Y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP)

Mae’r trefniadau i arweinwyr ysgolion ennill y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP) bellach wedi newid, ac ni ellir ei gyflawni bellach trwy gymryd rhan yn y Rhaglen Datblygu Darpar Benaethiaid.

Y cyfranogwyr sydd ar y Rhaglen Datblygu Darpar Benaethiaid ar hyn o bryd, a ddechreuodd y rhaglen ym mis Ionawr 2023, fydd yr olaf i fynd ymlaen i'r asesiad CPCP ar ôl cymryd rhan yn y rhaglen yn ei fformat presennol.

Mae Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid eraill, yn y broses o ddatblygu trefniadau CPCP newydd, a bydd rhaglen newydd ar waith erbyn tymor yr hydref 2024. Cyhoeddir rhagor o fanylion am y rhaglen CPCP newydd hon maes o law.  

Mae’r newidiadau hyn yn benderfyniad a wnaed gan Lywodraeth Cymru, a hynny'n dilyn cyhoeddi adroddiad yr Athro Mick Waters ar ei adolygiad o’r trefniadau CPCP presennol. Mae datganiad gan Lywodraeth Cymru ar gael yma.

Bydd cyfranogwyr blaenorol y Rhaglen Datblygu Darpar Benaethiaid a ohiriodd eu hasesiad CPCP neu nad oeddent wedi cyrraedd y safonau gofynnol, yn cael cyfleoedd ar gyfer asesiad mewn Canolfan Asesu CPCP ym mis Chwefror 2024, ac eto ym mis Mai / Myhefin 2024.