Darpar Benaethiaid

Mae’r trefniadau i arweinwyr ysgolion ennill y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP) bellach wedi newid, ac ni ellir ei gyflawni bellach trwy gymryd rhan yn y Rhaglen Datblygu Darpar Benaethiaid.

Y cyfranogwyr sydd ar y Rhaglen Datblygu Darpar Benaethiaid ar hyn o bryd, a ddechreuodd y rhaglen ym mis Ionawr 2023, fydd yr olaf i fynd ymlaen i'r asesiad CPCP ar ôl cymryd rhan yn y rhaglen yn ei fformat presennol.

Mae Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid eraill, yn y broses o ddatblygu trefniadau CPCP newydd, a bydd rhaglen newydd ar waith erbyn tymor yr hydref 2024. Cyhoeddir rhagor o fanylion am y rhaglen CPCP newydd hon maes o law.  

Mae’r newidiadau hyn yn benderfyniad a wnaed gan Lywodraeth Cymru, a hynny'n dilyn cyhoeddi adroddiad yr Athro Mick Waters ar ei adolygiad o’r trefniadau CPCP presennol. Mae datganiad gan Lywodraeth Cymru ar gael yma.

Bydd cyfranogwyr blaenorol y Rhaglen Datblygu Darpar Benaethiaid a ohiriodd eu hasesiad CPCP neu nad oeddent wedi cyrraedd y safonau gofynnol, yn cael cyfleoedd ar gyfer asesiad mewn Canolfan Asesu CPCP ym mis Chwefror 2024, ac eto ym mis Mai / Myhefin 2024.

Rhaglen Genedlaethol i Ddatblygu Darpar Benaethiaid (Paratoi ar gyfer CPCP)

Cynulleidfa Darged: Bydd y rhaglen ar gael i bob arweinydd ysgol profiadol sy’n credu ei fod yn amlygu cyflawniad yn ôl y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth, ac y mae prifathrawiaeth yn gam nesaf realistig ar ei gyfer.

Mae’r Rhaglen Datblygu Darpar Benaethiaid (Paratoi ar gyfer CPCP) yn rhaglen genedlaethol a ddarperir gan y consortia rhanbarthol ar ran Llywodraeth Cymru. Mae CPCP yn gymhwyster statudol ar gyfer prifathrawiaeth yng Nghymru. Mae cwblhau’r rhaglen hon yn ddisgwyliad i bob ymgeisydd ar gyfer y CPCP.

Mae’r rhaglen hon wedi’i chymeradwyo gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol, gyda chyfle ar gyfer ardystio mewn partneriaeth â PCYDDS a Phrifysgol Bangor.

Bydd y meini prawf llwyddiant cychwynnol yn cael eu mesur yn unol â’r graddau y mae’r ymgeiswyr yn gwneud y canlynol:

Manylion y Digwyddiad:

Mae’r rhaglen hon yn gyfle dysgu proffesiynol i ddarpar benaethiaid i’w paratoi ar gyfer ymgymryd ag asesiad gofynnol y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP). Mae’n rhaglen bum modiwl a fydd yn cael ei chyflwyno dros y flwyddyn galendr. Bydd yn cychwyn ddechrau tymor y gwanwyn 2023 ac yn cael ei chwblhau erbyn diwedd tymor yr hydref 2023. Dilynir hyn wedyn gan asesiad CPCP ddechrau 2024.

Mae modiwlau’r Rhaglen Datblygu Darpar Benaethiaid fel a ganlyn: 

Mae pob modiwl yn mynd i’r afael ag elfen arwyddocaol o arweinyddiaeth ysgol effeithiol, a bydd yn defnyddio

amrywiaeth o ddulliau gan sicrhau profiad o ansawdd ar gyfer y cyfranogwyr. Bydd y rhan yn cael eu darparu gan dîm cyflenwi o’r consortiwm rhanbarthol.

Bydd Hyfforddwr Arweinyddiaeth yn cael ei neilltuo ar gyfer pob cyfranogwr unigol, sef Pennaeth, nad yw o’r un ysgol ag ef, a fydd nid yn unig yn gweithio gyda’r cyfranogwr ar sail un i un, ond hefyd yn sicrhau bod rhwydwaith cymheiriaid yn cael ei ffurfio ac yn gweithio’n effeithiol, rhwydwaith a fydd yn mynd i’r afael â materion allweddol ac yn cydweithredu i rannu arfer gorau.

Wedi iddynt gwblhau modiwlau’r rhaglen, bydd disgwyl i’r cyfranogwyr ymgeisio i ymgymryd â’r broses asesu CPCP.

Yn rhan o’u cais, bydd y cyfranogwyr yn cyflwyno’r canlynol:

Gwahoddir y cyfranogwyr i Ganolfan Asesu CPCP Partneriaeth ddiwedd mis Ionawr/ddechrau mis Chwefror, lle byddant yn ymgymryd â chyfres o gyfweliadau a chyflwyniadau â phaneli o benaethiaid profiadol, a fydd yn asesu a yw’r cyfranogwyr wedi bodloni’r meini prawf i ennill statws CPCP.

Hon fydd y garfan olaf i gwblhau’r rhaglen hon yn ei fformat cyfredol.

Mae Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid eraill, yn y broses o ddatblygu trefniadau CPCP newydd, a bydd rhaglen newyd ar waith erbyn tymor yr hydref 2024. Cyhoeddir rhagor o fanylion am y rhaglen CPCP newydd hon maes o law.


I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:

Rob Phillips Arweinydd Dros Dro ar gyferArweinyddiaeth phillipsr145@hwbcymru.net

Hazel Faulkner Swyddog Cymorth Busnes hazel.faulkner@partneriaeth.cymru

PDF