Arweinyddiaeth a Llwybrau Gyrfa

Mae Partneriaeth yn darparu llwybrau gyrfa ar gyfer arweinwyr, ymarferwyr a staff cymorth ar bob lefel o’r system. Nod Partneriaeth yw, yn gyntaf, gefnogi pob gweithiwr proffesiynol i wneud cynnydd ar hyd ei lwybr gyrfa ei hun, ac yn ail, ddatblygu a chadw arweinwyr y dyfodol ledled y system. 

Yn ogystal â'r rhaglenni arweinyddiaeth a llwybrau gyrfa cenedlaethol isod, byddwch yn dod o hyd i ddysgu proffesiynol sy'n berthnasol i ymchwil ac ymholiad; ôl-16; ac arwain hyfforddiant a mentora.