Lliniaru effaith tlodi

Wythnos Dysgu Proffesiynol Tegwch mewn Addysg  11eg - 15fed Mawrth 2024

Dydd Llun : Beth yw Tegwch mewn Addysg? 

Sesiynau'r Bore 09:30-11:30 Datblygu Gwybodaeth a Dealltwriaeth
Deall rôl Tegwch mewn Addysg
Dylan Williams, Partneriaeth
Cyflwyniad i egwyddorion allweddol darpariaeth deg a sut olwg all fod ar hyn yn yr ystafell ddosbarth ac fel rhan o ddull ysgol gyfan.

https://forms.gle/HY7rYiCDmbZhV7i26


Sesiynau'r Prynhawn 13:00-15:00 Sesiynau Ymarferol ar gyfer yr Ysgol Gyfan a'r Ystafell Ddosbarth
Cydraddoldeb mewn Addysg – Astudiaethau Achos:
Bydd y sesiwn hon yn rhoi cyfle i chi glywed am y modd y mae amrywiaeth o ysgolion/leoliadau yn gweithio i ymgorffori tegwch yn eu system addysg.

https://forms.gle/g493SaRu7cb5HmCE7


Dydd Mawrth : Lliniaru Effaith Tlodi ar Gyflawniad a Chyrhaeddiad

Sesiynau'r Bore 09:30-11:30 Datblygu Gwybodaeth a Dealltwriaeth
Deall a Lliniaru Effaith Tlodi
Children North East
Bydd y sesiwn hon yn archwilio sut i liniaru’r effaith negyddol y gall tlodi ei chael ar gyrhaeddiad a chyflawniad dysgwyr a’u teuluoedd.

https://forms.gle/5Zp1b8TLwSbkpF418


Sesiynau'r Prynhawn 13:00-15:00 Sesiynau Ymarferol ar gyfer yr Ysgol Gyfan a'r Ystafell Ddosbarth
Lliniaru Effaith Tlodi mewn Ysgolion – Astudiaethau Achos:
Bydd y sesiwn hon yn rhoi cyfle i chi glywed am y modd y mae amrywiaeth o ysgolion/leoliadau yn gweithio i liniaru effaith tlodi.

https://forms.gle/BxBUWi23ic5HEWUH8


Dydd Mercher- Lliniaru Effaith Trawma ar Gyflawniad a Chyrhaeddiad

Sesiynau'r Bore 09:30-11:30 Datblygu Gwybodaeth a Dealltwriaeth
Deall Ymlyniad a Thrawma
Helen Worrall, Ymgynghorydd Addysg Annibynnol
Bydd y sesiwn hon yn eich helpu i ddeall y modd y gall ymlyniad y tarfwyd arno a/neu brofiad o ddigwyddiadau trawmatig effeithio ar y gallu i hunanreoleiddio a bod yn 'barod i ddysgu’. 

https://forms.gle/x4JZNxTxrzDYevcJA


Sesiynau'r Prynhawn 13:00-15:00 Sesiynau Ymarferol ar gyfer yr Ysgol Gyfan a'r Ystafell Ddosbarth
Cefnogi Dysgwyr i Hunanreoleiddio:
Mae'r sesiynau 90 munud hyn yn cyflwyno dulliau ymarferol o gefnogi dysgwyr i hunanreoleiddio

https://forms.gle/cJAcn1erommPRCaX9


Dydd Iau – Ymgysylltu â’r Gymuned a Theuluoedd

Sesiynau'r Bore 09:30-11:30 Datblygu Gwybodaeth a Dealltwriaeth
Deall Rôl Ymgysylltu â'r Gymuned a Theuluoedd
Dylan Williams, Partneriaeth
Bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar pam y gall ymgysylltu â theuluoedd a chymunedau fod yn rhan o ddull eich ysgol o sicrhau darpariaeth deg. Byddwch hefyd yn cael enghreifftiau o sut y gellir cyflawni hyn trwy ddefnyddio Pecyn Cymorth Ymgysylltu â'r Gymuned a Theuluoedd Llywodraeth Cymru.

https://forms.gle/jS4LYvJbnsBPcPAn7


Sesiynau'r Prynhawn 13:00-15:00 Sesiynau Ymarferol ar gyfer yr Ysgol Gyfan a'r Ystafell Ddosbarth
Ymgysylltu â'r Gymuned a Theuluoedd mewn Ysgolion – Astudiaethau Achos:
Bydd y sesiwn hon yn rhoi’r cyfle i chi glywed sut y mae ystod o ysgolion/leoliadau wedi datblygu eu dulliau o ymgysylltu â'r gymuned a theuluoedd, a darperir enghreifftiau clir o’r hyn y maent wedi’i ganfod i fod yn effeithiol.

https://forms.gle/kspJafyeuuDRVcmF9


Dydd Gwener - Datblygu Llythrennedd Cymdeithasol ac Emosiynol

Sesiynau'r Bore 09:30-11:30 Datblygu Gwybodaeth a Dealltwriaeth
Datblygu Dysgu Cymdeithasol ac Emosiynol yn y Blynyddoedd Cynnar.
Think Equal
Bu nifer o astudiaethau sy'n dangos effaith gadarnhaol rhaglenni dysgu cymdeithasol ac emosiynol o ansawdd uchel yn ystod plentyndod cynnar ar effeithiau gydol oes. Bydd y sesiwn hon yn eich cyflwyno i'r rhaglen Think Equal sydd ag adnoddau llawn ar gyfer dysgwyr 3-6 oed. 

Byddwch yn cael y cyfle i glywed gan ysgolion sydd eisoes yn defnyddio'r rhaglen Think Equal. Byddwch hefyd yn cael arweiniad ar y modd y gall Think Equal gefnogi eich darpariaeth Iechyd a Lles.

https://forms.gle/TaQVVDFhWpZa9s8EA


Sesiynau'r Prynhawn 13:00-15:00 Sesiynau Ymarferol ar gyfer yr Ysgol Gyfan a'r Ystafell Ddosbarth
Hyfforddiant ar Emosiynau: Dull Ysgol Gyfan o Ddatblygu Llythrennedd Cymdeithasol ac Emosiynol
Partneriaeth
Bydd y sesiwn ragarweiniol hon yn darparu cyfarwyddiadau cam wrth gam ar gyfer y dechneg Hyfforddiant ar Emosiynau, sy'n defnyddio adegau o emosiynau dwysach fel cyfleoedd i ddysgu a datblygu sgiliau cymdeithasol ac emosiynol. Mae Hyfforddiant ar Emosiynau yn ddull sy’n ystyriol o drawma, a byddwch yn cael y cyfle i glywed gan ysgolion sydd wedi ymgorffori Hyfforddiant ar Emosiynau fel rhan o’u dull ysgol gyfan ar gyfer cefnogi iechyd emosiynol a meddyliol.

https://forms.gle/81VJYVbUFujxXwH4A


Dylan Williams Regional Project Lead for Equity and Wellbeing dylan.williams@partneriaeth.cymru

PDF

Diogelu’r Diwrnod Ysgol Rhag Tlodi

Cynulleidfa Darged: Uwch-arweinwyr

Mae lleihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol yn flaenoriaeth genedlaethol, a gofynnir i bob ysgol a lleoliad ystyried y modd y maent yn gweithio i liniaru tlodi yn eu lleoliad.

Mae ‘Poverty Proofing© the School Day’ yn arf pwerus i nodi’r rhwystrau y mae plant sy’n byw mewn tlodi yn eu hwynebu rhag ymgysylltu’n llawn â bywyd ysgol a’i gyfleoedd. Gan ganolbwyntio ar wrando ar leisiau a phrofiadau pobl ifanc, mae’n cynnig llwybr i ysgolion fynd i’r afael ag anghydraddoldebau sy’n aml yn anweledig yn ystod eu gweithgareddau, gan eu helpu i leihau stigma a thorri’r cysylltiad rhwng cyrhaeddiad addysgol a chefndir ariannol, ac mae hefyd yn cefnogi ysgolion i archwilio’r ffyrdd mwyaf effeithiol o ddefnyddio’r Grant Datblygu Disgyblion.

Manylion y Digwyddiad:

19 a 20 Medi 2023 09:30-15:00
Ysgol Tan Y Lan, Abertawe SA6 7HN
Archebwch yma

23 a 24 Ionawr 2024 09:30-15:00
Y Llwyfan, Heol Y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ
Archebwch yma

22 a 30 Ebrill 2024 10:00-12:00
Ar-lein
Archebwch yma


Dylan Williams    Dysgu Proffesiynol – Tegwch a Llesiant dylan.williams@partneriaeth.cymru

PDF

Ymgysylltu â’r Gymuned a Theuluoedd

Cynulleidfa Darged: Unrhyw ymarferydd sy’n gweithio ledled y sector addysg ehangach – ffocws ar uwch-arweinwyr ysgolion a staff mewn rolau ymgysylltu/cymunedol mewn ysgolion.

Mae teuluoedd yn cael dylanwad pwerus ar y modd y mae plant yn dod yn eu blaenau yn yr ysgol. Mae ysgolion sy’n uchelgeisiol ac yn llwyddiannus yn cydnabod bod angen iddynt ymgysylltu’n effeithiol â rhieni, gofalwyr a’r gymuned ehangach er mwyn codi safonau a gwella llesiant dysgwyr.

Gall cynnwys rhieni a gofalwyr yn addysg eu plant ddileu rhwystrau i ddysgu a gwella agweddau ac ymddygiad yn yr ysgol. Gwyddom fod yr ymgysylltu mwyaf ystyrlon ac effeithiol â theuluoedd yn datblygu pan fydd ysgolion yn croesawu rhieni, gofalwyr a’r teulu ehangach i fod yn bartneriaid gwerthfawr yn nysgu eu plant.

Mae ymgysylltu cymunedol ehangach hefyd yn cael dylanwad cadarnhaol. Mae ysgolion sy’n estyn allan ac yn mynd ati i gynnwys y gymuned ym mywyd yr ysgol a’r ysgol ym mywyd y gymuned yn cael effaith gadarnhaol ar ddeilliannau addysgol. Mae ymgysylltu â’r gymuned yn rhoi dysgu yn ei gyd-destun, yn gwella sgiliau sylfaenol oedolion ac yn darparu modelau rôl cadarnhaol.

Wedi’i ystyried hefyd yng ngoleuni’r canllawiau newydd ar Ysgolion Bro a’r disgwyliadau uwch ar bob ysgol i ystyried y modd y gall ddatblygu ei hymgysylltiad â’r Gymuned a Theuluoedd, mae hwn yn gyfle i archwilio a datblygu dealltwriaeth o Becyn Cymorth Ymgysylltu â’r Gymuned a Theuluoedd Llywodraeth Cymru, a sut beth yw arfer da ac effeithiol mewn lleoliadau a chymunedau gwahanol.

Manylion y Digwyddiad:

Sesiynau tymhorol

9 Tachwedd 2023 09:30-14:30
Yr Atom, Caerfyrddin SA31 1BH
Archebwch yma

18 Mawrth 2024 09:30-14:30
Neuadd Vivian, Canolfan Dylan Thomas, Abertawe SA1 1RR
Archebwch yma

25 Mehefin 2024 10:00-14:00
Ar-lein
Archebwch yma


Dylan Williams    Dysgu Proffesiynol – Tegwch a Llesiant dylan.williams@partneriaeth.cymru

PDF

Meddwl mewn ffordd wahanol ar gyfer dysgwyr dan anfantais

Cynulleidfa Darged: Unrhyw aelod o staff/ymarferydd sydd â diddordeb mewn deall anfantais yn well a’i rôl o ran lliniaru’r effaith.

Dylai cefnogi’r dysgwyr mwyaf agored i niwed, ynghyd â’r rhai sydd dan yr anfantais fwyaf, fod yn flaenoriaeth i bob ysgol a lleoliad. Os ydym yn disgwyl i bob dysgwr allu dysgu, a bod yn barod i wneud hynny, yna rhaid i ni sicrhau ein bod yn deall effaith anfantais ar y dysgwr, a’r hyn y gellir ei wneud i liniaru hynny.

Mae Meddwl mewn Ffordd Wahanol ar gyfer Dysgwyr Dan Anfantais yn rhaglen dysgu proffesiynol ar-lein sy’n seiliedig ar chwe modiwl hyfforddi wedi’u recordio, sydd ar gael i’r holl staff (a llywodraethwyr) eu cyrchu ar adeg sy’n gyfleus iddynt, a/neu i ysgolion eu hymgorffori yn eu cynllun datblygu proffesiynol ar gyfer yr ysgol gyfan. Mae’r rhaglen yn cynnwys dros 12 awr o ddeunyddiau a gyflwynir mewn sesiynau hylaw, ac a gynlluniwyd a chynhyrchwyd gan arbenigwyr arweiniol sy’n meddu ar gyfoeth o brofiad mewn perthynas ag arwain prosesau gwella ysgolion ar gyfer pobl ifanc dan anfantais.

Rhennir pob modiwl hyfforddi yn gyfres o sesiynau fideo byr (y gellir eu gwylio ar-lein yn unig), ac mae yna ddeunyddiau darllen cysylltiedig ychwanegol, yn ogystal â thaflenni gwaith myfyriol (y gellir eu lawrlwytho).

Mae gan bob ysgol a lleoliad ledled rhanbarth Partneriaeth fynediad agored i’r rhaglen Meddwl mewn Ffordd Wahanol ar gyfer Dysgwyr Dan Anfantais tan 2030, a gellir cyrchu’r rhaglen unrhyw bryd.

Gellir cyrchu’r rhaglen trwy gofnod ysgol unigol (un mewngofnod fesul ysgol), a gellir ei sefydlu YMA.

Datblygwyd y Rhaglen Meddwl mewn Ffordd Wahanol ar gyfer Dysgwyr Dan Anfantais gan ‘Challenge Education’, sef y tîm y tu ôl i’r Rhaglen RADY, ac mae’n ychwanegiad perffaith i RADY neu wedi’i chynllunio hefyd i’w defnyddio fel adnodd dysgu proffesiynol sy’n sefyll ar ei ben ei hun.

Manylion y Digwyddiad:

‘Cyflwyniad i’r Rhaglen Meddwl mewn Ffordd Wahanol ar gyfer Dysgwyr Dan Anfantais’ – Medi 2023

Archebwch yma


Dylan Williams Dysgu Proffesiynol – Tegwch a Llesiant dylan.williams@partneriaeth.cymru

PDF

Codi Cyrhaeddiad Pobl Ifanc Dan Anfantais (RADY)

Cynulleidfa Darged: Uwch-arweinwyr

Mae’r bwlch cyflawniad yng Nghymru yn parhau i fod yn anghymesur o uchel ac mae lleihau effaith anfantais ar gyrhaeddiad addysgol yn parhau i fod yn flaenoriaeth genedlaethol.

Mae’r Rhaglen RADY (Codi Cyrhaeddiad Pobl Ifanc Dan Anfantais) wedi’i datblygu gan ‘Challenging Education’, ac mae’n rhaglen newid ysgol gyfan strategol, a gynlluniwyd i gefnogi uwch-arweinwyr i ddatblygu dealltwriaeth well o’u dysgwyr difreintiedig a’r meysydd cymorth ac ymyrraeth y gellid eu rhoi ar waith i wella deilliannau.

Bydd gan yr ysgolion sy’n cymryd rhan raglen cymorth a gweithgarwch bwrpasol, wedi’i chynllunio i wella cyrhaeddiad dysgwyr difreintiedig. Bydd pob ysgol yn datblygu ffordd newydd o ymdrin â thargedau a disgwyliadau ar gyfer eu dysgwyr mwyaf difreintiedig, ac yn rhoi cynlluniau ar waith i godi disgwyliadau a blaenoriaethu cymorth.

Manylion y Digwyddiad:

Sesiwn Wybodaeth RADY 09:30-10:30

Archebwch yma


Dylan Williams    Dysgu Proffesiynol – Tegwch a Llesiant dylan.williams@partneriaeth.cymru

PDF