Mathemateg a Rhifedd
Rhwydwaith Arweinwyr Cynradd ar gyfer MDaPh Mathemateg and Rhifedd
Cynulleidfa Darged: Arweinwyr Meysydd Dysgu a Phrofiad mewn ysgolion a lleoliadau cynradd.
Mae ‘Cwricwlwm i Gymru: Y daith i 2022’ yn nodi disgwyliadau cyson i ysgolion a lleoliadau ar gyfer y broses o gynllunio a gweithredu eu cwricwla.
Mae Cynllun Gweithredu Cwricwlwm i Gymru yn nodi dyheadau a rennir – sy’n disgrifio sut olwg ddylai fod ar y system addysg yn yr hirdymor, o ganlyniad i ysgolion a lleoliadau yn cynllunio a gweithredu eu cwricwla. Dylai fod gan ymarferwyr y gofod i ddatblygu a defnyddio eu gwaith addysgu, eu galluedd a’u creadigrwydd i helpu i wireddu eu huchelgeisiau trwy’r cwricwlwm, ac mae galluogi lle i arweinwyr Meysydd Dysgu a Phrofiad mewn lleoliadau cynradd drafod dysgu ac addysgu sy’n galluogi pob dysgwr i wireddu dyheadau’r pedwar diben yn allweddol.
Dim ond trwy greu cyfleoedd i ymarferwyr fod yn berchen ar y broses ddiwygio yn eu hysgolion a’u lleoliadau, iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u grymuso gan y broses honno, a theimlo eu bod wedi’u hysgogi i gyfrannu at ei datblygiad parhaus, y gallwn sicrhau llwyddiant hirdymor Cwricwlwm i Gymru.
Bydd y rhwydwaith Arweinwyr Meysydd Dysgu a Phrofiad Cynradd tymhorol yn rhoi cyfle i bawb rannu, trafod a gwella eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o ran anghenion unigryw pob MDaPh gorfodol, yn ogystal â’r sgiliau i fonitro a gwerthuso effeithiolrwydd pob MDaPh yn eu hysgolion. Bydd ymarferwyr yn datblygu gwybodaeth addysgegol sy’n cefnogi’r broses o ddarparu pob Maes Dysgu a Phrofiad mewn modd effeithiol, gan sicrhau bod pob dysgwr yn gwneud cynnydd.
Bydd y rhai sy’n bresennol yn ymgysylltu â phob Maes Dysgu a Phrofiad a bydd ganddynt ddealltwriaeth well ohonynt er mwyn cynllunio eu cwricwlwm lleol
Bydd gan y rhai sy’n bresennol ddealltwriaeth ddyfnach o gynnydd ym mhob Maes Dysgu a Phrofiad
Bydd y rhai sy’n bresennol yn datblygu gwybodaeth addysgegol er mwyn cefnogi proses effeithiol o gynllunio a gweithredu pob Maes Dysgu a Phrofiad
Bydd y rhai sy’n bresennol yn datblygu’r sgiliau a’r ddealltwriaeth i ddod yn arweinwyr Meysydd Dysgu a Phrofiad adfyfyriol er mwyn monitro a gwerthuso pob MDaPh
Bydd y rhai sy’n bresennol yn penderfynu ar gynnwys y rhwydweithiau tymhorol ac yn cael cyfleoedd i rannu eu profiadau o ran Cwricwlwm i Gymru.
Manylion y Digwyddiad:
20/10/23 09:30-15:00
Teifi, Canolfan Halliwell, Caerfyrddin SA31 3EP
Archebwch yma
26/02/24 09:30-15:00
Teifi, Canolfan Halliwell, Caerfyrddin SA31 3EP
Archebwch yma
18/06/24 09:30-15:00
Teifi, Canolfan Halliwell, Caerfyrddin SA31 3EP
Archebwch yma
Kate Andrews MDaPh Mathemateg a Rhifedd kate.andrews@partneriaeth.cymru
Joanne Hudson-Williams MDaPh Mathemateg a Rhifedd joanne.hudson-williams@partneriaeth.cymru
Rhwydweithiau Pwnc Uwchradd: Mathemateg
Cynulleidfa Darged: Arweinwyr canol uwchradd
Mae’r rhwydweithiau tymhorol hyn yn rhoi cyfleoedd i arweinwyr gydweithio ar draws Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin ac Abertawe. Bydd y rhai sy’n bresennol yn cael diweddariadau a hyfforddiant ar y canlynol:
Addysgu a dysgu – rhannu addysgeg pwnc-benodol, adnoddau ac enghreifftiau gan ysgolion eraill i gefnogi arweinwyr canol i ysgogi gwelliannau yn eu hadrannau eu hunain.
Cwricwlwm – elfennau gorfodol Cwricwlwm i Gymru a darparu arweiniad ymarferol ar sut y gall arweinwyr canol weithredu’r negeseuon hyn yn effeithiol i gefnogi athrawon yn eu hadrannau.
Cymwysterau – diweddariadau gan Cymwysterau Cymru a chyfresi arholiadau TGAU penodol CBAC. Cyfleoedd i drafod diwygiadau ehangach i gymwysterau.
Arweinyddiaeth – cefnogi arweinwyr canol i gyflawni eu rolau yn effeithiol, gan roi sylw i brosesau sicrhau ansawdd, hunanwerthuso, gweinyddu TGAU a Safon Uwch a chynllunio gwelliant.
Bydd gan bawb ddealltwriaeth well o rôl yr arweinydd canol o ran sicrhau ac ysgogi gwelliant yn eu meysydd cyfrifoldeb.
Bydd gan bob arweinydd canol ddealltwriaeth well o’r broses o ddiwygio’r cwricwlwm a chymwysterau.
Bydd pob arweinydd canol yn trafod ac yn clywed enghreifftiau o strategaethau addysgu a dysgu cyfredol ac effeithiol sy’n briodol i’w pynciau.
Bydd pob arweinydd canol yn cael cyfle i rannu a chlywed enghreifftiau o arfer effeithiol mewn perthynas â naill ai arweinyddiaeth ganol, addysgu a dysgu neu ddiwygio’r cwricwlwm/cymwysterau.
Manylion y Digwyddiad:
09:30-15:00
03/10/23 Sir Gaerfyrddin / Sir Benfro
Y Llwyfan, Heol Y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ
Archebwch yma
09/10/23 Abertawe
Neuadd Vivian, Canolfan Dylan Thomas, Abertawe SA1 1RR
Archebwch yma
01/02/24 Sir Gaerfyrddin / Sir Benfro
Neuadd y Frenhines, Arberth, Sir Benfro SA67 7AS
Archebwch yma
09/02/24 Abertawe
Neuadd Vivian, Canolfan Dylan Thomas, Abertawe SA1 1RR
Archebwch yma
01/07/24 Sir Gaerfyrddin / Sir Benfro
Y Llwyfan, Heol Y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ
Archebwch yma
02/07/24 Abertawe
Neuadd Vivian, Canolfan Dylan Thomas, Abertawe SA1 1RR
Archebwch yma
Kate Andrews MDaPh Mathemateg a Rhifedd kate.andrews@partneriaeth.cymru
Joanne Hudson-Williams MDaPh Mathemateg a Rhifedd joanne.hudson-williams@partneriaeth.cymru
Hyfforddiant Mathemateg Uwchradd ar gyfer athrawon anarbenigol ac athrawon newydd gymhwyso
Cynulleidfa Darged: Arweinwyr rhifedd uwchraddsy’n gweithio gyda dysgwyr ym mlynyddoedd 7,8 a 9.
Mae addysgeg wrth galon y cwricwlwm pan fydd dysgu ac addysgu yn ystyried y ‘pam’ a’r ‘sut’ yn ogystal â’r ‘beth’. Mae cynnydd ym Maes Dysgu a Phrofiad Mathemateg a Rhifedd yn golygu datblygu pum hyfedredd cysylltiedig a chyd-ddibynnol: Dealltwriaeth gysyniadol; Cyfathrebu gan ddefnyddio symbolau; Rhesymu rhesymegol; a Chymhwysedd strategol.
Dylid adeiladu ar gysyniadau a syniadau mathemategol, eu dyfnhau a’u cysylltu wrth i’r dysgwyr brofi syniadau mathemategol cynyddol gymhleth. At hynny, mae adnabod strwythur mathemategol mewn problem a llunio problemau yn fathemategol er mwyn gallu eu datrys yn dibynnu ar ddealltwriaeth o’r syniadau a’r disgyblaethau yn y meysydd dysgu a phrofiad, ochr yn ochr â dyfnder gwybodaeth. Felly, mae’n hanfodol bod ymarferwyr yn meddu ar ddealltwriaeth ddofn o’r cysyniadau mathemategol sy’n sail i ddysgu, ynghyd â’r dulliau addysgeg i ddatblygu hyn, a hynny er mwyn sicrhau bod y dysgwyr yn deall ac yn gwneud cynnydd mewn Mathemateg a Rhifedd.
Bydd y dysgu proffesiynol hwn yn archwilio’r cysyniadau mathemategol allweddol ym mhob un o’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig a’r dulliau addysgeg i gefnogi’r broses o addysgu’r cysyniadau hyn. Bydd ystyriaethau pwysig o ran yr iaith, y camdybiaethau, y cynrychioliadau, y strategaethau a’r adnoddau a ddefnyddir yn cael eu nodi a’u harchwilio.
Bydd ymarferwyr uwchradd yn ystyried yr eirfa a’r iaith allweddol sy’n ofynnol i ddyfnhau dealltwriaeth y dysgwyr.
Bydd ymarferwyr uwchradd yn nodi’r camdybiaethau sydd gan ddysgwyr ac yn datblygu strategaethau i’w dinoethi a’u gwaredu o’r ystafell ddosbarth.
Bydd ymarferwyr uwchradd yn meithrin dealltwriaeth ddyfnach o’r cysyniadau mathemategol a’r dulliau addysgeg i ddatblygu dealltwriaeth y dysgwyr, a bydd ganddynt yr hyder i weithredu’r dulliau hyn yn yr ystafell ddosbarth.
Bydd ymarferwyr uwchradd yn archwilio amrywiaeth o strategaethau addysgu a chynrychioliadau sy’n datblygu dealltwriaeth y dysgwyr.
Bydd ymarferwyr uwchradd yn archwilio ystod eang o adnoddau sy’n hybu meddwl yn fathemategol.
Manylion y Digwyddiad:
4 Rhagfyr 2023 09:30-15:00
Archwilio cysyniadau mathemategol mewn Rhifau a Geometreg/Mesurau
Cothi, Canolfan Halliwell, Caerfyrddin SA31 3EP
Archebwch yma
16 Ebrill 2024 09:30-15:00
Archwilio cysyniadau mathemategol mewn Algebra
Teifi, Canolfan Halliwell, Caerfyrddin SA31 3EP
Archebwch yma
Kate Andrews MDaPh Mathemateg a Rhifedd kate.andrews@partneriaeth.cymru
Joanne Hudson-Williams MDaPh Mathemateg a Rhifedd joanne.hudson-williams@partneriaeth.cymru
Gweithgor Asesu Mathemateg a Rhifedd – Ymarferwyr B1, 2 a 3
Cynulleidfa Darged: Ymarferwyr sy’n gweithio gyda dysgwyr ym Mlynyddoedd 1, 2 a 3.
Mae Cwricwlwm i Gymru yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion ac ymarferwyr gydweithredu i nodi a rhannu trefniadau ar gyfer asesu sy’n cael eu hymgorffori mewn ymarfer o ddydd i ddydd ac sy’n llywio’r broses o gynllunio ar gyfer cynnydd.
Mewn Mathemateg a Rhifedd mae yna bum hyfedredd newydd yn Cwricwlwm i Gymru, sef yr egwyddorion cynnydd gorfodol. Yn ogystal, mae’r asesiadau personol ar-lein ym maes rhesymu rhifiadol yn asesu’r dysgwyr mewn perthynas â’r pum hyfedredd hyn.
Mae’r gweithgor hwn yn dilyn prosiect llwyddiannus yn 2022-23 a oedd yn canolbwyntio ar asesu dysgwyr blynyddoedd 6-9 yn y pum hyfedredd. Gofynnodd yr ymarferwyr cynradd a ddaeth i’r grŵp hwn yn 2022-23 am weithgor tebyg gyda ffocws ar ddatblygu asesiadau ar gyfer blynyddoedd 1-3.
Bydd y gweithgor hwn yn archwilio sut y gellir defnyddio’r hyfedreddau i arwain asesu mewn Mathemateg a Rhifedd a chefnogi ysgolion wrth iddynt gynllunio eu cwricwlwm.
Bydd yr ymarferwyr ym Mlynyddoedd 1, 2 a 3 yn cydweithio ledled y rhanbarth am ddeuddydd fel rhan o’r gweithgor Asesu i ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o gynnydd ac asesu yn y pum hyfedredd mewn Mathemateg a Rhifedd.
Bydd yr ymarferwyr yn cael gwybod am yr hyfedreddau gan Acumina, sy’n ysgrifennu’r cwestiynau yn yr asesiadau personol ar-lein ar gyfer rhesymu rhifedd a’r adnoddau dosbarth.
Bydd yr ymarferwyr yn creu ac yn dod o hyd i gwestiynau i gefnogi cynnydd ac asesu mewn Mathemateg a Rhifedd, ac yn eu haddasu.
Bydd yr ymarferwyr yn cael y cyfle i archwilio adnoddau yn y dosbarth sydd wedi’u creu i gefnogi ymarferwyr i gynllunio ar gyfer cynnydd.
Manylion y Digwyddiad:
2 ddiwrnod
Dydd 1 09/11/23
Taf, Canolfan Halliwell, Caerfyrddin SA31 3EP
Archebwch yma
Dydd 2 28/11/23
Taf, Canolfan Halliwell, Caerfyrddin SA31 3EP
Archebwch yma
Kate Andrews MDaPh Mathemateg a Rhifedd kate.andrews@partneriaeth.cymru
Joanne Hudson-Williams MDaPh Mathemateg a Rhifedd joanne.hudson-williams@partneriaeth.cymru
Archwilio Cynrychioliadau Mathemategol
Cynulleidfa Darged: Ymarferwyr sy’n gweithio gyda dysgwyr ym Mlynyddoedd 7-9
Mae cynnydd ym Maes Dysgu a Phrofiad Mathemateg a Rhifedd yn golygu datblygu pum hyfedredd cysylltiedig â chyd-ddibynnol:
Dealltwriaeth gysyniadol
Cyfathrebu gan ddefnyddio symbolau
Rhuglder
Rhesymu rhesymegol
Cymhwysedd strategol.
Mae cynrychioliadau mathemategol yn elfen bwysig o’r hyfedreddau.
Mae dysgwyr yn amlygu dealltwriaeth gysyniadol mewn Mathemateg a Rhifedd trwy allu cynrychioli cysyniad mewn ffyrdd gwahanol, gan lifo rhwng cynrychioliadau amrywiol, yn cynnwys y geiriol, y diriaethol, y gweledol, y digidol a’r haniaethol. Wrth i ddysgwyr brofi cysyniadau cynyddol gymhleth, maent yn cymhwyso rhesymu rhesymegol am y perthnasoedd rhwng ac o fewn y cysyniadau hyn, ac mae cyfiawnhad a phrawf yn dod yn fwyfwy haniaethol, gan symud o esboniadau llafar, cynrychioliadau gweledol neu gynrychioliadau diriaethol, i gynrychioliadau haniaethol sy’n cynnwys symbolau a chonfensiynau.
Felly, mae’n hanfodol bod gan ymarferwyr ddealltwriaeth ddofn o’r trinolion diriaethol a’r cynrychioliadau gweledol sydd ar gael, a’r modd y gellir eu defnyddio, i sicrhau dealltwriaeth a chynnydd dysgwyr mewn Mathemateg a Rhifedd.
Bydd y dysgu proffesiynol hwn yn archwilio’r modd y gellir defnyddio cynrychioliadau mathemategol i arwain addysgu a dysgu mewn Mathemateg a Rhifedd a chefnogi ysgolion wrth iddynt gynllunio eu cwricwlwm.
Bydd ymarferwyr uwchradd yn archwilio amrywiaeth o drinolion diriaethol i gefnogi dysgu a dealltwriaeth yn achos ystod o gysyniadau mathemategol.
Bydd ymarferwyr uwchradd yn ystyried pa mor ddefnyddiol yw amrywiaeth o gynrychioliadau darluniadol o ran meddwl yn fathemategol.
Bydd ymarferwyr uwchradd yn archwilio’r modd i lifo’n effeithiol rhwng cynrychioliadau gwahanol i gefnogi cynnydd dysgwyr mewn Mathemateg a Rhifedd.
Manylion y Digwyddiad:
4 Mawrth 2024 09:30-15:00
Canolfan Halliwell, Caerfyrddin SA31 3EP
Archebwch yma
Kate Andrews MDaPh Mathemateg a Rhifedd kate.andrews@partneriaeth.cymru
Joanne Hudson-Williams MDaPh Mathemateg a Rhifedd joanne.hudson-williams@partneriaeth.cymru
Sesiynau galw heibio ar y Meysydd Dysgu a Phrofiad: Mathemateg a Rhifedd
Cynulleidfa Darged: Yr holl staff mewn ysgolion a lleoliadau addysgol.
Mae Partneriaeth yn ymrwymedig i ddarparu dysgu proffesiynol cyffredinol, pwrpasol ac o ansawdd uchel i bob ysgol a lleoliad ledled y rhanbarth. Mae Partneriaeth yn cydnabod yr heriau sylweddol sy’n wynebu ysgolion ar hyn o bryd, yn ogystal â’r anawsterau y mae sawl un yn eu hwynebu wrth geisio hwyluso’r staff i fynd i ddigwyddiadau dysgu proffesiynol. Er mwyn ceisio lliniaru’r heriau hyn, mae Partneriaeth wedi amserlennu sesiynau galw heibio ar-lein ar y Meysydd Dysgu a Phrofiad.
Mae’r sesiynau galw heibio hyn, a gynhelir bob tymor (a phob hanner tymor), wedi’u hamserlennu i ddarparu cyfleoedd i siarad â swyddogion Partneriaeth sy’n arwain y broses o ddatblygu a chefnogi’r Meysydd Dysgu a Phrofiad. Maent yn anffurfiol ac, yn ôl eu natur, byddant yn ymatebol i anghenion y rhai a fydd yn bresennol.
Cael cyfle i fynegi pryderon a chael eu cefnogi i ddod o hyd i atebion.
Manylion y Digwyddiad:
18/10/2023 09.30-11.00
Cliciwch yma i ymuno â’r cyfarfod
20/02/2024 15.30-17.00
Cliciwch yma i ymuno â’r cyfarfod
06/05/2024 13.30-15.00
Cliciwch yma i ymuno â’r cyfarfod
Kate Andrews Mathemateg a Rhifedd kate.andrews@partneriaeth.cymru
Joanne Hudson-Williams Mathemateg a Rhifedd joanne.hudson-williams@partneriaeth.cymru