Arwain Ymchwiliad
Ysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu
Cynulleidfa Darged: Mae’r Gweithgor yn agored i Benaethiaid ac Uwch-arweinwyr o bob ysgol a lleoliad addysgol sy’n dymuno datblygu eu hysgol fel Sefydliad sy’n Dysgu trwy ddull cydweithredol a gefnogir.
Mae’r dirwedd polisi gyfoes yng Nghymru yn cynnwys prif ffocws ar ‘Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu’, gyda chysylltiadau clir â’r cwricwlwm newydd, y Safonau Proffesiynol Cenedlaethol, y Canllawiau ar Wella Ysgolion, a’r Adnodd Cenedlaethol ar gyfer Gwerthuso a Gwella.
Mae’r model ‘Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu’ yn darparu dealltwriaeth gyffredin i bob ysgol ledled Cymru, sy’n golygu y dylai unrhyw ysgol, ni waeth beth yw ei chyd-destun, ei cham twf neu ei pherfformiad, allu addasu ac ymateb i amgylchedd allanol sy’n newid yn gyflym. Mae’r model yn galluogi ysgolion i addasu a thyfu mewn ymateb i newid. Mae’r model yn pwysleisio pwysigrwydd dysgu sy’n ysgogi newid ac arloesi, a nodweddir gan saith dimensiwn:
Dysgu unigol parhaus
Dysgu unigol, grŵp a sefydliadol
Dysgu fel tîm a chydweithredu
Ymholiad, datrys problemau ac arbrofi
Dulliau ymchwiliol ac ymaddasol
Creu amodau ar gyfer dysgu lle mae arbrofi ac arloesi yn ffynnu
Er mwyn cefnogi datblygiadau eich ysgol fel sefydliad sy’n dysgu, mae Partneriaeth yn cynnig pum sesiwn Dysgu Proffesiynol bwrpasol a anelir at gefnogi Penaethiaid ac Uwch-arweinwyr i dyfu eu hysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu, a hynny trwy ddull cydweithredol strwythuredig a gefnogir.
Bwriad y sesiynau yw cefnogi Dull Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol Llywodraeth Cymru, ac mae’n cefnogi’r model cynllunio pedair elfen sy’n canolbwyntio ar Gydweithredu, Ymarfer Myfyriol, Defnyddio Tystiolaeth Data ac Ymchwil, a Hyfforddi a Mentora.
Bydd y cyfranogwyr yn llenwi’r arolwg Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu gyda’u holl staff yn fan cychwyn allweddol ar gyfer y gwaith hwn. Bydd canlyniadau’r arolwg yn amlygu cryfderau allweddol, meysydd i’w datblygu, a ffyrdd o weithio i alluogi’r holl staff i ddatblygu’n broffesiynol.
Bydd y cyfranogwyr yn ymgysylltu â’r model Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu yn sail ar gyfer datblygiad parhaus, ac yn meithrin gwell dealltwriaeth ohono.
Bydd gan y cyfranogwyr amrywiaeth o strategaethau ac adnoddau ymarferol i gefnogi datblygiadau yn eu hysgol.
Bydd y cyfranogwyr yn cydweithredu – gyda’r nodwedd allweddol o weithio mewn grwpiau gydag arweinwyr eraill.
Bydd y cyfranogwyr yn cael cyfleoedd i fyfyrio’n feirniadol ar ymarfer cyfredol, ac i fod yn agored i fyfyrdodau pobl eraill o ran y modd y gall ymarfer gael ei wella neu ei ddatblygu.
Manylion y Digwyddiad:
Sesiwn 1: Dydd Iau 9 Tachwedd
Sesiwn prynhawn (1-3pm)
Y Llwyfan, Heol Y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ
Sesiwn 2: Dydd Gwener 1 Rhagfyr
Sesiwn diwrnod llawn (9.30am-3pm)
Y Llwyfan, Heol Y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ
Sesiwn 3: Ionawr
Cymorth Pwrpasol – Ymweliad arweinydd y prosiect
Sesiwn 4: Ddydd Iau 7 Mawrth
Sesiwn diwrnod llawn (9.30am-3pm)
Taf, Canolfan Halliwell, Caerfyrddin SA31 3EP
Jenna Gravelle Addysgeg – gan gynnwys prosiectau cenedlaethol jenna.gravelle@partneriaeth.cymru
Ysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu - Gweithdai ar-lein
Cynulleidfa Darged: Uwch-arweinwyr
Mae’r dirwedd polisi gyfoes yng Nghymru yn cynnwys prif ffocws ar ‘Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu’, gyda chysylltiadau clir â’r cwricwlwm newydd, y Safonau Proffesiynol Cenedlaethol, y Canllawiau ar Wella Ysgolion, a’r Adnodd Cenedlaethol ar gyfer Gwerthuso a Gwella. Mae’r model ‘Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu’ yn galluogi ysgolion i addasu a thyfu mewn ymateb i newid. Mae’n pwysleisio pwysigrwydd dysgu yn y sefydliad cyfan sy’n ysgogi newid ac arloesedd, a nodweddir gan saith dimensiwn:
Dysgu unigol parhaus
Dysgu unigol, grŵp a sefydliadol
Dysgu fel tîm a chydweithredu
Ymholiad, datrys problemau ac arbrofi
Dulliau ymchwiliol ac ymaddasol
Creu amodau ar gyfer dysgu lle mae arbrofi ac arloesi yn ffynnu
Er mwyn cefnogi datblygiadau eich ysgol fel sefydliad sy’n dysgu, mae Partneriaeth yn cynnig dau weithdy ar-lein sy’n trafod gwerth ymarferol yr arolwg o Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu a’i ganlyniadau yn ein hysgolion.
Manylion y Digwyddiad:
Gweithdy 1: Yr Arolwg o Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu: Pam poeni?
Dydd Mawrth 19 Medi 4.00-4.30pm Gweithdai ar-lein
Dydd Mercher 20 Medi 3.30-4.00pm Gweithdai ar-lein
Dydd Iau 21 Medi 4.00-4.30pm Gweithdai ar-lein
Gweithdy 2: Yr Arolwg o Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu: Manteisio i’r eithaf ar eich canlyniadau
Dydd Mawrth 24 Hydref 4.00-4.30pm Gweithdai ar-lein
Dydd Mercher 25 Hydref 3.30-4.00pm Gweithdai ar-lein
Dydd Iau 26 Hydref 4.00-4.30pm Gweithdai ar-lein
Bwriedir i’r ddau weithdy fod yn 20 munud o hyd yn unig, gyda chyfle i ofyn cwestiynau neu drafod am 10 munud wedyn os bydd angen. Dim ond un o’r dyddiadau ar gyfer Gweithdy 1 neu Weithdy 2 y bydd angen i chi fynd iddo. Cyflwynir y sesiynau yn Saesneg, ond bydd y cyflwyniad ar gael yn ddwyieithog.
Jenna Gravelle Addysgeg – gan gynnwys prosiectau cenedlaethol jenna.gravelle@partneriaeth.cymru
Prosiect Ymholi Proffesiynol Cenedlaethol
Cynulleidfa Darged: Athrawon o bob ysgol
Gwelliant Parhaus: Sail resymegol PYPC yw meithrin diwylliant o welliant parhaus yn y system addysg. Trwy annog athrawon i gymryd rhan mewn ymchwil ac ymholiad, nod y prosiect yw gwella addysgu a deilliannau dysgu.
Ymarfer Myfyriol: Mae PYPC yn aml yn cynnwys ymarfer myfyriol, gan annog athrawon i fynd ati mewn modd beirniadol i archwilio eu dulliau addysgu, eu strategaethau a’u hymagweddau. Mae’r broses fyfyriol hon yn helpu i nodi meysydd cryfder a meysydd y mae angen eu gwella, gan alluogi athrawon i fireinio eu hymarfer.
Datblygiad Proffesiynol Personol: Trwy gymryd rhan mewn PYPC, mae gan athrawon y cyfle i fynd ar drywydd datblygiad proffesiynol personol sy’n seiliedig ar eu diddordebau a’u meysydd arbenigol penodol. Mae’r ymagwedd hon yn cydnabod anghenion a diddordebau amrywiol athrawon, gan ganiatáu iddynt deilwra eu profiadau dysgu yn unol â hynny.
Cydweithredu a Rhannu Gwybodaeth: Mae PYPC yn hybu’r arfer o gydweithredu a rhannu gwybodaeth ymhlith athrawon. Trwy weithio gyda’i gilydd, rhannu mewnwelediadau, a thrafod canfyddiadau, gall athrawon elwa o ddoethineb ar y cyd a safbwyntiau amrywiol, gan arwain at arferion addysgu mwy effeithiol.
Gwneud Penderfyniadau ar sail Data: Trwy gymryd rhan mewn ymholiadau systematig a chasglu data, gall athrawon wneud penderfyniadau doeth ynghylch strategaethau addysgu, ymyraethau, a chynllun y cwricwlwm, gan fod o fudd i ddysgu’r myfyrwyr yn y pen draw.
Meithrin Diwylliant Ymchwil: Mae cymryd rhan yn y prosiect PYPC yn cyfrannu at ddatblygiad diwylliant ymchwil yn y system addysg. Trwy roi gwerth ar ymchwil ac ymholiad, a’u cefnogi, nod y prosiect yw pontio’r bwlch rhwng ym hwil ac ymarfer, gan feithrin cymuned o athrawon sy’n mynd ati i gyfrannu at wybodaeth a gwelliant addysgol.
Gwell Deilliannau i’r Myfyrwyr: Un o brif nodau prosiect ymholi yw cael effaith gadarnhaol ar ddysgu a chyflawniad y myfyrwyr. Gellir mesur llwyddiant trwy welliannau mewn perfformiad academaidd, mwy o ymgysylltu, gwell sgiliau meddwl yn feirniadol, a dangosyddion eraill o lwyddiant myfyrwyr.
Datblygiad Proffesiynol Athrawon: Dylai’r prosiect gefnogi a hybu datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer athrawon. Gallai hyn gynnwys cynnydd o ran gwybodaeth a sgiliau athrawon, gwell arferion cyfarwyddiadol, a mwy o gapasiti o ran ymarfer myfyriol a dulliau addysgu seiliedig ar ymholiad.
Gwell Dulliau Addysgegol: Dylai’r prosiect annog unigolion i fabwysiadu dulliau addysgegol a strategaethol cyfarwyddiadol effeithiol. Gallai tystiolaeth o hyn gynnwys athrawon yn gweithredu dulliau addysgu arloesol, seiliedig ar ymchwil, sy’n hyrwyddo dysgu gweithredol, canolbwyntio ar y myfyriwr, a gwahaniaethu.
Diwylliant Cydweithredol: Dylai prosiect ymholi feithrin diwylliant cydweithredol ymhlith athrawon, gan hybu’r arfer o rannu gwybodaeth, adnoddau, ac arferion gorau. Gallai hyn gynnwys mwy o gydweithredu ymhlith athrawon, sefydlu cymunedau dysgu proffesiynol, a datblygu rhwydweithiau ar gyfer cyfnewid gwybodaeth.
Gwneud Penderfyniadau ar sail Data: Dylai’r prosiect bwysleisio’r defnydd o ddata a thystiolaeth i lywio penderfyniadau cyfarwyddiadol. Gallai’r dystiolaeth gynnwys cynnydd o ran y defnydd o ddata asesu, adborth myfyrwyr, a chanfyddiadau ymchwil i lywio cynllunio hyfforddiadol, strategaethau ymyrraeth, a datblygiad y cwricwlwm.
Cynaliadwyedd a’r gallu i dyfu yn unol â’r anghenion: Dylai’r prosiect gael ei gynllunio i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor a’r gallu i dyfu yn unol â’r anghenion ledled ysgolion yng Nghymru, gan gynnwys gallu’r prosiect i gael ei atgynhyrchu neu ei ehangu mewn lleoliadau addysgol eraill, yn ogystal â thystiolaeth o ymgysylltiad a chyfranogiad parhaus o du ysgolion ac addysgwyr.
Effaith Systemig: Gellir hefyd fesur llwyddiant prosiect ymholi trwy ei effaith ar y system addysg ehangach yng Nghymru. Gallai hyn olygu newidiadau i bolisi neu ymarfer ar y lefel leol, ranbarthol neu genedlaethol, integreiddio dulliau seiliedig ar ymholi i mewn i fframweithiau’r cwricwlwm, a mwy o gydnabyddiaeth a chymorth ar gyfer ymchwil dan arweiniad athrawon a datblygiad proffesiynol.
Manylion y Digwyddiad:
26/10/23 Trwy’r dydd
Parc y Scarlets, Llanelli SA14 9UZ
Jenna Gravelle Addysgeg – gan gynnwys prosiectau cenedlaethol jenna.gravelle@partneriaeth.cymru