Rhaglen Datblygu Arweinyddiaeth Ganol (RhDAG)
Y Rhaglen Genedlaethol i Ddatblygu Arweinwyr Canol
Cynulleidfa Darged: Darpar arweinwyr canol ac arweinwyr canol sydd eisoes yn ymgymryd â’r rolau yng nghyd-destun yr ysgol.
Trwy hunanwerthuso a myfyrio, gan archwilio’r perthnasoedd rhwng arweinyddiaeth, ysgolion llwyddiannus a’r gymuned ehangach, mae’r Rhaglen Genedlaethol i Ddatblygu Arweinwyr Canol yn hyrwyddo arweinyddiaeth hynod o effeithiol.
Yn rhan o’r continwwm dysgu proffesiynol, bydd cyfranogwyr, trwy’r rhaglen hon, yn:
datblygu dealltwriaeth o’r rôl
datblygu eu dealltwriaeth o’r agenda diwygio cenedlaethol ymhellach
datblygu eu hymarfer yn unol â’r safonau arweinyddiaeth ffurfiol
paratoi ar gyfer ymgysylltiad effeithiol ag elfennau pwrpasol o wybodaeth a sgiliau arbenigol.
Mae pawb a dderbynnir ar y rhaglen yn:
Arwain ar ddatblygu, gweithredu ac adolygu Tasg Profiad o Arweinyddiaeth.
Bydd yr holl gyfranogwyr yn mynychu ac yn cyfrannu at gymryd rhan ym mron pob un o fodiwlau’r rhaglen.
Bydd yr holl gyfranogwyr yn adolygu eu harweinyddiaeth eu hunain ac yn datblygu’r agweddau y byddant yn eu nodi eu hunain i’w gwella, yn unol â’r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth.
Manylion y Digwyddiad:
Bydd y rhaglen ddatblygu hon yn cynnwys:
Modiwl 1 - Beth yw Arweinyddiaeth Ganol effeithiol yn y cyd-destun cyfredol? – mae’n cynnwys safonau, Cenhadaeth ein Cenedl, Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu.
Modiwl 2 - Arwain Addysgeg, gan ddarparu addysgu a dysgu effeithiol – mae’n cynnwys arferion monitro effeithiol a dadansoddi canlyniadau monitro. Atebolrwydd, rolau a chyfrifoldebau’r hunan ac eraill.
Modiwl 3 - Rheoli: strategaethau, strwythurau a systemau. Mae’n cynnwys cynllunio ar gyfer gwella a rheoli adnoddau ariannol a dynol.
Modiwl 4 - Cyflawni mwy trwy gydweithrediad effeithiol. Mae’n cynnwys llesiant ac ymgysylltiad effeithiol, a gweithio gyda’r holl randdeiliaid ac asiantaethau allanol.
Modiwl 5 - Gwerthuso ac Effaith. Bydd y cyfranogwyr yn cyflwyno i’w grŵp cymheiriaid y modd y maent wedi datblygu yn rôl yr arweinydd, a sut y mae eu camau gweithredu yn amlygu effaith ar safonau.
Yn ychwanegol at hyn, bydd pob cyfranogwr yn ymgymryd â Thasg Profiad o Arweinyddiaeth, a hynny gan ddefnyddio’r canfyddiadau ymchwil mwyaf diweddar i ddatblygu ei sgiliau arwain.
Rhaid cofrestru trwy system archebu genedlaethol, a fydd yn dosbarthu ffurflenni wedi’u llenwi i’r priod ranbarth
lle y cyflogir y cyfranogwr. Bydd y broses ganolog hon o gofrestru yn caniatáu i ddata cenedlaethol gael eu casglu
ac i’r trefniadau mwyaf priodol gael eu rhoi ar waith ar gyfer pob carfan.
Dyddiad cau 13/10/2023
Janet Waldron Interim Lead for Middle Leader Development waldronj11@hwbcymru.net
Rob Phillips Interim Lead for Leadership phillipsr145@hwbcymru.net
Hazel Faulkner Business Support Officer hazel.faulkner@partneriaeth.cymru