Y Dyniaethau

Rhwydwaith Arweinwyr Cynradd ar gyfer MDaPh Y Dyniaethau

Cynulleidfa Darged: Arweinwyr Meysydd Dysgu a Phrofiad mewn ysgolion a lleoliadau cynradd.

Mae ‘Cwricwlwm i Gymru: Y daith i 2022’ yn nodi disgwyliadau cyson i ysgolion a lleoliadau ar gyfer y broses o gynllunio a gweithredu eu cwricwla.

Mae Cynllun Gweithredu Cwricwlwm i Gymru yn nodi dyheadau a rennir – sy’n disgrifio sut olwg ddylai fod ar y system addysg yn yr hirdymor, o ganlyniad i ysgolion a lleoliadau yn cynllunio a gweithredu eu cwricwla. Dylai fod gan ymarferwyr y gofod i ddatblygu a defnyddio eu gwaith addysgu, eu galluedd a’u creadigrwydd i helpu i wireddu eu huchelgeisiau trwy’r cwricwlwm, ac mae galluogi lle i arweinwyr Meysydd Dysgu a Phrofiad mewn lleoliadau cynradd drafod dysgu ac addysgu sy’n galluogi pob dysgwr i wireddu dyheadau’r pedwar diben yn allweddol. Dim ond trwy greu cyfleoedd i ymarferwyr fod yn berchen ar y broses ddiwygio yn eu hysgolion a’u lleoliadau, iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u grymuso gan y broses honno, a theimlo eu bod wedi’u hysgogi i gyfrannu at ei datblygiad parhaus, y gallwn sicrhau llwyddiant hirdymor Cwricwlwm i Gymru.

Bydd y rhwydwaith Arweinwyr Meysydd Dysgu a Phrofiad Cynradd tymhorol yn rhoi cyfle i bawb rannu, trafod a gwella eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o ran anghenion unigryw pob MDaPh gorfodol, yn ogystal â’r sgiliau i fonitro a gwerthuso effeithiolrwydd pob MDaPh yn eu hysgolion. Bydd ymarferwyr yn datblygu gwybodaeth addysgegol sy’n cefnogi’r broses o ddarparu pob Maes Dysgu a Phrofiad mewn modd effeithiol, gan sicrhau bod pob dysgwr yn gwneud cynnydd.

Manylion y Digwyddiad:

19/10/23 Trwy’r dydd
Teifi, Canolfan Halliwell, Caerfyrddin SA31 3EP
Archebwch yma

08/02/24 Trwy’r dydd
Teifi, Canolfan Halliwell, Caerfyrddin SA31 3EP
Archebwch yma

11/06/24 Trwy’r dydd
Teifi, Canolfan Halliwell, Caerfyrddin SA31 3EP
Archebwch yma


Julian Nicholds MDPh y Dyniaethau julian.nicholds@partneriaeth.cymru

Tom Basher MDPh y Dyniaethau tom.basher@partneriaeth.cymru

PDF

Rhwydweithiau Pwnc Uwchradd: Daearyddiaeth

Cynulleidfa Darged: Arweinwyr canol uwchradd

Mae’r rhwydweithiau tymhorol hyn yn rhoi cyfleoedd i arweinwyr gydweithio ar draws Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin ac Abertawe. Bydd y rhai sy’n bresennol yn cael diweddariadau a hyfforddiant ar y canlynol:


Manylion y Digwyddiad:

05/10/23 Trwy’r dydd
Y Llwyfan, Heol Y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ
Archebwch yma

07/03/24 Trwy’r dydd
Y Llwyfan, Heol Y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ
Archebwch yma

27/06/24 Trwy’r dydd
Y Llwyfan, Heol Y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ
Archebwch yma


Tom Basher MDaPh y Dyniaethau tom.basher@partneriaeth.cymru

PDF

Rhwydweithiau Pwnc Uwchradd: Hanes

Cynulleidfa Darged: Arweinwyr canol uwchradd

Mae’r rhwydweithiau tymhorol hyn yn rhoi cyfleoedd i arweinwyr gydweithio ar draws Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin ac Abertawe. Bydd y rhai sy’n bresennol yn cael diweddariadau a hyfforddiant ar y canlynol:


Manylion y Digwyddiad:

03/10/23 Trwy’r dydd
Taf, Canolfan Halliwell, Caerfyrddin SA31 3EP
Archebwch yma

06/03/24 Trwy’r dydd
Cothi, Canolfan Halliwell, Caerfyrddin SA31 3EP
Archebwch yma

26/06/24 Trwy’r dydd
Teifi, Canolfan Halliwell, Caerfyrddin SA31 3EP
Archebwch yma


Julian Nicholds MDaPh y Dyniaethau julian.nicholds@partneriaeth.cymru

PDF

Astudiaethau Cymdeithasol o flynyddoedd 4 i 8

Cynulleidfa Darged: Athrawon cynradd ac uwchradd ym mlynyddoedd 4-8

Mae MDPh y Dyniaethau yn datblygu amrywiaeth o ddysgu a sgiliau trwy bum disgyblaeth. Mae astudiaethau cymdeithasol yn ddisgyblaeth sy’n newydd i’r cwricwlwm 3-16 ac yn newydd i’r cwricwlwm yng Nghymru

a’r DU, felly mae datblygiad pellach o’r wybodaeth am y pwnc a sut olwg sydd ar y ddisgyblaeth hon yn yr ystafell ddosbarth ac yng nghyd-destun y dyniaethau yn hanfodol i gefnogi datblygiad y dyniaethau mewn ysgolion. Mae’n ofynnol i ysgolion feddu ar ddealltwriaeth o’r termau a’r sgiliau allweddol, a’r modd y gellir datblygu’r rhain yn y cwricwlwm trwyddo draw. Mae yna ofyniad i ysgolion ddatblygu dysgu yn y dyniaethau trwy lens astudiaethau cymdeithasol yn y cwricwlwm trwyddo draw, a bydd y cyfle hwn yn caniatáu i athrawon ac arweinwyr archwilio elfennau gorfodol o’r cwricwlwm, gan gynnwys y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig a’r egwyddorion cynnydd, yng nghyd-destun astudiaethau cymdeithasol.

Manylion y Digwyddiad:

21/03/2024     09:30-15:30    
Taf , Canolfan Halliwell, Caerfyrddin SA31 3EP
Archebwch yma


Julian Nicholds MDaPh Y Dyniaethau julian.nicholds@partneriaeth.cymru 

Tom Basher MDaPh Y Dyniaethau tom.basher@partneriaeth.cymru

PDF

Prosiect Llenyddiaeth Hanes

Cynulleidfa Darged: Arweinwyr y Dyniaethau a Llythrennedd

Diben y prosiect hwn yw darparu cyfleoedd i ddysgwyr ymgysylltu â straeon am y gorffennol o nifer o safbwyntiau. Mae’r amrywiaeth eang o deitlau sydd ar gael i ysgolion erbyn hyn yn caniatáu i’r dysgwyr edrych ar hanes trwy lens pobl ifanc o’r mwyafrif byd-eang, ac o gefndiroedd Du ac Asiaidd. Maent yn adrodd straeon am gyfnodau a allai fod wedi cael eu hadrodd yn flaenorol o safbwynt Ewroganolog yn unig. Mae’r prosiect hwn, sy’n seiliedig ar dystiolaeth ymchwil, yn dilyn dull ‘Dim ond Darllen’, sy’n anelu at ddatblygu llythrennedd dysgwyr mewn lleoliadau cynradd ac uwchradd gan ennyn diddordeb mewn cyfnodau hanesyddol ar yr un pryd.

Mae’r prosiect hwn yn ffurfio rhan o’n gwaith i gefnogi ysgolion gyda’u dulliau o ddad-drefedigaethu’r cwricwlwm yn unol â Chynllun Cymru Wrth-hiliol, Cenhadaeth ein Cenedl, ac adroddiad Llywodraeth Cymru ar Gynefin, Cyfraniadau a Chymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y Cwricwlwm Newydd, a hynny i sicrhau cwricwlwm mwy cynhwysol sy’n adrodd y stori gyfan, stori y gall pob dysgwr ei weld ei hun ynddi.

Manylion y Digwyddiad:

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn, cysylltwch â:


Jane Shilling Arbenigwr Saesneg Uwchradd jane.shilling@partneriaeth.cymru

Julian Nicholds Arbenigwr Hanes Uwchradd julian.nicholds@partneriaeth.cymru

PDF

Prosiect Ymholiad y Dyniaethau

Cynulleidfa Darged: Arweinwyr y Dyniaethau

Dyma gyfle i ysgolion gymryd rhan mewn prosiect parhaus gan Partneriaeth sy’n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau Ymholi sy’n rhan annatod o gwricwlwm y dyniaethau. Mae’r ysgolion a oedd yn cymryd rhan wedi defnyddio gwasanaethau llyfrgell archif i ddysgu rhagor am eu hardal leol a’i chysylltioldeb â gweddill Cymru a’r byd. Bu’r adborth gan staff a disgyblion yn yr ysgolion cynradd ac uwchradd a oedd yn cymryd rhan yn eithriadol o gadarnhaol. Mae Partneriaeth yn falch o allu parhau â’r gwaith hwn gyda nifer cyfyngedig o ysgolion a lleoliadau ledled y rhanbarth am flwyddyn academaidd arall. 

Manylion y Digwyddiad:

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn, cysylltwch â:

Julian Nicholds Arbenigwr Hanes Uwchradd julian.nicholds@partneriaeth.cymru

PDF

Astudiaethau Busnes o flynyddoedd 4 i 8

Cynulleidfa Darged: Athrawon cynradd ac uwchradd ym mlynyddoedd 4-8.

Mae MDaPh y Dyniaethau yn datblygu amrywiaeth o ddysgu a sgiliau trwy bum disgyblaeth. Mae astudiaethau busnes yn ddisgyblaeth sy’n newydd i’r cwricwlwm 3-16, ac mae datblygiad pellach o’r wybodaeth am y pwnc a sut olwg sydd ar hyn yng nghyd-destun y dyniaethau yn hanfodol i gefnogi datblygiad y dyniaethau mewn ysgolion. Mae’n ofynnol i ysgolion feddu ar ddealltwriaeth o’r termau a’r sgiliau allweddol, a’r modd y gellir datblygu’r rhain yn y cwricwlwm trwyddo draw. Mae yna ofyniad i ysgolion ddatblygu dysgu yn y dyniaethau trwy lens astudiaethau busnes yn y cwricwlwm trwyddo draw, a bydd y cyfle hwn yn caniatáu i athrawon ac arweinwyr archwilio elfennau gorfodol o’r cwricwlwm, gan gynnwys y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig a’r egwyddorion cynnydd, yng nghyd-destun astudiaethau busnes.

Manylion y Digwyddiad:

29/02/2024     09:30-15:00    
Y Llwyfan, Heol Y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ
Archebwch yma


Julian Nicholds MDaPh y Dyniaethau julian.nicholds@partneriaeth.cymru 

Tom Basher MDaPh y Dyniaethau tom.basher@partneriaeth.cymru

PDF

Sesiynau galw heibio ar y Meysydd Dysgu a Phrofiad: Y Dyniaethau

Cynulleidfa Darged: Yr holl staff mewn ysgolion a lleoliadau addysgol.

Mae Partneriaeth yn ymrwymedig i ddarparu dysgu proffesiynol cyffredinol, pwrpasol ac o ansawdd uchel i bob ysgol a lleoliad ledled y rhanbarth. Mae Partneriaeth yn cydnabod yr heriau sylweddol sy’n wynebu ysgolion ar hyn o bryd, yn ogystal â’r anawsterau y mae sawl un yn eu hwynebu wrth geisio hwyluso’r staff i fynd i ddigwyddiadau dysgu proffesiynol. Er mwyn ceisio lliniaru’r heriau hyn, mae Partneriaeth wedi amserlennu sesiynau galw heibio ar-lein ar y Meysydd Dysgu a Phrofiad.

Mae’r sesiynau galw heibio hyn, a gynhelir bob tymor (a phob hanner tymor), wedi’u hamserlennu i ddarparu cyfleoedd i siarad â swyddogion Partneriaeth sy’n arwain y broses o ddatblygu a chefnogi’r Meysydd Dysgu a Phrofiad. Maent yn anffurfiol ac, yn ôl eu natur, byddant yn ymatebol i anghenion y rhai a fydd yn bresennol.

Manylion y Digwyddiad:

11/10/2023 09:00 – 10:00
Cliciwch yma i ymuno â’r cyfarfod

07/12/2023 13:30 – 14:30
Cliciwch yma i ymuno â’r cyfarfod

28/02/2024 15:30 – 16:30
Cliciwch yma i ymuno â’r cyfarfod

02/05/2024 09:00 -10:00
Cliciwch yma i ymuno â’r cyfarfod

07/07/2024 13:30 – 14:3
Cliciwch yma i ymuno â’r cyfarfod


Julian Nicholds Humanities AoLE julian.nicholds@partneriaeth.cymru 

Tom Basher Humanities AoLE tom.basher@partneriaeth.cymru

PDF

Cefnogi CGM ac ACRh plwraliaethol, beirniadol a gwrthrychol

Cynulleidfa Darged: Pob ymarferydd – yn enwedig y rheiny sydd â gwybodaeth am CGM a/neu ACRh a dealltwriaeth ohonynt.

Cynlluniwyd y dysgu proffesiynol hwn i gefnogi ymarferwyr i feithrin dealltwriaeth o amrywiaeth ledled y rhanbarth, gan felly gefnogi ysgolion i ddarparu CGM ac ACRh gwrthrychol a phlwraliaethol. Bydd pob sesiwn yn cael ei saernïo’n ofalus i gefnogi’r broses o feithrin gwybodaeth a dealltwriaeth mewn perthynas â’r prif grefyddau a chredoau ledled y rhanbarth, yn ogystal ag i ymgorffori ymwybyddiaeth o brofiad bywyd a chyfeirio at ddeunydd darllen, adnoddau a deunyddiau addysgu a dysgu perthnasol a argymhellir.

Manylion y Digwyddiad:

20/09/23 16:00-17:00 Sesiwn Gyflwyno
Archebwch yma

04/10/2023 16:00-17:00 Bwdhaeth
Archebwch yma

08/11/2023 16:00-17:00 Cristnogaeth
Archebwch yma

06/12/2023 16:00-17:00 Y Dharma Hindŵaidd
Archebwch yma

10/01/2024 16:00-17:00 Islam
Archebwch yma

07/02/2024 16:00-17:00 Iddewiaeth
Archebwch yma

28/02/2024 16:00-17:00 Y Traddodiad Sikhaidd
Archebwch yma

10/04/2024 16:00-17:00 Roma, Sipsiwn a Theithwyr
Archebwch yma

08/05/2024 16:00-17:00 Tystion Jehofa
Archebwch yma

05/06/2024 16:00-17:00 Dyneiddiaeth
Archebwch yma

10/07/2024 16:00-17:00 Heddychiaeth a Figaniaeth Moesegol
Archebwch yma


I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:

Jennifer Harding-Richards Cynghorydd CGM / ACaR jennifer.harding-richards@partneriaeth.cymru

PDF

Rhwydweithiau Uwchradd: Crefydd, Gwerthoedd a Moesg (CGM)

Cynulleidfa Darged: Pob ymarferydd uwchradd – yn enwedig y rheiny sy’n gyfrifol am arwain CGM

Bydd y rhwydwaith hwn yn cefnogi ymarferwyr gyda’u rôl o fod yn arweinwyr CGM yn eu hysgolion. Bydd yr ymarferwyr yn cael dysgu proffesiynol yn ogystal â chyfleoedd i gydweithredu ac i gyd-lunio dysgu ac addysgu CGM ar gyfer eu lleoliadau.

Bydd y cyfranogwyr yn:

Manylion y Digwyddiad:

Trwy’r dydd

Sir Gâr a Sir Benfro

25/10/2023
Cothi, Canolfan Halliwell, Caerfyrddin SA31 3EP
Archebwch yma

08/02/2024
Neuadd y Frenhines, Arberth, Sir Benfro SA67 7AS
Archebwch yma

25/06/2024
Teifi, Canolfan Halliwell, Caerfyrddin SA31 3EP
Archebwch yma


Abertawe 

18/10/2023
Canolfan y Ffenics,  Rhodfa Powys, Townhill , Abertawe SA1 6PH
Archebwch yma

07/03/2024
Canolfan y Ffenics,  Rhodfa Powys, Townhill , Abertawe SA1 6PH
Archebwch yma

04/07/2024
Canolfan y Ffenics,  Rhodfa Powys, Townhill , Abertawe SA1 6PH
Archebwch yma


I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:

Jennifer Harding-Richards Cynghorydd CGM / ACaR jennifer.harding-richards@partneriaeth.cymru

PDF

Gweithgor: Datblygu CGM gwrthrychol, beirniadol a phlwraliaethol gan ddefnyddio’r lens lleol, cenedlaethol a rhyngwladol

Cynulleidfa Darged: Pob ymarferydd – yn enwedig y rheiny sydd â gwybodaeth am CGM.

FFURFLEN MYNEGI DIDDORDEB yw hon

Mae Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) yn ofyniad statudol yn fframwaith Cwricwlwm i Gymru, ac mae’n orfodol i bob dysgwr rhwng 3 ac 16 oed. Mae Partneriaeth am gydweithredu â chwe ymarferydd o bob cwr o’r rhanbarth i ddatblygu adnoddau a deunyddiau i gefnogi ysgolion i ystyried y modd y mae’r cwricwlwm ac addysgeg yn cefnogi ac yn llywio datblygiad dulliau ehangach o fynd i’r afael ag CGM.

Mae CGM gorfodol yn gwneud cyfraniad pwysig ac amlwg i’r broses o gefnogi’r pedwar diben, a bydd y cyfle dysgu proffesiynol cydweithredol hwn yn galluogi ymarferwyr i gynllunio a datblygu deunyddiau ac adnoddau, deall agweddau arwyddocaol ar CGM, a nodi cyfleoedd ar gyfer CGM yn y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig i gefnogi’r gwaith o ddatblygu’r cwricwlwm.

Bydd y cyfranogwyr yn:

Manylion y Digwyddiad:

21/11/23       Ystafell Gynadledda, Y Llwyfan, Heol Y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ
31/01/24       Ystafell Gynadledda, Y Llwyfan, Heol Y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ
11/03/24       Ystafell Gynadledda, Y Llwyfan, Heol Y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ

Llenwch y ffurflen hon i gofrestru eich mynegiad o ddiddordeb os hoffech fod yn rhan o’r gweithgor hwn. 

Diwrnod cau 09/10/23

Archebwch yma


I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:

Jennifer Harding-Richards Cynghorydd CGM / ACaR jennifer.harding-richards@partneriaeth.cymru

PDF

Sesiynau galw heibio ar y Meysydd Dysgu a Phrofiad: CGM / ACaR

Cynulleidfa Darged: Yr holl staff mewn ysgolion a lleoliadau addysgol.

Mae Partneriaeth yn ymrwymedig i ddarparu dysgu proffesiynol cyffredinol, pwrpasol ac o ansawdd uchel i bob ysgol a lleoliad ledled y rhanbarth. Mae Partneriaeth yn cydnabod yr heriau sylweddol sy’n wynebu ysgolion ar hyn o bryd, yn ogystal â’r anawsterau y mae sawl un yn eu hwynebu wrth geisio hwyluso’r staff i fynd i ddigwyddiadau dysgu proffesiynol. Er mwyn ceisio lliniaru’r heriau hyn, mae Partneriaeth wedi amserlennu sesiynau galw heibio ar-lein ar y Meysydd Dysgu a Phrofiad.

Mae’r sesiynau galw heibio hyn, a gynhelir bob tymor (a phob hanner tymor), wedi’u hamserlennu i ddarparu cyfleoedd i siarad â swyddogion Partneriaeth sy’n arwain y broses o ddatblygu a chefnogi’r Meysydd Dysgu a Phrofiad. Maent yn anffurfiol ac, yn ôl eu natur, byddant yn ymatebol i anghenion y rhai a fydd yn bresennol.

Manylion y Digwyddiad:

29/09/2023 10:00 - 11:00
Archebwch yma

24/11/2023 10:00 - 11:00
Archebwch yma

19/01/2024 10:00 - 11:00
Archebwch yma

15/03/2024 10:00 - 11:00
Archebwch yma

17/05/2024 10:00 - 11:00
Archebwch yma

28/06/2024 10:00 - 11:00
Archebwch yma


I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:

Jennifer Harding-Richards  Cynghorydd CGM / ACaR jennifer.harding-richards@partneriaeth.cymru

PDF