Penaethiaid Newydd / Dros Dro
Rhaglen Genedlaethol i Ddatblygu Penaethiaid Newydd a Phenaethiaid Dros Dro
Cynulleidfa Darged: Cydweithwyr sydd newydd gael eu penodi’n Benaethiaid neu’n Benaethiaid Dros Dro (o ddechrau mis Medi 2023 ymlaen).
Mae’r Rhaglen ar gyfer Penaethiaid Newydd a Phenaethiaid Dros Dro ar gael i bob Pennaeth newydd ei benodi a Phennaeth dros dro yng Nghymru. Mae’n rhaglen genedlaethol, dwy flynedd o hyd, sy’n cael ei chynnal gan y consortia rhanbarthol a’i chymeradwyo gan Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru.
Mae’r rhaglen yn hawl cyffredin i Benaethiaid Newydd a Phenaethiaid Dros Dro, a disgwylir iddi gael ei chwblhau gan bawb.
Bydd carfan 6 o’r penaethiaid newydd a’r penaethiaid dros dro yn dechrau ar y rhaglen yn ystod hydref 2023.
Bydd cyfranogwyr yn archwilio ac yn meithrin eu sgiliau er mwyn:
Datblygu strategaethau, strwythurau a systemau i sicrhau bod yr ysgol yn gweithio mewn modd effeithiol at gyflawn ei gweledigaeth, sy’n canolbwyntio ar ddysg pob myfyriwr.
Cydweithio ag eraill i arwain eu hysgol yn effeithiol o fewn ei chymuned.
Datblygu diwylliant ac arfer o arloesi priodol ledled eu hysgol a’r tu hwnt iddi.
Sicrhau amrywiaeth o gyfleoedd Dysgu Proffesiynol ar gyfer gweithlu’r ysgol.
Arwain gwelliant cynaliadwy o ran addysgeg yn yr ysgol.
Manylion y Digwyddiad:
Mae’r rhaglen wedi’i strwythuro mewn tri cham dros gyfnod o ddwy flynedd:
Cam 1: Gwaith cyn-rhaglen, sy’n cynnwys trosglwyddo’n ffurfiol trwy’r ALl.
Cam 2: Blwyddyn 1 o’r brifathrawiaeth. Bydd hon yn cynnwys rhaglen ddatblygu bum niwrnod sy’n canolbwyntio ar themâu arweinyddiaeth lleol a chenedlaethol, ynghyd â’r wybodaeth a’r sgiliau gofynnol i ddatblygu eu hysgol fel sefydliad sy’n dysgu. Cyfarfodydd rheolaidd â’r hyfforddwr arweinyddiaeth.
Cam 3: Blwyddyn 2 o’r brifathrawiaeth. Cyfarfodydd rheolaidd â’r hyfforddwr arweinyddiaeth trwy gydol y flwyddyn. Ddiwedd yr haf cynhelir un diwrnod lle bydd y cyfranogwyr yn rhannu â’u cyd-weithwyr agwedd benodol ar wella ysgol y maent wedi ymgymryd â hi, a hefyd y modd y maent yn meithrin gallu yn eu hysgol.
Dyrennir Hyfforddwr Arweinyddiaeth ar gyfer pob ymgeisydd, ynghyd ag aelodaeth o grŵp cymheiriaid i sicrhau cymorth trwy gydol y rhaglen.
Bydd y rhaglen yn cynnwys amrywiaeth o ddulliau gweithredu a darparu, gan gynnwys sesiynau ffurfiol ochr yn ochr â chyfarfodydd rhwydwaith a, lle bo hynny’n briodol, cyfleoedd e-ddysgu.
Rhennir y rhaglen yn bum modiwl dros y ddwy flynedd. Bydd pob modiwl yn cynnwys sesiwn genedlaethol a gyflwynir gan brif siaradwr, sesiwn ranbarthol a gyflwynir gan ymarferwyr cyfredol effeithiol, a rhestr chwarae ddewisol.
Rhaid cofrestru trwy system archebu genedlaethol, a fydd yn dosbarthu ffurflenni wedi’u llenwi i’r priod ranbarth lle y cyflogir y cyfranogwr. Bydd y broses ganolog hon o gofrestru yn caniatáu i ddata cenedlaethol gael eu casglu ac i’r trefniadau mwyaf priodol gael eu rhoi ar waith ar gyfer pob carfan. Bydd yn ofynnol i Gadeirydd Llywodraethwyr yr unigolyn gymeradwyo’r cofrestriad.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:
Rob Phillips Arweinydd Dros Dro ar gyfer Arweinyddiaeth phillipsr145@hwbcymru.net
Hazel Faulkner Swyddog Cymorth Busnes hazel.faulkner@partneriaeth.cymru