Cwricwlwm, Dysgu ac Addysgu

Trefnir y rhan hon o'r cynnig dysgu proffesiynol yn dair adran. Mae Cynllunio eich cwricwlwm ar gyfer unrhyw gyd-weithwyr sydd o'r farn bod arnynt angen diweddariad neu sy'n newydd i addysgu yng Nghymru. Gweithredu eich cwricwlwm yw'r man lle y byddwch yn dod o hyd i'r rhan helaeth o'ch dysgu proffesiynol: y Meysydd Dysgu a Phrofiad (yn cynnwys cymorth pynciau uwchradd); sgiliau trawsgwricwlaidd; addysgeg; themâu trawsbynciol; ymchwil ac ymholiad; ôl-16; a Chymraeg. Mae'r adran Adolygu eich cwricwlwm yn cael ei datblygu ar hyn o bryd, a dyma lle y byddwch yn gallu cyrchu dysgu proffesiynol ar hunanwerthuso Cwricwlwm i Gymru.