Athrawon ar Ddechrau eu Gyrfa
Dysgu Proffesiynol ar gyfer Athrawon ar Ddechrau eu Gyrfa
Cynulleidfa Darged: Athrawon ar Ddechrau eu Gyrfa sydd yn eu hail, trydedd a phedwaredd flwyddyn o addysgu ar ôl cwblhau’r Broses Sefydlu.
Mae cyfleoedd Dysgu Proffesiynol Partneriaeth ar gyfer Athrawon ar Ddechrau eu Gyrfa wedi’u datblygu er mwyn dal ati i gefnogi’r athrawon hynny yn eu hail, trydedd a phedwaredd flwyddyn o addysgu ar ôl cwblhau’r Broses Sefydlu.
Mae’r Dysgu Proffesiynol yn annog Athrawon ar Ddechrau eu Gyrfa i barhau i fyfyrio’n bersonol er mwyn datblygu eu harfer yn unol â’r gofynion a nodir yn y Safonau Proffesiynol.
Cyfrannu at adeiladu gweithlu addysgu rhagorol er budd pob dysgwr.
Cefnogi Athrawon ar Ddechrau eu Gyrfa i ddatblygu arfer effeithiol ac i gymryd rhan mewn ymchwil bersonol ehangach.
Adeiladu ar y profiadau a gafwyd yn ystod y cyfnod Sefydlu i gefnogi twf proffesiynol gydol gyrfa.
Manylion y Digwyddiad:
Darperir 3 x ½ diwrnod o Ddysgu Proffesiynol gan Partneriaeth yn nhymhorau’r Gwanwyn a’r Haf
Manylion llawn ar gael yma:
Amserlen Dysgu Proffesiynol ar gyfer Athrawon Gyrfa Gynnar
Carol Jeffreys Sefydlu ar gyfer Athrawon Newydd Gymhwyso carol.jeffreys@partneriaeth.cymru