Dulliau ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd a llesiant

Wythnos Dysgu Proffesiynol Tegwch mewn Addysg  11eg - 15fed Mawrth 2024

Dydd Llun : Beth yw Tegwch mewn Addysg? 

Sesiynau'r Bore 09:30-11:30 Datblygu Gwybodaeth a Dealltwriaeth
Deall rôl Tegwch mewn Addysg
Dylan Williams, Partneriaeth
Cyflwyniad i egwyddorion allweddol darpariaeth deg a sut olwg all fod ar hyn yn yr ystafell ddosbarth ac fel rhan o ddull ysgol gyfan.

https://forms.gle/HY7rYiCDmbZhV7i26


Sesiynau'r Prynhawn 13:00-15:00 Sesiynau Ymarferol ar gyfer yr Ysgol Gyfan a'r Ystafell Ddosbarth
Cydraddoldeb mewn Addysg – Astudiaethau Achos:
Bydd y sesiwn hon yn rhoi cyfle i chi glywed am y modd y mae amrywiaeth o ysgolion/leoliadau yn gweithio i ymgorffori tegwch yn eu system addysg.

https://forms.gle/g493SaRu7cb5HmCE7


Dydd Mawrth : Lliniaru Effaith Tlodi ar Gyflawniad a Chyrhaeddiad

Sesiynau'r Bore 09:30-11:30 Datblygu Gwybodaeth a Dealltwriaeth
Deall a Lliniaru Effaith Tlodi
Children North East
Bydd y sesiwn hon yn archwilio sut i liniaru’r effaith negyddol y gall tlodi ei chael ar gyrhaeddiad a chyflawniad dysgwyr a’u teuluoedd.

https://forms.gle/5Zp1b8TLwSbkpF418


Sesiynau'r Prynhawn 13:00-15:00 Sesiynau Ymarferol ar gyfer yr Ysgol Gyfan a'r Ystafell Ddosbarth
Lliniaru Effaith Tlodi mewn Ysgolion – Astudiaethau Achos:
Bydd y sesiwn hon yn rhoi cyfle i chi glywed am y modd y mae amrywiaeth o ysgolion/leoliadau yn gweithio i liniaru effaith tlodi.

https://forms.gle/BxBUWi23ic5HEWUH8


Dydd Mercher- Lliniaru Effaith Trawma ar Gyflawniad a Chyrhaeddiad

Sesiynau'r Bore 09:30-11:30 Datblygu Gwybodaeth a Dealltwriaeth
Deall Ymlyniad a Thrawma
Helen Worrall, Ymgynghorydd Addysg Annibynnol
Bydd y sesiwn hon yn eich helpu i ddeall y modd y gall ymlyniad y tarfwyd arno a/neu brofiad o ddigwyddiadau trawmatig effeithio ar y gallu i hunanreoleiddio a bod yn 'barod i ddysgu’. 

https://forms.gle/x4JZNxTxrzDYevcJA


Sesiynau'r Prynhawn 13:00-15:00 Sesiynau Ymarferol ar gyfer yr Ysgol Gyfan a'r Ystafell Ddosbarth
Cefnogi Dysgwyr i Hunanreoleiddio:
Mae'r sesiynau 90 munud hyn yn cyflwyno dulliau ymarferol o gefnogi dysgwyr i hunanreoleiddio

https://forms.gle/cJAcn1erommPRCaX9


Dydd Iau – Ymgysylltu â’r Gymuned a Theuluoedd

Sesiynau'r Bore 09:30-11:30 Datblygu Gwybodaeth a Dealltwriaeth
Deall Rôl Ymgysylltu â'r Gymuned a Theuluoedd
Dylan Williams, Partneriaeth
Bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar pam y gall ymgysylltu â theuluoedd a chymunedau fod yn rhan o ddull eich ysgol o sicrhau darpariaeth deg. Byddwch hefyd yn cael enghreifftiau o sut y gellir cyflawni hyn trwy ddefnyddio Pecyn Cymorth Ymgysylltu â'r Gymuned a Theuluoedd Llywodraeth Cymru.

https://forms.gle/jS4LYvJbnsBPcPAn7


Sesiynau'r Prynhawn 13:00-15:00 Sesiynau Ymarferol ar gyfer yr Ysgol Gyfan a'r Ystafell Ddosbarth
Ymgysylltu â'r Gymuned a Theuluoedd mewn Ysgolion – Astudiaethau Achos:
Bydd y sesiwn hon yn rhoi’r cyfle i chi glywed sut y mae ystod o ysgolion/leoliadau wedi datblygu eu dulliau o ymgysylltu â'r gymuned a theuluoedd, a darperir enghreifftiau clir o’r hyn y maent wedi’i ganfod i fod yn effeithiol.

https://forms.gle/kspJafyeuuDRVcmF9


Dydd Gwener - Datblygu Llythrennedd Cymdeithasol ac Emosiynol

Sesiynau'r Bore 09:30-11:30 Datblygu Gwybodaeth a Dealltwriaeth
Datblygu Dysgu Cymdeithasol ac Emosiynol yn y Blynyddoedd Cynnar.
Think Equal
Bu nifer o astudiaethau sy'n dangos effaith gadarnhaol rhaglenni dysgu cymdeithasol ac emosiynol o ansawdd uchel yn ystod plentyndod cynnar ar effeithiau gydol oes. Bydd y sesiwn hon yn eich cyflwyno i'r rhaglen Think Equal sydd ag adnoddau llawn ar gyfer dysgwyr 3-6 oed. 

Byddwch yn cael y cyfle i glywed gan ysgolion sydd eisoes yn defnyddio'r rhaglen Think Equal. Byddwch hefyd yn cael arweiniad ar y modd y gall Think Equal gefnogi eich darpariaeth Iechyd a Lles.

https://forms.gle/TaQVVDFhWpZa9s8EA


Sesiynau'r Prynhawn 13:00-15:00 Sesiynau Ymarferol ar gyfer yr Ysgol Gyfan a'r Ystafell Ddosbarth
Hyfforddiant ar Emosiynau: Dull Ysgol Gyfan o Ddatblygu Llythrennedd Cymdeithasol ac Emosiynol
Partneriaeth
Bydd y sesiwn ragarweiniol hon yn darparu cyfarwyddiadau cam wrth gam ar gyfer y dechneg Hyfforddiant ar Emosiynau, sy'n defnyddio adegau o emosiynau dwysach fel cyfleoedd i ddysgu a datblygu sgiliau cymdeithasol ac emosiynol. Mae Hyfforddiant ar Emosiynau yn ddull sy’n ystyriol o drawma, a byddwch yn cael y cyfle i glywed gan ysgolion sydd wedi ymgorffori Hyfforddiant ar Emosiynau fel rhan o’u dull ysgol gyfan ar gyfer cefnogi iechyd emosiynol a meddyliol.

https://forms.gle/81VJYVbUFujxXwH4A


Dylan Williams Regional Project Lead for Equity and Wellbeing dylan.williams@partneriaeth.cymru

PDF

Rhwydwaith Tegwch Mewn Addysg

Cynulleidfa darged: Ymarferwyr ysgolion ac awdurdodau lleol sydd â diddordeb mewn deall rhagor am sut y mae datblygu tegwch mewn addysg.

Wrth wraidd Cwricwlwm i Gymru y mae ymrwymiad i ddatblygu pob dysgwr tuag at y pedwar diben. Ni ellir cyflawni hyn oni bai fod yna ddealltwriaeth o degwch mewn addysg a phwysigrwydd llesiant y dysgwyr, ynghyd ag ymrwymiad i sicrhau hynny. Mae tegwch mewn addysg yn golygu darparu’r adnoddau, y cymorth a’r profiadau dysgu i bob dysgwr, sy’n diwallu ei anghenion ac yn ei alluogi i lwyddo. Ni ddylai amgylchiadau unigol na chymdeithasol fod yn rhwystr i gyflawni potensial addysgol.

Trefnwyd y rhwydweithiau hyn bob tymor i roi cyfle i ysgolion rannu arfer effeithiol, siarad â chyd-weithwyr ac ymarferwyr o bob cwr o’r rhanbarth, a dysgu rhagor am y rhaglenni a’r gweithgareddau sy’n mynd rhagddynt ledled ysgolion a lleoliadau i ddatblygu tegwch a llesiant yn ein system addysg.

Bydd pob rhwydwaith yn canolbwyntio ar agwedd wahanol ar degwch mewn addysg, a bydd yn darparu cyfle i glywed gan sefydliadau arbenigol allanol ac ymarfer effeithiol rhanbarthol.

Manylion y Digwyddiad:

21/09/2023 Ar-lein 10:00 - 12:00
Archebwch yma

15/03/2024 Ar-lein 13:00 - 15:00
Archebwch ym

27/06/2024 Ar-lein 10:00 - 12:00
Archebwch yma


Dylan Williams    Dysgu Proffesiynol – Tegwch a Llesiant dylan.williams@partneriaeth.cymru

PDF

Rheoleiddio Synhwyraidd

Cynulleidfa darged: Unrhyw ymarferydd sy’n gweithio ar draws y sector addysg ehangach – yn benodol berthnasol i ymarferwyr yn yr ystafell ddosbarth.

Chwalu rhwystrau i ddysgu a chreu profiad addysg cadarnhaol i bawb, ynghyd â dau o’r amcanion yn ‘Cenhadaeth ein Cenedl: safonau a dyheadau uchel i bawb’.

Mae nifer o ddysgwyr ag anawsterau rheoleiddio synhwyraidd yn wynebu rhwystrau niferus trwy gydol y diwrnod ysgol sy’n cael effaith negyddol ar eu profiad addysg.

Mae’r hyfforddiant hwn yn archwilio achos anawsterau rheoleiddio synhwyraidd ac yn darparu syniadau ymarferol ynghylch yr hyn y gellir ei wneud i gefnogi’r dysgwyr hyn.

Manylion y Digwyddiad:

11 Hydref 2023 09:00-15:00
Yr Atom, Caerfyrddin SA31 1BH
Archebwch yma

21 Chwefror 2024 (09:30-12:30) Hanner diwrnod ar-lein
28 Chwefror 2024 (12:30-15:30) Hanner diwrnod ar-lein
Archebwch yma

15 Mai 2024 (09:30-12:30) Hanner diwrnod ar-lein
22 Mai 2024 (12:30-15:30) Hanner diwrnod ar-lein
Archebwch yma


Dylan Williams    Dysgu Proffesiynol – Tegwch a Llesiant dylan.williams@partneriaeth.cymru

PDF

Hyfforddiant ar Emosiynau

Cynulleidfa darged: Pob lleoliad

Chwalu rhwystrau i ddysgu a chreu profiad addysg cadarnhaol i bawb, ynghyd â dau o’r amcanion yn ‘Cenhadaeth ein Cenedl: Safonau a dyheadau uchel i bawb’.

Mae dysgwyr sy’n ei chael yn anodd rheoli eu hemosiynau yn wynebu rhwystrau sylweddol yn ystod y diwrnod ysgol. Mae Hyfforddiant ar Emosiynau yn ddull seiliedig ar dystiolaeth sy’n adeiladu ar waith y Seicolegydd Americanaidd, John Gottman.

Mae Hyfforddiant ar Emosiynau yn defnyddio adegau o emosiwn dwysach, a’r ymddygiad sy’n deillio o hynny, i arwain ac addysgu’r plentyn a’r person ifanc am ymatebion mwy effeithiol. Trwy ymgysylltu empathig, mae cyflwr emosiynol y plentyn yn cael ei gydnabod a’i ddilysu ar lafar, sy’n hyrwyddo ymdeimlad o ddiogelwch a theimlad o ‘gael ei ddeall’. Mae hyn yn ysgogi newidiadau yn system niwrolegol y plentyn ac yn caniatáu i’r plentyn bwyllo, yn gorfforol ac yn seicolegol.

Mae hyfforddiant ar Emosiynau yn offeryn cyfathrebu y gall oedolion ei ddefnyddio fel eiliadau addysgadwy i gefnogi datblygiad y broses rheoleiddio emosiynol.

Mae Hyfforddiant ar Emosiynau yn defnyddio adegau o emosiwn dwysach, a’r ymddygiad sy’n deillio o hynny, i arwain ac addysgu’r plentyn a’r person ifanc am ymatebion mwy effeithiol. Trwy ymgysylltu empathig, mae cyflwr emosiynol y plentyn yn cael ei gydnabod a’i ddilysu ar lafar, sy’n hyrwyddo ymdeimlad o ddiogelwch a theimlad o ‘gael ei ddeall’. Mae hyn yn ysgogi newidiadau yn system niwrolegol y plentyn ac yn caniatáu i’r plentyn bwyllo, yn gorfforol ac yn seicolegol.

Manylion y Digwyddiad:

Sesiynau tymhorol

30 Tachwedd 2023 09:00-15:00
Ar-lein
Archebwch yma

12 Mawrth 2024 09:00-15:00
Y Llwyfan, Heol Y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ
Archebwch yma

17 Mehefin 2024 09:00-15:00
Ar-lein
Archebwch yma


Dylan Williams    Dysgu Proffesiynol – Tegwch a Llesiant   dylan.williams@partneriaeth.cymru

PDF

Niwroamrywiaeth yn yr Ystafell Ddosbarth

Cynulleidfa darged: Unrhyw ymarferydd sy’n gweithio ar draws y sector addysg ehangach.

Chwalu rhwystrau i ddysgu a chreu profiad addysg cadarnhaol i bawb, ynghyd â dau o’r amcanion yn ‘Cenhadaeth ein Cenedl: Safonau a dyheadau uchel i bawb’.

Mae Niwroamrywiaeth yn disgrifio’r syniad bod pobl yn profi’r byd o’u cwmpas ac yn rhyngweithio ag ef mewn llawer o ffyrdd gwahanol; nid oes un ffordd “gywir” o feddwl, dysgu ac ymddwyn, ac nid yw gwahaniaethau’n cael eu hystyried yn ddiffygion.

Amcangyfrifir bod un o bob saith dysgwr yn niwroamrywiol, felly mae dealltwriaeth o niwroamrywiaeth yn hanfodol ar gyfer ystafell ddosbarth gynhwysol a theg.

Manylion y Digwyddiad:

Sesiynau tymhorol

12 Rhagfyr 2023 10:00 - 12:00
Ar-lein
Archebwch yma

19 Mawrth 2024 13:00 - 15:00
Ar-lein
Archebwch yma

18 Mehefin 2024 15:30 - 17:30
Ar-lein
Archebwch yma


Dylan Williams    Dysgu Proffesiynol – Tegwch a Llesiant dylan.williams@partneriaeth.cymru

PDF

‘Think Equal’

Cynulleidfa Darged: Ymarferwyr y Blynyddoedd Cynnar a chynorthwywyr yn yr ystafell ddosbarth

Mae llythrennedd cymdeithasol ac emosiynol yn darparu’r sail ar gyfer bod yn barod i ddysgu a datblygu yn unigol a gydag eraill. Cafodd y pandemig byd-eang effaith sylweddol ar ddatblygiad cymdeithasol ac emosiynol ein dysgwyr ieuengaf.

Mae ‘Think Equal’ wedi cynllunio rhaglen 30 wythnos o hyd i addysgu meddyliau ifanc am y 25 o sgiliau dysgu cymdeithasol ac emosiynol. Mae’r rhaglen wedi’i gwreiddio mewn iechyd meddwl a chyfiawnder cymdeithasol.

Mae’r rhaglen yn adeiladu sylfaen gadarn ar gyfer cynnydd unigolion a chymdeithas, gan wneud cymunedau’n fwy diogel, yn iachach, yn gryfach, yn fwy ffyniannus, yn gyfartal ac yn gyfiawn.

Gan ddefnyddio damcaniaethau addysgegol profedig (yn cynnwys Damcaniaeth Newid, Damcaniaeth Datblygiad Cymdeithasol, Damcaniaeth Gwybodaeth Luosog, ac Egwyddorion Montessori), defnyddir pŵer naratif ac adrodd stori i wneud y canlynol: Rhannu dysgu profiadol personol, cymdeithasol ac emosiynol; Meithrin y sgiliau i weld pethau o safbwynt pobl eraill; Disgrifio gwrthdaro sylfaenol bywyd dynol, a helpu i ddyfeisio ffyrdd o’u datrys mewn amgylchedd diogel; Ysgogi chwilfrydedd ac archwilio ac Meithrin tosturi ac empathi.

Manylion y Digwyddiad:

Sesiwn wybodaeth      02/10/23   13:00-14:00
Ar-lein
Archebwch yma


Dylan Williams    Dysgu Proffesiynol – Tegwch a Llesiant dylan.williams@partneriaeth.cymru

PDF