Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

Rhwydwaith Arweinwyr Cynradd ar gyfer MDaPh Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

Cynulleidfa Darged: Arweinwyr Meysydd Dysgu a Phrofiad mewn ysgolion a lleoliadau cynradd.

Mae ‘Cwricwlwm i Gymru: Y daith i 2022’ yn nodi disgwyliadau cyson i ysgolion a lleoliadau ar gyfer y broses o gynllunio a gweithredu eu cwricwla. Mae Cynllun Gweithredu Cwricwlwm i Gymru yn nodi dyheadau a

rennir – sy’n disgrifio sut olwg ddylai fod ar y system addysg yn yr hirdymor, o ganlyniad i ysgolion a lleoliadau yn cynllunio a gweithredu eu cwricwla. Dylai fod gan ymarferwyr y gofod i ddatblygu a defnyddio eu gwaith addysgu, eu galluedd a’u creadigrwydd i helpu i wireddu eu huchelgeisiau trwy’r cwricwlwm, ac mae galluogi lle i arweinwyr Meysydd Dysgu a Phrofiad mewn lleoliadau cynradd drafod dysgu ac addysgu sy’n galluogi pob dysgwr i wireddu dyheadau’r pedwar diben yn allweddol.

Dim ond trwy greu cyfleoedd i ymarferwyr fod yn berchen ar y broses ddiwygio yn eu hysgolion a’u lleoliadau, iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u grymuso gan y broses honno, a theimlo eu bod wedi’u hysgogi i gyfrannu at ei datblygiad parhaus, y gallwn sicrhau llwyddiant hirdymor Cwricwlwm i Gymru.

Bydd y rhwydwaith Arweinwyr Meysydd Dysgu a Phrofiad Cynradd tymhorol yn rhoi cyfle i bawb rannu, trafod a gwella eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o ran anghenion unigryw pob MDaPh gorfodol, yn ogystal â’r sgiliau i fonitro a gwerthuso effeithiolrwydd pob MDaPh yn eu hysgolion. Bydd ymarferwyr yn datblygu gwybodaeth addysgegol sy’n cefnogi’r broses o ddarparu pob Maes Dysgu a Phrofiad mewn modd effeithiol, gan sicrhau bod pob dysgwr yn gwneud cynnydd.

Manylion y Digwyddiad:

04/12/23 09:30-15:00
Cothi, Canolfan Halliwell, Caerfyrddin SA31 3EP
Archebwch yma

20/03/24 09:30-15:00
Teifi, Canolfan Halliwell, Caerfyrddin SA31 3EP
Archebwch yma


Jane Shilling MDaPh Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu jane.shilling@partneriaeth.cymru 

Emma Wright MDaPh Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu emma.wright@partneriaeth.cymru 

Lowri Davies MDaPh Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu lowri.davies@partneriaeth.cymru 

PDF

Rhwydweithiau Pwnc Uwchradd: Saesneg

Cynulleidfa Darged: Arweinwyr canol uwchradd

Mae’r rhwydweithiau tymhorol hyn yn rhoi cyfleoedd i arweinwyr gydweithio ar draws Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin ac Abertawe. Bydd y rhai sy’n bresennol yn cael diweddariadau a hyfforddiant ar y canlynol:


Manylion y Digwyddiad:   

09:30-15:00

10/10/23 Abertawe
Neuadd Vivian, Canolfan Dylan Thomas, Abertawe SA1 1RR
Archebwch yma

11/10/23 Sir Gaerfyrddin / Sir Benfro
Neuadd y Frenhines, Arberth, Sir Benfro SA67 7AS
Archebwch yma

22/01/24 Abertawe
Neuadd Vivian, Canolfan Dylan Thomas, Abertawe SA1 1RR
Archebwch yma

23/01/24 Sir Gaerfyrddin / Sir Benfro
Neuadd y Frenhines, Arberth, Sir Benfro SA67 7AS
Archebwch yma

24/06/24 Abertawe
Neuadd Vivian, Canolfan Dylan Thomas, Abertawe SA1 1RR
Archebwch yma

25/06/24  Sir Gaerfyrddin / Sir Benfro
Neuadd y Frenhines, Arberth, Sir Benfro SA67 7AS  
Archebwch yma


Jane Shilling Arbenigwr Saesneg Uwchradd jane.shilling@partneriaeth.cymru

Emma Wright Arbenigwr Saesneg Uwchradd emma.wright@partneriaeth.cymru

PDF

Rhwydweithiau Pwnc Uwchradd: Cymraeg Iaith Gyntaf

Cynulleidfa Darged: Arweinwyr canol uwchradd

Mae’r rhwydweithiau tymhorol hyn yn rhoi cyfleoedd i arweinwyr gydweithio ar draws Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin ac Abertawe. Bydd y rhai sy’n bresennol yn cael diweddariadau a hyfforddiant ar y canlynol:


Manylion y Digwyddiad:

09:30-15:00

17/10/23 Y Llwyfan, Heol Y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ
Archebwch yma

21/02/24 Y Llwyfan, Heol Y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ
Archebwch yma

20/06/24 Y Llwyfan, Heol Y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ
Archebwch yma


Lowri Davies MDaPh Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu lowri.davies@partneriaeth.cymru 

Dyfed Williams MDaPh Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu dyfed.williams@partneriaeth.cymru 

PDF

Rhwydweithiau Pwnc Uwchradd: Cymraeg Ail Iaith

Cynulleidfa Darged: Arweinwyr canol uwchradd

Mae’r rhwydweithiau tymhorol hyn yn rhoi cyfleoedd i arweinwyr gydweithio ar draws Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin ac Abertawe. Bydd y rhai sy’n bresennol yn cael diweddariadau a hyfforddiant ar y canlynol:


Manylion y Digwyddiad:   

09:30-15:00

24/10/23   Abertawe
Neuadd Vivian, Canolfan Dylan Thomas, Abertawe SA1 1RR
Archebwch yma

26/10/23   Sir Gaerfyrddin / Sir Benfro
Teifi, Canolfan Halliwell, Caerfyrddin SA31 3EP
Archebwch yma

08/02/24   Sir Gaerfyrddin / Sir Benfro
Cothi, Canolfan Halliwell, Caerfyrddin SA31 3EP
Archebwch yma

09/02/24   Abertawe
Eglwys Gymunedol Glannau, Abertawe SA1 8QY
Archebwch yma

24/06/24   Sir Gaerfyrddin / Sir Benfro
Teifi, Canolfan Halliwell, Caerfyrddin SA31 3EP
Archebwch yma

25/06/24   Abertawe
Neuadd Vivian, Canolfan Dylan Thomas, Abertawe SA1 1RR
Archebwch yma


Lowri Davies MDaPh Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu lowri.davies@partneriaeth.cymru 

Dyfed Williams MDaPh Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu dyfed.williams@partneriaeth.cymru 

PDF

Rhwydwaith Arweinwyr Llythrennedd Uwchradd

Cynulleidfa Darged: Arweinwyr Llythrennedd Uwchradd

Mae sgìl trawsgwricwlaidd llythrennedd yn hanfodol er mwyn i ddysgwyr allu cyrchu gwybodaeth. Mae’n galluogi dysgwyr i fanteisio ar ehangder cwricwlwm ysgol a’r cyfoeth o gyfleoedd a gynigir ganddo, gan roi iddynt y sgiliau gydol oes i gyflawni’r Pedwar Diben. Mae llythrennedd wrth wraidd pob ystafell ddosbarth tra effeithiol, ac mae’n chwarae rôl hanfodol o ran caniatáu dysgwyr i ymgorffori’r pedwar diben a gwella eu siawns mewn bywyd. Felly, mae ar ysgolion Partneriaeth angen rhwydwaith sy’n hwyluso’r broses o gydgysylltu a llywio gwelliannau llythrennedd ledled ysgolion uwchradd.

Bydd y cyfle dysgu proffesiynol dau ddiwrnod hwn yn darparu strategaethau a syniadau i arweinwyr llythrennedd uwchradd ddatblygu llythrennedd ar draws y cwricwlwm a gwella ansawdd y broses o addysgu llythrennedd.

Bydd yr ymarferwyr yn cydweithredu ag eraill, gan rannu arfer da i sicrhau bod y dysgwyr yn cael cyfleoedd perthnasol a phriodol mewn pynciau sy’n gyfoethog mewn llythrennedd. Bydd y ddiwrnod yn cefnogi arweinwyr llythrennedd i ddatblygu a sicrhau cynnydd mewn sgiliau llythrennedd trawsgwricwlaidd gorfodol o ran darllen, ysgrifennu a llafaredd, gan hefyd ddatblygu’r pedwar diben.

Manylion y Digwyddiad:

13 Tachwedd 2023      09:30-15:00
Taf, Canolfan Halliwell, Caerfyrddin SA31 3EP

Archebwch yma


Jane Shilling MDaPh Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu jane.shilling@partneriaeth.cymru 

Emma Wright MDaPh Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu emma.wright@partneriaeth.cymru 

Lowri Davies MDaPh Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu lowri.davies@partneriaeth.cymru 

PDF

Ymgorffori Amlieithrwydd – Datblygu Trawsieithu

Cynulleidfa Darged: Ymarferwyr Cynradd ac Uwchradd / Arweinwyr y Meysydd Dysgu a Phrofiad ar gyfer Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu / Cydgysylltwyr Saesneg fel Iaith Ychwanegol / Cydgysylltwyr Llythrennedd / Arweinwyr Ieithoedd Tramor Modern / Uwch-reolwyr

Yn dilyn ein cynhadledd gyntaf ym mis Tachwedd, hoffem eich gwahodd i ail gynhadledd undydd, wyneb yn wyneb, ar 17 Ebrill yng Nghanolfan Haliwell, Y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin SA31 3EP, 9am tan 3pm: Ymgorffori Amlieithrwydd – Datblygu Trawsieithu. 

I fodloni'r weledigaeth ar gyfer Cwricwlwm i Gymru, bydd y gynhadledd yn darparu cyfle i ymarferwyr ymgysylltu ag addysgeg sy'n cefnogi amlieithrwydd, brwdfrydedd gwirioneddol dros ieithoedd, a'r arfer o gynnwys safbwyntiau amrywiol yn ein hystafelloedd dosbarth. Nid yn unig y mae ieithoedd yn offer ar gyfer cydlyniant cymdeithasol, mae ganddynt hefyd bŵer trawsnewidiol yn ein hystafelloedd dosbarth. 

Yn rhan o'r gynhadledd, bydd Eowyn Crisfield, sy'n arbenigwr ar ieithyddiaeth ac sydd wedi gweithio'n helaeth gydag ysgolion i gefnogi amlieithrwydd, yn ymuno i siarad am ‘Language Explorers’. Mae ‘Language Explorers’ yn adnodd ar gyfer ysgolion, a gynlluniwyd ar y cyd ag ysgolion yn y rhanbarth, ar gyfer ysgolion Partneriaeth, i gefnogi'r broses o gyflwyno trydedd iaith. 

Yn dilyn y gwaith a rannwyd yn y gynhadledd gyntaf, bydd yna gyfle i weithio gydag eraill i ystyried sut i ymgorffori amlieithrwydd yn eich ysgol, a datblygu cynllun ar gyfer eich cyd-destun chi, gyda chefnogaeth ymarferwyr o'r prosiect dwyieithrwydd ac amlieithrwydd. 

Bydd y gynhadledd undydd hon yn darparu cyfle ar gyfer y canlynol: 

Bydd y gweithdai yn galluogi ymarferwyr i glywed gan yr ysgolion peilot a darparu strategaethau ymarferol a syniadau ar gyfer addysgu yn yr ystafell ddosbarth. Mae'r ysgolion wedi gweithio i greu amgylcheddau dysgu amlieithog, gan feithrin cariad at iaith ymhlith eu dysgwyr a dathlu amrywiaeth eu cymunedau. Mae gan yr ysgolion gyfoeth o wybodaeth ymarferol a phrofiad i'w rhannu, ac maent yn cynnig gweithdai ar: 

Bydd y gynhadledd yn darparu cyfle i ymarferwyr ddod ynghyd a chael blas ar y modd y gall amlieithrwydd gael ei ymgorffori yn ein cwricwlwm, ei effaith ar y dysgwyr, a'i bŵer trawsnewidiol i gyfoethogi cymunedau ein hysgolion. 

Manylion y Digwyddiad:

Ymgorffori Amlieithrwydd – Datblygu Trawsieithu
17 Ebrill 2024
Canolfan Halliwell, Caerfyrddin SA31 3EP


Archebwch yma


Jane Shilling Arbenigwr Saesneg Uwchradd jane.shilling@partneriaeth.cymru

PDF

Datblygu Geirfa (cyfrwng Cymraeg)

Cynulleidfa Darged: Ymarferwyr cynradd ac uwchradd mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. Athrawon Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn ogystal.

Beth sydd mewn gair? Cyfarwyddyd Benodol o ran Geirfa i ymarferwr cyfrwng Cymraeg ar draws y rhanbarth.

Mae geirfa yn rhan annatod o ddatblygiad cymdeithasol, emosiynol ac academaidd pob dysgwr. Mae geirfa gyfoethog yn galluogi ein dysgwyr i wneud synnwyr o’r byd o’u cwmpas, ac i ddod yn feddylwyr, yn siaradwyr, yn ddarllenwyr ac yn ysgrifenwyr uchelgeisiol, galluog a hyderus a all ddod yn ddinasyddion moesegol, gwybodus a chreadigol.

Er y bydd llawer o ddysgwyr yn datblygu geirfa fawr o ansawdd uchel yn annibynnol, bydd llawer na fydd yn gwneud hynny. Mae datblygu a chaffael geirfa yn allweddol i ddarllen a deall a chyrhaeddiad addysgol ehangach ac ni ellir ei adael i hap a damwain yn unig.

Wedi’i wreiddio’n gadarn yn y dystiolaeth ymchwil ar addysgu geirfa’n effeithiol, ac yn tynnu ar weithiau ysgrifenwyr dylanwadol diweddar, nod y cwrs hwn yw arfogi athrawon ag ystod eang o strategaethau ymarferol i’w defnyddio yn eu haddysgu bob dydd. Bydd athrawon yn cael eu cyflwyno i fframwaith cynhwysfawr ar gyfer dewis a gwreiddio cyfarwyddyd geirfa ar draws y cwricwlwm, a byddant yn dysgu am nodweddion allweddol sy’n gwneud addysgu geirfa’n effeithiol – gan gynnwys harneisio etymoleg a morffoleg.

Yn dilyn adborth gan ymarferwyr ac ysgolion wedi i ni ddarparu’r diwrnod hwn eleni, mae ysgolion wedi galw arnom i ddarparu’r sesiwn eto er mwyn i fwy o ymarferwyr gael y cyfle i fynychu.

Manylion y Digwyddiad:

02.10.23       09:30-15:00
Y Llwyfan, Heol Y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ
Archebwch yma


Lowri Davies MDaPh Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu lowri.davies@partneriaeth.cymru 

Dyfed Williams MDaPh Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu dyfed.williams@partneriaeth.cymru 

PDF

Saesneg Hanfodol

Cynulleidfa Darged: Athrawon newydd gymhwyso, athrawon ar ddechrau eu gyrfa, athrawon anarbenigol, athrawon sy’n dychwelyd i addysgu’r fanyleb.

I gefnogi blaenoriaethau’r awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i sicrhau dysgu ac addysgu rhagorol, a chefnogi ysgolion gyda datblygiad proffesiynol ar gyfer athrawon; diwrnod o ddysgu proffesiynol ar agweddau allweddol ar gyflwyno Saesneg yn yr ystafell ddosbarth, wedi’i fwriadu’n benodol ar gyfer athrawon newydd gymhwyso, athrawon sydd ar gam cynnar yn eu datblygiad proffesiynol, ac athrawon anarbenigol.

Bydd y cyfle dysgu proffesiynol hwn yn sicrhau bod gan ymarferwyr ddealltwriaeth glir o ofynion cyflwyno Saesneg yn yr ystafell ddosbarth, ynghyd â’r sgiliau hanfodol y mae angen i ddysgwyr eu datblygu. Bydd yr Ymarferwyr yn datblygu dulliau effeithiol o addysgu agweddau ar ddarllen, ysgrifennu a llafaredd o fewn Cwricwlwm i Gymru yn groyw.

Bydd y cyfle dysgu proffesiynol hwn yn meithrin dealltwriaeth o sut i strwythuro gwers Saesneg mewn modd effeithiol, gan ddefnyddio cwestiynau ar gyfer ystyr dyfnach, darllen, dadansoddi a’r defnydd o Pwyntio, Tystiolaeth, Esboniad/Pwyntio, Tystiolaeth, Dadansoddiad/Pwyntio, Dyfyniad, Dadansoddiad (PPE/PEA/PQE), a datblygu’r broses ysgrifennu.

Manylion y Digwyddiad:

19 Hydref 2023 09:30-15:00
Ystafell Tywi, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Llanarthne, SA32 8HN
Archebwch yma


7 Mawrth 2024 09:30-15:00
Canolfan Halliwell, Caerfyrddin SA31 3EP
Archebwch yma


Jane Shilling Arbenigwr Saesneg Uwchradd jane.shilling@partneriaeth.cymru

Emma Wright Arbenigwr Saesneg Uwchradd emma.wright@partneriaeth.cymru

PDF

Cymraeg Hanfodol

Cynulleidfa Darged: Athrawon newydd gymhwyso, athrawon ar ddechrau eu gyrfa, athrawon anarbenigol, athrawon sy’n dychwelyd i addysgu’r fanyleb.

Cefnogi blaenoriaethau’r awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i sicrhau dysgu ac addysgu rhagorol, a chefnogi ysgolion gyda datblygiad proffesiynol ar gyfer athrawon; diwrnod o ddysgu proffesiynol ar agweddau allweddol ar gyflwyno’r Gymraeg yn yr ystafell ddosbarth, wedi’i fwriadu’n benodol ar gyfer athrawon newydd gymhwyso, athrawon sydd ar gam cynnar yn eu datblygiad proffesiynol, ac athrawon anarbenigol.

Bydd y cyfle dysgu proffesiynol hwn yn sicrhau bod gan ymarferwyr ddealltwriaeth glir o ofynion cyflwyno’r Gymraeg yn yr ystafell ddosbarth, ynghyd â’r sgiliau hanfodol y mae angen i ddysgwyr eu datblygu.

Bydd yr Ymarferwyr yn datblygu dulliau effeithiol o addysgu agweddau ar ddarllen, ysgrifennu a llafaredd yn groyw yn Cwricwlwm i Gymru.

Bydd y cyfle dysgu proffesiynol hwn yn meithrin dealltwriaeth o sut i strwythuro gwers Gymraeg mewn modd effeithiol, gan ddefnyddio cwestiynau ar gyfer ystyr dyfnach, darllen, dadansoddi, a datblygu’r broses ysgrifennu.

Bydd yr ymarferwyr yn gadael gydag amrywiaeth o strategaethau ymarferol ar gyfer yr ystafell ddosbarth i wella’r dysgu a’r addysgu.

Manylion y Digwyddiad:

15 Tachwedd 2023 09:30-15:00
Y Llwyfan, Heol Y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ
Archebwch yma


14 Mawrth 2024 09:30-15:00
Y Llwyfan, Heol Y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ
Archebwch yma


Lowri Davies MDaPh Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu lowri.davies@partneriaeth.cymru 

Dyfed Williams MDaPh Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu dyfed.williams@partneriaeth.cymru 

PDF

Cyflwyno TGAU Iaith Saesneg mewn modd llwyddiannus

Cynulleidfa Darged: Athrawon newydd gymhwyso, athrawon ar ddechrau eu gyrfa, athrawon anarbenigol, athrawon sy’n dychwelyd i addysgu’r fanyleb.

I gefnogi blaenoriaethau awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru o ran sicrhau dysgu ac addysgu rhagorol, ac i gefnogi ysgolion ym maes datblygiad proffesiynol i athrawon, bydd hwn yn ddiwrnod o ddysgu proffesiynol ar y modd i gyflwyno TGAU Iaith Saesneg mewn modd llwyddiannus.

Bydd y cyfle dysgu proffesiynol hwn yn sicrhau bod gan ymarferwyr ddealltwriaeth lawn o ofynion manyleb y pwnc a’r modd y caiff hyn ei wireddu yn yr ystafell ddosbarth.

Manylion y Digwyddiad:

29/01/24 09:30-15:00     
Y Llwyfan, Heol Y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ
Archebwch yma


Jane Shilling Arbenigwr Saesneg Uwchradd jane.shilling@partneriaeth.cymru

Emma Wright Arbenigwr Saesneg Uwchradd emma.wright@partneriaeth.cymru

PDF

Cyflwyno TGAU Llenyddiaeth Saesneg mewn modd llwyddiannus

Cynulleidfa Darged: Athrawon newydd gymhwyso, athrawon ar ddechrau eu gyrfa, athrawon anarbenigol, athrawon sy’n dychwelyd i addysgu’r fanyleb.

I gefnogi blaenoriaethau awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i sicrhau dysgu ac addysgu rhagorol, ac i gefnogi ysgolion gyda datblygiad proffesiynol i athrawon, diwrnod o ddysgu proffesiynol ar sut i gyflwyno TGAU Llenyddiaeth Saesneg mewn modd llwyddiannus.

Bydd y cyfle dysgu proffesiynol hwn yn sicrhau bod gan yr ymarferwyr ddealltwriaeth lawn o ofynion y fanyleb pwnc Llenyddiaeth a’r modd y caiff ei gwireddu yn yr ystafell ddosbarth.

Manylion y Digwyddiad:

30/11/23   09:30-15:00     
Y Llwyfan, Heol Y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ
Archebwch yma


Jane Shilling Arbenigwr Saesneg Uwchradd jane.shilling@partneriaeth.cymru

Emma Wright Arbenigwr Saesneg Uwchradd emma.wright@partneriaeth.cymru

PDF

Prosiect Llenyddiaeth Hanes

Cynulleidfa Darged: Arweinwyr y Dyniaethau a Llythrennedd

Diben y prosiect hwn yw darparu cyfleoedd i ddysgwyr ymgysylltu â straeon am y gorffennol o nifer o safbwyntiau. Mae’r amrywiaeth eang o deitlau sydd ar gael i ysgolion erbyn hyn yn caniatáu i’r dysgwyr edrych ar hanes trwy lens pobl ifanc o’r mwyafrif byd-eang, ac o gefndiroedd Du ac Asiaidd. Maent yn adrodd straeon am gyfnodau a allai fod wedi cael eu hadrodd yn flaenorol o safbwynt Ewroganolog yn unig. Mae’r prosiect hwn, sy’n seiliedig ar dystiolaeth ymchwil, yn dilyn dull ‘Dim ond Darllen’, sy’n anelu at ddatblygu llythrennedd dysgwyr mewn lleoliadau cynradd ac uwchradd gan ennyn diddordeb mewn cyfnodau hanesyddol ar yr un pryd.

Mae’r prosiect hwn yn ffurfio rhan o’n gwaith i gefnogi ysgolion gyda’u dulliau o ddad-drefedigaethu’r cwricwlwm yn unol â Chynllun Cymru Wrth-hiliol, Cenhadaeth ein Cenedl, ac adroddiad Llywodraeth Cymru ar Gynefin, Cyfraniadau a Chymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y Cwricwlwm Newydd, a hynny i sicrhau cwricwlwm mwy cynhwysol sy’n adrodd y stori gyfan, stori y gall pob dysgwr ei weld ei hun ynddi.

Manylion y Digwyddiad:

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn, cysylltwch â:

Jane Shilling Arbenigwr Saesneg Uwchradd jane.shilling@partneriaeth.cymr

Julian Nicholds Arbenigwr Hanes Uwchradd julian.nicholds@partneriaeth.cymru

PDF