Athrawon Newydd Gymhwyso
Sefydlu ar gyfer Athrawon Newydd Gymhwyso (ANG)
Cynulleidfa Darged: Athrawon Newydd Gymhwyso sy’n ymgymryd â Sefydlu fel athro contract mewn ysgol neu athro cyflenwi byrdymor/hirdymor mewn Ysgolion a Gynhelir ac Unedau Cyfeirio Disgyblion.
Mae cyfleoedd Dysgu Proffesiynol Partneriaeth ar gyfer Athrawon Newydd Gymhwyso (ANG) wedi’u datblygu i roi mynediad cyfartal i Ddysgu Proffesiynol i bob ANG.
Mae Dysgu Proffesiynol yn annog ymgysylltiad ag ymholiad, ac fe’i cefnogir gan Fentoriaid Sefydlu (MS), Mentoriaid Allanol (MA), a Gwirwyr Allanol (GA). Mae cynigion Dysgu Proffesiynol ar gael i fentoriaid hefyd, fel eu bod yn gallu cefnogi’r Athrawon Newydd Gymhwyso mewn modd proffesiynol a gwybodus.
Mae rhywfaint o’r Dysgu Proffesiynol wedi’i gyd-greu trwy raglen Genedlaethol draws-ranbarthol ac mae ar gael i Athrawon Newydd Gymhwyso.
Cyfrannu at adeiladu gweithlu addysgu rhagorol er budd pob dysgwr.
Cefnogi Athrawon Newydd Gymhwyso i gael y dechrau gorau i’w gyrfa addysgu.
Sicrhau bod pob ANG yn canolbwyntio ar flaenoriaethau cenedlaethol.
Adeiladu ar y profiadau a gafwyd yn ystod addysg gychwynnol athrawon (AGA) i gefnogi twf proffesiynol gydol gyrfa.
Manylion y Digwyddiad:
Darperir 3 diwrnod o Hyfforddiant Cenedlaethol gan y Grŵp Trawsgonsortia Rhanbarthol yn nhymor yr Hydref
Darperir 5 diwrnod o Ddysgu Proffesiynol gan Partneriaeth (o leiaf) yn nhymhorau’r Hydref, y Gwanwyn a’r Haf.
Manylion llawn ar gael yma:
Cynnig Dysgu Proffesiynol Rhanbarthol Partneriaeth ar gyfer ANG
Carol Jeffreys, Sefydlu ar gyfer Athrawon Newydd Gymhwyso carol.jeffreys@partneriaeth.cymru