Hyfforddi a Mentora Arweinyddiaeth

Rhaglen Genedlaethol Hyfforddi a Mentora

Cynulleidfa Darged: Arweinwyrau

Un o sylfeini Cwricwlwm i Gymru yw galluogi ysgolion i ddylunio eu cwricwlwm eu hunain a chynnal asesiad. Mae cymell yn offeryn pwerus gall arweinwyr addysgol ei ddefnyddio i rymuso staff i ddyfeisio syniadau newydd ac atebion creadigol. Mae arweinwyr yn aml yn credu eu bod yn cymell ond wrth wynebu darlun o gymell dilys yn dod yn ymwybodol bod eu dull gweithredu yn canolbwyntio ar y datrysiad. Mae cymell yn darparu sgiliau i arweinwyr sy’n symud eu trefn o ddarparu datrysiadau i herio staff i feddwl drostynt eu hunain, magu hyder a hunan-barch a chreu gweithwyr ysbrydoledig, grymusol, sydd wedi eu hymgysylltu, felly mae hyn yn hanfodol os yw’r genedl hon am wireddu addewid Cwricwlwm i Gymru yn llwyddiannus.

Ar ddiwedd y rhaglen bydd y cyfranogwyr yn:

Manylion y Digwyddiad:

Chwe sesiwn hyfforddi dysgu o bell x 3.5 awr mewn carfanau o 20 o gynrychiolwyr.


I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:

Rob Phillips Arweinydd Dros Dro ar gyferArweinyddiaeth phillipsr145@hwbcymru.net

PDF

Cymorth Mentora ar gyfer Mentoriaid Sefydlu, Mentoriaid Allanol a Gwirwyr Allanol

Cynulleidfa Darged: Mentoriaid Sefydlu (MS) / Mentoriaid Allanol (MA) / Gwirwyr Allanol (GA)

Caiff pob Athro Newydd Gymhwyso (ANG) ei gefnogi gan fentor sy’n arsylwi arno ac yn gweithio gyda’r gwiriwr allanol (GA) i sicrhau bod yr ANG yn cael ei fentora i safon uchel, ac ef a fydd yn cynnal asesiad terfynol yr ANG. Mae’r Dysgu Proffesiynol hwn wedi cael ei lunio ar y cyd trwy raglen trawsranbarthol genedlaethol, ac mae ar gael i bob Mentor a Gwiriwr.

Manylion y Digwyddiad:


Am ddyddiadau a mwy o wybodaeth cliciwch yma:

Cynnig Dysgu Proffesiynol Mentoriaid Sefydlu (MS): 2023-2024

Cynnig Dysgu proffesiynol ar gyfer Gwiwrywr/Mentor Allanol (GA/MA) 2023-2024


Carol Jeffreys    Sefydlu ar gyfer Athrawon Newydd Gymhwyso carol.jeffreys@partneriaeth.cymru

PDF