Darpar Gynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch (CALU)
Cylch 8 y Rhaglen Ddatblygu Genedlaethol ar gyfer Darpar Gynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch
Cynulleidfa Darged: Bwriad y Rhaglen hon ar gyfer Darpar Gynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch yw cefnogi’r Cynorthwywyr Addysgu mwyaf profiadol sy’n dymuno datblygu eu sgiliau ymhellach, a nodi eu parodrwydd ar gyfer y rhaglen asesu Cynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch.
Ceir mynediad i’r rhaglen trwy broses ymgeisio genedlaethol a chaiff ei gydlynu gan gonsortia rhanbarthol, sy'n defnyddio ystod o bartneriaid hwyluso, mewn cydweithrediad ag Awdurdodau Lleol. Bydd y rhaglen ddatblygu hon yn cynnwys pedwar modiwl:
Modiwl 1 Dysgu Proffesiynol, Cyd-destun Cenedlaethol a Chydweithio
Modiwl 2 Dylanwadu ar Ddysgu, Mireinio Addysgu a Chydweithio
Modiwl 3 Hybu’r Dysgu a Chydweithio
Modiwl 4 Arweinyddiaeth, Arloesi a Chydweithio
Gofynnir i ymgeiswyr gwblhau tasgau ysgrifenedig byr, gan roi darlun cyflawn o’u gwaith wrth iddynt arddangos elfennau o’r Safonau Proffesiynol ar gyfer Cynorthwyo Addysgu.
Mae’r tasgau hyn a elwir yn Fyfyrdodau Dysgu Proffesiynol yn cael eu cofnodi trwy gydol y rhaglen, a’u cyflwyno ar ôl y sesiwn olaf i gefnogi’r rhaglen asesu Cynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch.
Er mwyn bod yn gymwys am y Rhaglen ar gyfer Darpar Gynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch, rhaid i ymgeiswyr:
Feddu ar brofiad digonol a sgiliau arbenigol i amlygu tystiolaeth o arfer hynod effeithiol parhaus yn unol â’r Safonau Proffesiynol ar gyfer Cynorthwyo Addysgu.
Meddu ar gymwysterau lefel 2 gofynnol*, neu fod yn barod i’w hennill. (Gall ymgeiswyr heb gymwysterau Lefel 2 wneud cais am y rhaglen hon ond rhaid iddynt gyrraedd Lefel 2 cyn yr asesiad).
Meddu ar rywfaint o brofiad o arwain y dysgu ar gyfer dosbarthiadau cyfan. Mae’n bosibl y bydd Cynorthwywyr Addysgu sydd â phrofiad cyfyngedig o hyn yn gweld bod modd trefnu digon o gyfleoedd i addysgu dosbarthiadau o fewn amserlen y rhaglen. Gofynnir i benaethiaid gadarnhau bod ymgeiswyr wedi cael neu y byddant yn cael y cyfleoedd hyn.
Cael cefnogaeth lawn eu Pennaeth, y bydd gofyn iddo gymeradwyo’r cais.
Manylion y Digwyddiad:
Bydd y rhaglen yn rhedeg o fis Ionawr 2024 i dymor yr hydref 2024, ac mae’r dyddiadau penodol i’w cadarnhau. Bydd cyflwyno'r rhaglen yn gyfuniad o astudio hunangyfeiriedig, cefnogaeth ar-lein a gweminarau. Bydd y gweminarau wedi'u cynllunio i fynd i'r afael ag agweddau craidd ar y rhaglen ac i ddelio â chwestiynau. Ni fydd pob gweminar yn para mwy na dwy awr a bydd yn digwydd yn ystod y diwrnod ysgol. Bydd angen i ysgolion ryddhau ymgeiswyr o'u cyfrifoldebau am yr amseroedd hyn, yn yr un modd ag y byddent pe bai ymgeisydd yn mynychu cwrs wyneb i wyneb.
Heulwen Lloyd Arweinydd Prosiect – Dysgu Proffesiynol Cynorthwywyr Addysgu heulwen.lloyd@partneriaeth.cymru