Addysgeg

Dysgu i Bwrpas

Cynulleidfa Darged: Pob athro cynradd ac uwchradd.

Wrth wraidd cwricwlwm llwyddiannus y mae addysgu a dysgu rhagorol.

Cynlluniwyd y rhaglen ‘Addysgu er Diben’ gyda mewnbwn gan ymarferwyr ac arweinwyr cryf ledled y rhanbarth i roi dealltwriaeth lefel uchel i athrawon o’r hyn y gall addysgu effeithiol ei gyflawni, yn ogystal ag adnoddau a strategaethau ymarferol sy’n galluogi athrawon i ddod yn rhagorol yn gyson ac yn gynaliadwy. Nod y rhaglen yw mynd i’r afael â diffygion cyffredin mewn addysgu sy’n atal ein dysgwyr rhag gwneud cynnydd cyflym. O ganlyniad, mae ‘Addysgu er Diben’ wedi’i strwythuro’n bum sesiwn:

Nod y sesiynau yw cefnogi’r Safonau Addysgu ac Arweinyddiaeth Proffesiynol a rhoi ystyriaeth i Ddull Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol Llywodraeth Cymru. Mae’r sesiynau’n cyd-fynd â’r model cynllunio dysgu proffesiynol, gan gynnwys: 1. Cydweithredu; 2. Ymarfer Myfyriol; a 3. Y Defnydd o Ddata a Thystiolaeth Ymchwil i lywio’r sesiwn.

Manylion y Digwyddiad:

Bydd cymryd rhan yn y rhaglen 'Dysgu i Bwrpas' yn rhoi cyfle wedi'i ariannu, gwerth £300 y sesiwn, i chi rannu negeseuon Dysgu i Bwrpas yn eich ysgolion a'ch ystafelloedd dosbarth. Bydd angen i chi gwblhau Adroddiad Cryno byr ar y modd yr ydych wedi defnyddio’r cyllid hwn i gefnogi'r broses o ddatblygu addysgeg, ymchwil ac ymholi yn eich ysgolion a’ch lleoliadau. Bydd y gwaith hwn yn ein galluogi i rannu’r arfer dda o’ch ysgolion ledled y rhanbarth, ac yn ein cefnogi i werthuso effaith y cyfle dysgu proffesiynol hwn. 

Bydd enghreifftiau o le y mae ysgolion wedi defnyddio negeseuon Dysgu i Bwrpas i sicrhau gwelliannau yn cael eu defnyddio i lywio Dysgu i Bwrpas 2024-25.


Tymor yr Hydref (Cymraeg)

28.09.23 – Her a Chyflymder i bawb
Teifi, Canolfan Halliwell, Caerfyrddin SA31 3EP
Archebwch yma

11.10.23 – Cwestiynu
Teifi, Canolfan Halliwell, Caerfyrddin SA31 3EP
Archebwch yma

27.10.23 – Dysgu Annibynnol a Chydweithredol
Cothi, Canolfan Halliwell, Caerfyrddin SA31 3EP
Archebwch yma

15.11.23 – Arfer Adalw
Cothi, Canolfan Halliwell, Caerfyrddin SA31 3EP
Archebwch yma

08.12.23 – Adborth Effeithiol
Teifi, Canolfan Halliwell, Caerfyrddin SA31 3EP
Archebwch yma


Er mwyn archebu bob un o’r 5, cliciwch yma


Tymor y Gwanwyn (Cymraeg)

18.01.24 – Her a Chyflymder i bawb
Eglwys Gymunedol Glannau, Abertawe SA1 8QY
Archebwch yma

01.02.24 – Cwestiynu
Eglwys Gymunedol Glannau, Abertawe SA1 8QY
Archebwch yma

21.02.24 – Dysgu Annibynnol a Chydweithredol
Eglwys Gymunedol Glannau, Abertawe SA1 8QY
Archebwch yma

08.03.24 – Arfer Adalw
Eglwys Gymunedol Glannau, Abertawe SA1 8QY
Archebwch yma

12.03.24 – Adborth Effeithiol
Eglwys Gymunedol Glannau, Abertawe SA1 8QY
Archebwch yma


Er mwyn archebu bob un o’r 5, cliciwch yma


Jenna Gravelle Addysgeg – gan gynnwys prosiectau cenedlaethol jenna.gravelle@partneriaeth.cymru

Anthony Jones Asesu, Cymwysterau a Sgiliau anthony.jones@partneriaeth.cymru

PDF

Camau cyntaf - Dysgu yn yr awyr agored

Cynulleidfa Darged: Athrawon ysgol gynradd heb fawr ddim neu heb unrhyw brofiad o ddysgu yn yr awyr agored.

Mae hwn yn gwrs hyfforddi rhagarweiniol undydd ar gyfer ymarferwyr ysgolion cynradd sy’n dymuno mynd ati i addysgu a dysgu allan ar dir yr ysgol.

Mae’n ddiwrnod ymarferol wedi’i hwyluso gan ymarferwyr awyr agored profiadol o ysgolion ar draws Partneriaeth. Bydd y rhai sy’n bresennol yn datblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o ran dysgu yn yr awyr agored, ac yn gadael gyda’r sgiliau a’r hyder i gymryd y camau cyntaf i ddarparu dysgu yn yr awyr agored i’w dosbarthiadau fel rhan o Cwricwlwm i Gymru.

Manylion y Digwyddiad:

20/10/23 Saesneg
Coed Cwm Penllergaer, Abertawe SA4 9GS
Archebwch yma

17/05/24 Cymraeg
I’w gadarnhau
Archebwch yma

24/05/24 Saesneg
I’w gadarnhau
Archebwch yma


Uchafswm o 15 y sesiwn


Tom Basher Dysgu yn yr Awyr Agored a Chynaliadwyedd tom.basher@partneriaeth.cymru

PDF