Arweinyddiaeth ôl-16

Rhaglen Datblygu Arweinyddiaeth ôL-16

Cynulleidfa Darged: Mae’r Rhaglen Datblygu Arweinyddiaeth ôl-16 ar gael i athrawon sydd wedi’u sefydlu yn y swydd, sydd newydd gael eu penodi neu sy’n anelu at arweinyddiaeth mewn addysg ôl-16.

Bydd y rhaglen hon yn cefnogi gweithwyr proffesiynol i ddatblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r cyfleoedd i symud ymlaen i’r cam nesaf o ddysgu proffesiynol yn unol â’r Model Dysgu Proffesiynol. Cynlluniwyd y rhaglen gan y consortia addysg mewn ymgynghoriad ag arweinwyr ôl-16 cyfredol. Mae cynnwys y rhaglen yn nodi sgiliau gweithredol a strategol allweddol y mae angen i arweinwyr ôl-16 weithio’n effeithiol arnynt yn lleol ac yn genedlaethol. Mae’r rhaglen yn hyrwyddo arweinyddiaeth hynod effeithiol trwy hunanwerthuso a myfyrio. Bydd yn sefydlu rhwydweithiau ar ystod o lefelau i arweinwyr ôl-16 rannu profiadau a syniadau.

Manylion y Digwyddiad:

Mae’r rhaglen yn hawliad cyffredin i arweinwyr ôl-16, a chaiff ei chyflawni trwy gyfuniad o bedair sesiwn wyneb yn wyneb ac ar-lein. Mae gan y cyfranogwyr yr opsiwn i fynd ar drywydd achrediad ILM Lefel 5 ar ôl cwblhau’r rhaglen. Gall y cyfranogwyr ymgysylltu â’r rhaglen yn ddwyieithog trwy drafodaethau grŵp ac adnoddau dwyieithog. Mae gan bob cyfranogwr y cyfle i gael mynediad i gymorth hyfforddiant unigol a chymorth rhwng cymheiriaid trwy gydol y rhaglen.

Mae’r rhaglen yn cynnwys:

Sesiwn 1: Deall rôl strategol a gweithredol arweinyddiaeth ôl-16.
Sesiwn 2: Hunanwerthuso a chynllunio effethiol ar gyfer gwella yn eich lleoliad ôl-16.
Sesiwn 3: Cynllunio cymorth ymyrraeth a llesiant i ddysgwyr.
Sesiwn 4: Darparu arweiniad o safon a chynhwysol i gefnogi cyfnod pontio, uchelgais a phen y daith ar gyfer dysgwyr.


Manylion llawn ar gael yma:
Welsh Consortia Post-16 Leadership Programme Bilingual 


Diane Evans      Ôl-16 a Bagloriaeth Cymru      diane.evans@partneriaeth.cymru

PDF

Rhwydwaith ôL-16

Cynulleidfa Darged: Penaethiaid y Chweched Dosbarth, Penaethiaid Cynorthwyol y Chweched Dosbarth, Penaethiaid Blwyddyn, Tiwtoriaid y Chweched Dosbarth, Hyfforddwyr Dysgu.

Mae cyfarfodydd rhwydwaith ar gyfer arweinwyr ôl-16 yn cynnig amrywiaeth o fuddion, gan gynnwys cyfleoedd ar gyfer cydweithredu, datblygiad proffesiynol, ymwybyddiaeth o bolisïau, meithrin cymuned, hybu arloesedd, ac eiriolaeth. Trwy gymryd rhan weithredol yn y cyfarfodydd hyn, gall arweinwyr wella eu sgiliau arweinyddiaeth, cael yr wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau i bolisi, a chyfrannu at wella a datblygu addysg ôl-16 yn gyffredinol.

Mae’r cyfarfodydd hyn yn gweithredu fel llwyfan i arweinwyr yn y sector ôl-16 ddod ynghyd a chydweithredu, rhannu arfer gorau, a thrafod heriau cyffredin.

Mae cyfarfodydd rhwydwaith yn aml yn cynnwys gweithdai, cyflwyniadau, a siaradwyr gwadd sy’n rhannu profiadau am bynciau amrywiol sy’n berthnasol i addysg ôl-16. Mae’r cyfleoedd datblygu proffesiynol hyn yn galluogi arweinwyr i ehangu eu gwybodaeth, cael dealltwriaeth o’r tueddiadau a’r ymchwil sy’n dod i’r amlwg, a gwella eu sgiliau arwain.

Manylion y Digwyddiad:

17/10/2023 09.30-12.00 Sir Gaerfyrddin
Archebwch yma

29/02/2024 09:30-12:00 Abertawe
Archebwch yma

26/06/2024 09:30-12:00 Sir Benfro
Archebwch yma


Diane Evans     Ôl-16 a Bagloriaeth Cymru diane.evans@partneriaeth.cymru

PDF