Sefydlu
Y Rhaglen Genedlaethol ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu wrth eu Gwaith
Cynulleidfa Darged: Mae’r Rhaglen Sefydlu hon yn un ar gyfer cynysgaeddu unigolion sydd newydd gael eu penodi i rôl Cynorthwyydd Addysgu â gwybodaeth ddatblygol am eu rôl a’u cyfrifoldebau, a dealltwriaeth yn hynny o beth.
Mae hon yn rhaglen genedlaethol a gyflwynir trwy ddysgu o bell ar lwyfan digidol ac a ategir gan weithgareddau seminar. Gellir ymgymryd â’r hyfforddiant ar adeg sy’n gyfleus i’r cynorthwywyr addysgu a’u lleoliad.
Cefnogi Cynorthwywyr Addysgu newydd i feithrin gwell dealltwriaeth o’r lleoliad addysgol y maent yn gweithio ynddo a’u cyfrifoldebau yn rôl gweithiwr proffesiynol ym myd addysg Gymraeg. Bydd unigolion yn datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sy’n ofynnol i fod yn gynorthwyydd addysgu llwyddiannus yn eu lleoliad.
Manylion y Digwyddiad:
Darperir yr holl weithgareddau yr ymgymerir â nhw yn Gymraeg, yn Saesneg neu’n ddwyieithog.
Bydd yn cynnwys cyfuniad o weithgareddau, astudiaeth hunangyfeiriedig, cymorth ar-lein a gweminarau, a bydd yr elfennau hyn yn cwmpasu’r canlynol:
Cyd-destun Addysg Gymraeg – fy rôl a’m cyfrifoldebau.
Safonau Proffesiynol ar gyfer Cynorthwyo Addysgu.
Cwricwlwm i Gymru a fframweithiau ategol.
Addysgeg datblygu fy nghrefft i gefnogi dysgwyr.
Heulwen Lloyd Arweinydd Prosiect – Dysgu Proffesiynol Cynorthwywyr Addysgu heulwen.lloyd@partneriaeth.cymru