Cynnig Dysgu Proffesiynol 2023/24

Mae Partneriaeth yn ymrwymedig i ddarparu dysgu proffesiynol o safon uchel a chymorth pwrpasol i ddiwallu anghenion pob ysgol a lleoliad addysgol ledled Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro ac Abertawe.  

Mae'r holl wybodaeth sy'n gysylltiedig â dysgu proffesiyanol yn Partneriaeth ar gyfer blwyddyn academaidd 2023-2024 ar gael trwy'r safle Google hwn. Mae'r cynnig dysgu proffesiynol yn cyd-fynd â thri maes allweddol y canllawiau ar wella ysgolion, ac yn sicrhau bod cyd-weithwyr ledled pob ysgol a lleoliad yn gallu ymgysylltu â'r canlynol: cwricwlwm, dysgu ac addysgu; tegwch a llesiant; datblygu arweinyddiaeth.

Er mwyn hwyluso'r broses gyfathrebu, mae gan bob clwstwr yn y rhanbarth swyddog cyswllt clwstwr dynodedig. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau mewn perthynas â dysgu proffesiynol yn Partneriaeth, cysylltwch â swyddog cyswllt eich clwstwr. 

Nodwch os gwelwch yn dda na chodir tâl am unrhyw rai o'r gweithgareddau yn y cynnig dysgu proffesiynol.