rhan o ddull ysgol gyfan.

https://forms.gle/HY7rYiCDmbZhV7i26


Sesiynau'r Prynhawn 13:00-15:00 Sesiynau Ymarferol ar gyfer yr Ysgol Gyfan a'r Ystafell Ddosbarth
Cydraddoldeb mewn Addysg – Astudiaethau Achos:
Bydd y sesiwn hon yn rhoi cyfle i chi glywed am y modd y mae amrywiaeth o ysgolion/leoliadau yn gweithio i ymgorffori tegwch yn eu system addysg.

https://forms.gle/g493SaRu7cb5HmCE7


Dydd Mawrth : Lliniaru Effaith Tlodi ar Gyflawniad a Chyrhaeddiad

Sesiynau'r Bore 09:30-11:30 Datblygu Gwybodaeth a Dealltwriaeth
Deall a Lliniaru Effaith Tlodi
Children North East
Bydd y sesiwn hon yn archwilio sut i liniaru’r effaith negyddol y gall tlodi ei chael ar gyrhaeddiad a chyflawniad dysgwyr a’u teuluoedd.

https://forms.gle/5Zp1b8TLwSbkpF418


Sesiynau'r Prynhawn 13:00-15:00 Sesiynau Ymarferol ar gyfer yr Ysgol Gyfan a'r Ystafell Ddosbarth
Lliniaru Effaith Tlodi mewn Ysgolion – Astudiaethau Achos:
Bydd y sesiwn hon yn rhoi cyfle i chi glywed am y modd y mae amrywiaeth o ysgolion/leoliadau yn gweithio i liniaru effaith tlodi.

https://forms.gle/BxBUWi23ic5HEWUH8


Dydd Mercher- Lliniaru Effaith Trawma ar Gyflawniad a Chyrhaeddiad

Sesiynau'r Bore 09:30-11:30 Datblygu Gwybodaeth a Dealltwriaeth
Deall Ymlyniad a Thrawma
Helen Worrall, Ymgynghorydd Addysg Annibynnol
Bydd y sesiwn hon yn eich helpu i ddeall y modd y gall ymlyniad y tarfwyd arno a/neu brofiad o ddigwyddiadau trawmatig effeithio ar y gallu i hunanreoleiddio a bod yn 'barod i ddysgu’. 

https://forms.gle/x4JZNxTxrzDYevcJA


Sesiynau'r Prynhawn 13:00-15:00 Sesiynau Ymarferol ar gyfer yr Ysgol Gyfan a'r Ystafell Ddosbarth
Cefnogi Dysgwyr i Hunanreoleiddio:
Mae'r sesiynau 90 munud hyn yn cyflwyno dulliau ymarferol o gefnogi dysgwyr i hunanreoleiddio

https://forms.gle/cJAcn1erommPRCaX9


Dydd Iau – Ymgysylltu â’r Gymuned a Theuluoedd

Sesiynau'r Bore 09:30-11:30 Datblygu Gwybodaeth a Dealltwriaeth
Deall Rôl Ymgysylltu â'r Gymuned a Theuluoedd
Dylan Williams, Partneriaeth
Bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar pam y gall ymgysylltu â theuluoedd a chymunedau fod yn rhan o ddull eich ysgol o sicrhau darpariaeth deg. Byddwch hefyd yn cael enghreifftiau o sut y gellir cyflawni hyn trwy ddefnyddio Pecyn Cymorth Ymgysylltu â'r Gymuned a Theuluoedd Llywodraeth Cymru.

https://forms.gle/jS4LYvJbnsBPcPAn7


Sesiynau'r Prynhawn 13:00-15:00 Sesiynau Ymarferol ar gyfer yr Ysgol Gyfan a'r Ystafell Ddosbarth
Ymgysylltu â'r Gymuned a Theuluoedd mewn Ysgolion – Astudiaethau Achos:
Bydd y sesiwn hon yn rhoi’r cyfle i chi glywed sut y mae ystod o ysgolion/leoliadau wedi datblygu eu dulliau o ymgysylltu â'r gymuned a theuluoedd, a darperir enghreifftiau clir o’r hyn y maent wedi’i ganfod i fod yn effeithiol.

https://forms.gle/kspJafyeuuDRVcmF9


Dydd Gwener - Datblygu Llythrennedd Cymdeithasol ac Emosiynol

Sesiynau'r Bore 09:30-11:30 Datblygu Gwybodaeth a Dealltwriaeth
Datblygu Dysgu Cymdeithasol ac Emosiynol yn y Blynyddoedd Cynnar.
Think Equal
Bu nifer o astudiaethau sy'n dangos effaith gadarnhaol rhaglenni dysgu cymdeithasol ac emosiynol o ansawdd uchel yn ystod plentyndod cynnar ar effeithiau gydol oes. Bydd y sesiwn hon yn eich cyflwyno i'r rhaglen Think Equal sydd ag adnoddau llawn ar gyfer dysgwyr 3-6 oed. 

Byddwch yn cael y cyfle i glywed gan ysgolion sydd eisoes yn defnyddio'r rhaglen Think Equal. Byddwch hefyd yn cael arweiniad ar y modd y gall Think Equal gefnogi eich darpariaeth Iechyd a Lles.

https://forms.gle/TaQVVDFhWpZa9s8EA


Sesiynau'r Prynhawn 13:00-15:00 Sesiynau Ymarferol ar gyfer yr Ysgol Gyfan a'r Ystafell Ddosbarth
Hyfforddiant ar Emosiynau: Dull Ysgol Gyfan o Ddatblygu Llythrennedd Cymdeithasol ac Emosiynol
Partneriaeth
Bydd y sesiwn ragarweiniol hon yn darparu cyfarwyddiadau cam wrth gam ar gyfer y dechneg Hyfforddiant ar Emosiynau, sy'n defnyddio adegau o emosiynau dwysach fel cyfleoedd i ddysgu a datblygu sgiliau cymdeithasol ac emosiynol. Mae Hyfforddiant ar Emosiynau yn ddull sy’n ystyriol o drawma, a byddwch yn cael y cyfle i glywed gan ysgolion sydd wedi ymgorffori Hyfforddiant ar Emosiynau fel rhan o’u dull ysgol gyfan ar gyfer cefnogi iechyd emosiynol a meddyliol.

https://forms.gle/81VJYVbUFujxXwH4A


Dylan Williams Regional Project Lead for Equity and Wellbeing dylan.williams@partneriaeth.cymru

PDF

Ysgolion sy’n Ystyriol o Drawma

Cynulleidfa Darged: Unrhyw ymarferwr sy’n gweithio ar draws y sector addysg ehangach.

Darperir yr hyfforddiant undydd hwn gan Trauma Informed Schools UK. Gweledigaeth TISUK yw darparu hyfforddiant priodol i ysgolion, cymunedau a sefydliadau fel eu bod yn dod yn lleoedd sy’n ystyriol o drawma ac sy’n iach yn feddyliol i bawb.

Mewn ysgolion sy’n ystyriol o drawma, bydd y staff yn cydnabod y gall trawma yn ystod plentyndod gael effaith barhaol ar fywydau myfyrwyr. Mae llawer o fanteision i fabwysiadu agwedd sy’n ystyriol o drawma mewn ysgolion, gan gynnwys cyflawniad academaidd uwch a gwell iechyd meddwl i fyfyrwyr.

Manylion y Digwyddiad:

Sesiynau tymhorol

Medi 27, 2023 09:00-15:00
Eglwys Gymunedol Glannau, Abertawe SA1 8QY
Archebwch yma

Chwefror 26, 2024 Ar-lein 15:30-18:30
Archebwch yma

Mehefin 11, 2024 Ar-lein 12:30-15:30
Archebwch yma


Dylan Williams    Dysgu Proffesiynol – Tegwch a Llesiant dylan.williams@partneriaeth.cymru

PDF

Cefnogi Dysgwyr Sydd Wedi Profi Gofal

Cynulleidfa Darged: Unrhyw ymarferwr sy’n gweithio ar draws y sector addysg ehangach.

Chwalu rhwystrau i ddysgu a chreu profiad addysg cadarnhaol i bawb, ynghyd â dau o’r amcanion yn ‘Cenhadaeth ein Cenedl: safonau a dyheadau uchel i bawb’. Cynlluniwyd y rhaglen hyfforddi amlhaenog hon i ddwyn ynghyd ystod o hyfforddwyr arbenigol sydd â phrofiad helaeth o weithio gyda dysgwyr agored i niwed a dysgwyr dan anfantais, ac a all ddod ag ymagwedd bersonol a chraff i’w sesiynau. Cynlluniwyd y rhaglen hon o bump sesiwn sy’n sefyll ar eu pen eu hunain i gefnogi unrhyw aelodau o staff ysgol neu ALl sydd â chyfrifoldeb am wella deilliannau ar gyfer dysgwyr sydd wedi profi gofal, neu sydd â diddordeb yn hynny. Gellir cwblhau’r rhaglen yn ei chyfanrwydd neu ar ffurf sesiynau unigol.

Manylion y Digwyddiad:

Cyflwyniad i Rôl Ddynodedig Plant sy’n Derbyn Gofal – cyflwyniad i rôl arweinydd Plant sy’n Derbyn Gofal yn yr ysgol.

22/09/23       09:30-15:00  Ysgol Tan-y-Lan, Abertawe SA6 7HN
Archebwch yma

26/01/24       13:00-15:00  Ar-lein
Archebwch yma


Deall Anawsterau Ymlyniad – cyflwyniad i ddamcaniaeth ymlyniad ac ymddygiadau a gyflwynir sy’n aml yn gysylltiedig ag anawsterau ymlyniad.

20/10/23       09:30-12:30  Ar-lein
Archebwch yma

23/02/24       10:00-14:00  Neuadd y Frenhines, Arberth, Sir Benfro SA67 7AS
Archebwch yma


Cefnogi Dysgwyr sydd wedi’u Mabwysiadu – bydd y sesiwn hon yn archwilio’r materion y gall dysgwyr sydd wedi’u mabwysiadu eu hwynebu yn yr ysgol, rôl yr ysgol, ymgysylltiad â gofalwyr, a’r strategaethau gorau ar gyfer eu cefnogi.

05/12/23 09:30-11:30 Ar-lein
Archebwch yma

05/03/24 13:00-15:00 Ar-lein
Archebwch yma

06/06/24 15:30-17:30 Ar-lein
Archebwch yma


Chwarae sy’n seiliedig ar berthynas

24/11/23 09:30-15:00  Cothi, Canolfan Halliwell, Caerfyrddin SA31 3EP
Archebwch yma

28/06/24 10:00-12:00 Ar-lein
Archebwch yma


Pontio dysgwyr bregus

11/12/23       09:30-15:00  Taf, Canolfan Halliwell, Caerfyrddin SA31 3EP      
Archebwch yma


Dylan Williams    Dysgu Proffesiynol – Tegwch a Llesiant   dylan.williams@partneriaeth.cymru

PDF

Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs)

Cynulleidfa Darged: Unrhyw ymarferwr sy’n gweithio ar draws y sector addysg ehangach.

Mae Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs) yn ddigwyddiadau neu sefyllfaoedd dirdynnol iawn, a thrawmatig o bosibl, sy’n digwydd yn ystod plentyndod a/neu lencyndod. Gallant fod yn ddigwyddiad unigol, neu’n fygythiadau dros gyfnod estynedig i, ac yn achosion dros gyfnod estynedig o fynd yn groes i, ddiogelwch, sicrwydd, ymddiriedaeth neu gyfanrwydd corfforol y person ifanc. (Young Minds, 2018). Gall deall yr effaith y gall Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod eu cael ar allu dysgwr i ymgysylltu’n llawn â phob agwedd ar fywyd ysgol helpu ysgolion/lleoliadau i gael gwared ar y rhwystrau hyn.

Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i bob ysgol ystyried effaith Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a’r modd y gall ysgolion ddarparu man diogel i’n pobl ifanc a blaenoriaethu hynny fel rhan o Ddull Ysgol Gyfan o ymdrin â Llesiant Meddyliol ac Emosiynol.

Manylion y Digwyddiad:

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:

Dylan Williams    Dysgu Proffesiynol – Tegwch a Llesiant dylan.williams@partneriaeth.cymru

PDF