Sgiliau trawsgwricwlaidd

Fframwaith Llythrennedd

Rhwydwaith Arweinwyr Llythrennedd Uwchradd

Cynulleidfa Darged: Arweinwyr Llythrennedd Uwchradd

Mae sgìl trawsgwricwlaidd llythrennedd yn hanfodol er mwyn i ddysgwyr allu cyrchu gwybodaeth. Mae’n galluogi dysgwyr i fanteisio ar ehangder cwricwlwm ysgol a’r cyfoeth o gyfleoedd a gynigir ganddo, gan roi iddynt y sgiliau gydol oes i gyflawni’r Pedwar Diben. Mae llythrennedd wrth wraidd pob ystafell ddosbarth tra effeithiol, ac mae’n chwarae rôl hanfodol o ran caniatáu dysgwyr i ymgorffori’r pedwar diben a gwella eu siawns mewn bywyd. Felly, mae ar ysgolion Partneriaeth angen rhwydwaith sy’n hwyluso’r broses o gydgysylltu a llywio gwelliannau llythrennedd ledled ysgolion uwchradd.

Bydd y cyfle dysgu proffesiynol dau ddiwrnod hwn yn darparu strategaethau a syniadau i arweinwyr llythrennedd uwchradd ddatblygu llythrennedd ar draws y cwricwlwm a gwella ansawdd y broses o addysgu llythrennedd.

Bydd yr ymarferwyr yn cydweithredu ag eraill, gan rannu arfer da i sicrhau bod y dysgwyr yn cael cyfleoedd perthnasol a phriodol mewn pynciau sy’n gyfoethog mewn llythrennedd. Bydd y ddiwrnod yn cefnogi arweinwyr llythrennedd i ddatblygu a sicrhau cynnydd mewn sgiliau llythrennedd trawsgwricwlaidd gorfodol o ran darllen, ysgrifennu a llafaredd, gan hefyd ddatblygu’r pedwar diben.

Manylion y Digwyddiad:

13 Tachwedd 2023      09:30-15:00
Taf, Canolfan Halliwell, Caerfyrddin SA31 3EP

Archebwch yma

Jane Shilling MDaPh Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu jane.shilling@partneriaeth.cymru 

Emma Wright MDaPh Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu emma.wright@partneriaeth.cymru 

Lowri Davies MDaPh Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu lowri.davies@partneriaeth.cymru 

PDF

Gwerthuso Llythrennedd a Rhifedd yn y Cwricwlwm Uwchradd

Cynulleidfa darged: Penaethiaid, Uwch-arweinwyr sy’n gyfrifol am ddatblygu sgiliau a Chydlynwyr Llythrennedd / Rhifedd.

SYLWCH MAI YN SAESNEG YN UNIG Y GALL ESTYN GYNNIG YR HYFFORDDIANT HWN – RYDYM YN DATBLYGU HYFFORDDIANT CYFATEBOL YN GYMRAEG

Mewn unrhyw gwricwlwm uwchradd llwyddiannus, mae datblygu llythrennedd a rhifedd dysgwyr yn hollbwysig i’w lwyddiant. Er mwyn cyrraedd eu potensial ac ymgorffori’r pedwar diben a nodir yn Cwricwlwm i Gymru, mae angen i ddysgwyr allu datblygu eu sgiliau mewn cyd-destunau dilys a chynyddol heriol.

Mewn cydweithrediad â chyd-weithwyr o Estyn, bydd y sesiwn dysgu proffesiynol hon yn cefnogi un uwch- arweinydd a’r cydlynydd llythrennedd a rhifedd o bob ysgol uwchradd i ddatblygu eu dealltwriaeth o lythrennedd a rhifedd o ansawdd uchel, yn ogystal â sut i fonitro safonau sgiliau ledled y cwricwlwm mewn modd cywir ac effeithiol.

Bydd y cyfranogwyr yn cael diweddariadau gan Estyn ar ansawdd sgiliau mewn arolygiadau ledled Cymru, ac yn cael cyfle i werthuso safonau mewn sgiliau, ynghyd ag enghreifftiau o waith dysgwyr i gefnogi’r gwaith gwerthuso yn eu lleoliadau eu hunain.

Manylion y digwyddiad:

23/10/23       09:30-15:00    
Canolfan Halliwell, Caerfyrddin SA31 3EP

Archebwch yma

Anthony Jones Asesu, Cymwysterau a Sgiliau anthony.jones@partneriaeth.cymru

PDF

Fframwaith Rhifedd

Rhwydwaith Arweinwyr Rhifedd Uwchradd

Cynulleidfa Darged: Arweinwyr Rhifedd Uwchradd

Mae sgìl trawsgwricwlaidd gorfodol rhifedd yn hanfodol i ddysgwyr allu cael mynediad i ehangder cwricwlwm yr ysgol a’r cyfoeth o gyfleoedd y mae’n ei gynnig, gan eu harfogi â sgiliau gydol oes i wireddu’r pedwar diben.

Mae rhifedd yn chwarae rhan hanfodol yn ein bywydau bob dydd ac yn iechyd economaidd y genedl. Felly, mae’n hanfodol bod profiadau Mathemateg a Rhifedd mor ddiddorol, cyffrous a hygyrch â phosibl ar gyfer y dysgwyr, a bod y profiadau hyn yn anelu at sicrhau bod dysgwyr yn datblygu cydnerthedd mathemategol.

Rhaid i ysgolion a lleoliadau ddatblygu cwricwlwm sy’n galluogi dysgwyr i feithrin cymhwystra a galluedd o ran rhifedd, ynghyd â chymhwystra digidol a llythrennedd, lle bo cyfleoedd, er mwyn eu hehangu a’u cymhwyso ledled pob Maes. Felly, mae datblygu’r sgiliau hyn yn ystyriaeth ar gyfer pob ymarferydd.

Bydd y cyfle dysgu proffesiynol undydd hwn yn rhoi strategaethau a syniadau i Arweinwyr Rhifedd Uwchradd ar gyfer datblygu Rhifedd ar draws y cwricwlwm. Bydd yr ymarferwyr yn cydweithredu ag eraill, gan rannu arfer da i sicrhau bod y dysgwyr yn cael cyfleoedd perthnasol a phriodol mewn pynciau sy’n gyfoethog mewn rhifedd. Bydd y ddau ddiwrnod yn cefnogi arweinwyr rhifedd i ddatblygu a sicrhau cynnydd mewn sgiliau rhifedd trawsgwricwlaidd gorfodol trwy’r hyfedreddau tra eu bod yn datblygu’r pedwar diben.

Manylion y Digwyddiad:

24 Hydref 2023        09:30-15:00
Y Llwyfan, Heol Y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ

Archebwch yma

Kate Andrews MDaPh Mathemateg a Rhifedd kate.andrews@partneriaeth.cymru

Joanne Hudson-Williams MDaPh Mathemateg a Rhifedd joanne.hudson-williams@partneriaeth.cymru

PDF

Gwerthuso Llythrennedd a Rhifedd yn y Cwricwlwm Uwchradd

Cynulleidfa darged: Penaethiaid, Uwch-arweinwyr sy’n gyfrifol am ddatblygu sgiliau a Chydlynwyr Llythrennedd / Rhifedd.

SYLWCH MAI YN SAESNEG YN UNIG Y GALL ESTYN GYNNIG YR HYFFORDDIANT HWN – RYDYM YN DATBLYGU HYFFORDDIANT CYFATEBOL YN GYMRAEG

Mewn unrhyw gwricwlwm uwchradd llwyddiannus, mae datblygu llythrennedd a rhifedd dysgwyr yn hollbwysig i’w lwyddiant. Er mwyn cyrraedd eu potensial ac ymgorffori’r pedwar diben a nodir yn Cwricwlwm i Gymru, mae angen i ddysgwyr allu datblygu eu sgiliau mewn cyd-destunau dilys a chynyddol heriol.

Mewn cydweithrediad â chyd-weithwyr o Estyn, bydd y sesiwn dysgu proffesiynol hon yn cefnogi un uwch- arweinydd a’r cydlynydd llythrennedd a rhifedd o bob ysgol uwchradd i ddatblygu eu dealltwriaeth o lythrennedd a rhifedd o ansawdd uchel, yn ogystal â sut i fonitro safonau sgiliau ledled y cwricwlwm mewn modd cywir ac effeithiol.

Bydd y cyfranogwyr yn cael diweddariadau gan Estyn ar ansawdd sgiliau mewn arolygiadau ledled Cymru, ac yn cael cyfle i werthuso safonau mewn sgiliau, ynghyd ag enghreifftiau o waith dysgwyr i gefnogi’r gwaith gwerthuso yn eu lleoliadau eu hunain.

Manylion y digwyddiad:

23/10/23       09:30-15:00
Canolfan Halliwell, Caerfyrddin SA31 3EP

Archebwch yma

Anthony Jones Asesu, Cymwysterau a Sgiliau anthony.jones@partneriaeth.cymru

PDF

Fframwaith Cymhwysedd Digidol

Cracio’r Cod

Cynulleidfa Darged: Ymarferwyr cynradd ac uwchradd ym mhob cam/lleoliad

Cefnogi ysgolion i ddatblygu sgiliau codio yn unol â’r llinyn Data a Meddwl Cyfrifiadurol yn y Fframwaith Cymhwysedd Digidol.

Bydd y cyfranogwyr yn ymgysylltu â meddwl cyfrifiadurol a chodio ac yn meithrin gwell dealltwriaeth ohonynt trwy ddefnyddio dyfais y gellir ei rhaglennu. Bydd ganddynt hefyd ystod o adnoddau a strategaethau codio ymarferol i gefnogi’r agwedd meddwl cyfrifiadurol ar y Fframwaith.

Manylion y Digwyddiad:

7 Tachwedd 2023  09:30-15:30
Y Llwyfan, Heol Y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ
Archebwch yma

7 Mai 2024     09:30-15:30
Y Llwyfan, Heol Y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ       
Archebwch yma

Alun Parry Dysgu Digidol, Codio a Diogelwch Ar-lein alun.parry@partneriaeth.cymru

Adrian Smith Dysgu Digidol, Codio a Diogelwch Ar-lein adrian.smith@partneriaeth.cymru

PDF

Datblygu Cymhwysedd digidol yn sgìl trawsgwricwlaidd yn Cwricwlwm i Gymru (Cynradd ac Uwchradd)

Cynulleidfa darged: Staff ym mhob ysgol gynradd ac uwchradd â chyfrifoldeb am ddatblygu cymhwysedd digidol yn sgìl trawsgwricwlaidd.

Cefnogi ysgolion cynradd ac uwchradd i weithredu’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol ar draws holl feysydd Cwricwlwm i Gymru. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod dysgwyr yn datblygu eu sgiliau digidol yn unol â’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol, ac y gallant ddefnyddio’r sgiliau hyn yn briodol ar draws y cwricwlwm i wella eu dysgu.

Manylion y Digwyddiad:

Lansio deunyddiau cymorth – Tua awr/ar-lein

03/10/23 16:00 Ar-lein
Archebwch yma

Cynllunio ar gyfer cynnydd mewn cymhwysedd digidol o fewn Cwricwlwm i Gymru – 1/2 diwrnod wyneb yn wyneb

30/01/24 Abertawe 09:30 - 12:30
Eglwys Gymunedol Glannau, Abertawe SA1 8QY
Archebwch yma

31/01/24 Sir Benfro 13:15 - 16:15
Archifau Sir Benfro, Hwlffordd, Sir Benfro SA61 2PE
Archebwch yma

01/02/24 Sir Gaerfyrddin 09:30 - 12:30
Neuadd Y Gwendraeth, Drefach, Llanelli SA14 7AG
Archebwch yma

Alun Parry Dysgu Digidol, Codio a Diogelwch Ar-lein alun.parry@partneriaeth.cymru

Adrian Smith Dysgu Digidol, Codio a Diogelwch Ar-lein adrian.smith@partneriaeth.cymru

PDF

Cadw’n Ddiogel Ar-lein

Cynulleidfa Darged: Cyd-weithwyr mewn ysgolion â chyfrifoldeb am arwain Diogelwch Ar-lein a/neu Swyddogion Diogelu.

Bwriad Cadw’n Ddiogel Ar-lein yw cefnogi ysgolion i sicrhau bod arferion o ran diogelwch ar-lein mor gadarn â phosibl.

Manylion y Digwyddiad:

14 Tachwedd 2023 Sir Benfro 13:15 - 16:15
Archifau Sir Benfro, 6B Hwlffordd, Sir Benfro SA61 2PE
Archebwch yma

15 Tachwedd 2023 Sir Gaerfyrddin 09:30 - 12:30
Neuadd Y Gwendraeth, Drefach, Llanelli SA14 7AG
Archebwch yma

16 Tachwedd 2023 Abertawe 09:30 - 12:30
Eglwys Gymunedol Glannau, Abertawe SA1 8QY
Archebwch yma

Alun Parry Dysgu Digidol, Codio a Diogelwch Ar-lein alun.parry@partneriaeth.cymru

Adrian Smith Dysgu Digidol, Codio a Diogelwch Ar-lein adrian.smith@partneriaeth.cymru

PDF

Digwyddiadau CwrddDigi

Cynulleidfa Darged: Arweinwyr digidol, cydgysylltwyr y Fframwaith Cymhwysedd Digidol, pob athro.

Cyfle i ymarferwyr ddysgu rhagor am y datblygiadau diweddaraf ym maes dysgu digidol. Bydd y rhai sy’n bresennol yn symud o sesiwn i sesiwn i wrando ar ymarferwyr arweiniol o’r sectorau cynradd ac uwchradd. 

Manylion y Digwyddiad:

Sir Benfro I’w gadarnhau

13/03/24 Sir Gaerfyrddin
Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin, Croes y Ceiliog, Caerfyrddin, SA32 8DN
16:00 - 18:00
Ffurflen Gofrestru Dysgu Proffesiynol

14/03/24 Abertawe
Ysgol Gatholig yr Esgob Vaughan, Heol Mynydd Garnllwyd, Treforys, Abertawe, SA6 7QS