Iechyd a Lles
Rhwydwaith Arweinwyr Cynradd ar gyferMDaPh Iechyd a Lles
Cynulleidfa Darged: Arweinwyr Meysydd Dysgu a Phrofiad mewn ysgolion a lleoliadau cynradd.
Mae ‘Cwricwlwm i Gymru: Y daith i 2022’ yn nodi disgwyliadau cyson i ysgolion a lleoliadau ar gyfer y broses o gynllunio a gweithredu eu cwricwla.
Mae Cynllun Gweithredu Cwricwlwm i Gymru yn nodi dyheadau a rennir – sy’n disgrifio sut olwg ddylai fod ar y system addysg yn yr hirdymor, o ganlyniad i ysgolion a lleoliadau yn cynllunio a gweithredu eu cwricwla. Dylai fod gan ymarferwyr y gofod i ddatblygu a defnyddio eu gwaith addysgu, eu galluedd a’u creadigrwydd i helpu i wireddu eu huchelgeisiau trwy’r cwricwlwm, ac mae galluogi lle i arweinwyr Meysydd Dysgu a Phrofiad mewn lleoliadau cynradd drafod dysgu ac addysgu sy’n galluogi pob dysgwr i wireddu dyheadau’r pedwar diben yn allweddol.
Dim ond trwy greu cyfleoedd i ymarferwyr fod yn berchen ar y broses ddiwygio yn eu hysgolion a’u lleoliadau, iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u grymuso gan y broses honno, a theimlo eu bod wedi’u hysgogi i gyfrannu at ei datblygiad parhaus, y gallwn sicrhau llwyddiant hirdymor Cwricwlwm i Gymru.
Bydd y rhwydwaith Arweinwyr Meysydd Dysgu a Phrofiad Cynradd tymhorol yn rhoi cyfle i bawb rannu, trafod a gwella eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o ran anghenion unigryw pob MDaPh gorfodol, yn ogystal â’r sgiliau i fonitro a gwerthuso effeithiolrwydd pob MDaPh yn eu hysgolion. Bydd ymarferwyr yn datblygu gwybodaeth addysgegol sy’n cefnogi’r broses o ddarparu pob Maes Dysgu a Phrofiad mewn modd effeithiol, gan sicrhau bod pob dysgwr yn gwneud cynnydd.
Bydd y rhai sy’n bresennol yn ymgysylltu â phob Maes Dysgu a Phrofiad a bydd ganddynt ddealltwriaeth well ohonynt er mwyn cynllunio eu cwricwlwm lleol
Bydd gan y rhai sy’n bresennol ddealltwriaeth ddyfnach o gynnydd ym mhob Maes Dysgu a Phrofiad
Bydd y rhai sy’n bresennol yn datblygu gwybodaeth addysgegol er mwyn cefnogi proses effeithiol o gynllunio a gweithredu pob Maes Dysgu a Phrofiad
Bydd y rhai sy’n bresennol yn datblygu’r sgiliau a’r ddealltwriaeth i ddod yn arweinwyr Meysydd Dysgu a Phrofiad adfyfyriol er mwyn monitro a gwerthuso pob MDaPh
Bydd y rhai sy’n bresennol yn penderfynu ar gynnwys y rhwydweithiau tymhorol ac yn cael cyfleoedd i rannu eu profiadau o ran Cwricwlwm i Gymru.
Manylion y Digwyddiad:
28/09/23 09:30-15:00
Teifi, Canolfan Halliwell, Caerfyrddin SA31 3EP
Archebwch yma
24/01/24 09:30-15:00
Teifi, Canolfan Halliwell, Caerfyrddin SA31 3EP
Archebwch yma
30/04/24 09:30-15:00
Teifi, Canolfan Halliwell, Caerfyrddin SA31 3EP
Archebwch yma
Sophie Flood MDaPh Iechyd a Llesiant sophie.flood@partneriaeth.cymru
Rhwydwaith Arweinwyr Uwchradd - Iechyd a Lles
Cynulleidfa Darged: Arweinwyr uwchradd ar gyfer y Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles
Cyfle i rwydweithio ar gyfer arweinwyr Iechyd a Lles uwchradd. Bydd y rhwydweithiau tymhorol hyn yn rhoi cyfleoedd i arweinwyr gydweithio â chyd-weithwyr o bob rhan o’r rhanbarth.
Bydd y mynychwyr yn cael diweddariadau a hyfforddiant ar y meysydd canlynol:
Addysgu a dysgu – addysgeg, adnoddau ac enghreifftiau o ysgolion sy’n benodol i’r MDaPh.
Cwricwlwm – ystyried elfennau gorfodol Cwricwlwm i Gymru a darparu arweiniad ymarferol ar y modd i weithredu’r negeseuon hyn yn effeithiol mewn arweinyddiaeth ganol i gefnogi athrawon yn eu Maes.
Arweinyddiaeth – rhannu, trafod a gwella gwybodaeth a dealltwriaeth o ran anghenion unigryw’r MDaPh Iechyd a Lles, ynghyd â’r sgiliau i fonitro a gwerthuso effeithiolrwydd y Maes yn eu hysgolion.
Wrth i’r rhwydwaith hwn aeddfedu, bydd yn darparu diweddariadau a phwyntiau trafod ynghylch diwygio Cymwysterau, ynghyd â diweddariadau gan Cymwysterau Cymru ac o ran cyfresi arholiadau TGAU penodol CBAC.
Bydd y mynychwyr yn ymgysylltu â’r Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles, a bydd ganddynt well dealltwriaeth ohono ar gyfer cynllunio eu cwricwlwm lleol.
Bydd y mynychwyr yn datblygu gwybodaeth addysgegol er mwyn cefnogi proses effeithiol o gynllunio a gweithredu’r Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles.
Bydd y mynychwyr yn datblygu’r sgiliau a’r ddealltwriaeth i ddod yn arweinwyr myfyriol yn achos y Meysydd Dysgu a Phrofiad, a hynny fel y gallant fonitro a gwerthuso’r MDaPh Iechyd a Lles.
Bydd y mynychwyr yn llywio’r cynnwys ar gyfer y rhwydweithiau tymhorol.
Manylion y Digwyddiad:
17.11 .23 09:30-15:00
Taf, Canolfan Halliwell, Caerfyrddin SA31 3EP
Archebwch yma
19.03.24 09:30-15:00
Teifi, Canolfan Halliwell, Caerfyrddin SA31 3EP
Archebwch yma
04.07.24 09:30-15:00
Taf, Canolfan Halliwell, Caerfyrddin SA31 3EP
Archebwch yma
Sophie Flood MDaPh Iechyd a Llesiant sophie.flood@partneriaeth.cymru
Llythrennedd corfforol
Cynulleidfa Darged: Ymarferwyr cynradd nad oes ganddynt unrhyw brofiad blaenorol o lythrennedd corfforol.
“Llythrennedd corfforol yw’r cymhelliant, yr hyder, y cymhwysedd corfforol, yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth i werthfawrogi a chymryd cyfrifoldeb dros gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol am oes.”
Cymdeithas Ryngwladol Llythrennedd Corfforol, Mai 2014
Mae’r Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles yn seiliedig ar lythrennedd corfforol. Mae’r dysgu proffesiynol hwn wedi’i gynllunio i gefnogi datblygiad a dealltwriaeth eich ysgol o’r Maes hwn, gyda phwyslais ar y modd y gellir gwreiddio llythrennedd corfforol trwy gydol y diwrnod ysgol.
Bydd y cyfle dysgu proffesiynol ymarferol, dynamig hwn yn canolbwyntio ar yr arferion addysgu sy’n galluogi dysgwyr i ddod yn symudwyr gydol oes, yn enwedig yn yr ystafell ddosbarth.
Bydd y cyfranogwyr yn ymgysylltu â llythrennedd corfforol ac yn ei ddeall yn well.
Bydd gan y cyfranogwyr ystod o strategaethau ymarferol i gefnogi datblygiad sgiliau corfforol yn yr ystafell ddosbarth.
Bydd y cyfranogwyr yn gallu cydweithio â chyd-ymarferwyr cynradd o fewn Partneriaeth.
Bydd y cyfranogwyr yn cyfrannu at adnodd llythrennedd corfforol rhanbarthol.
Manylion y Digwyddiad:
2 ddiwrnod ac 2 garfan 09:30-15:00
Garfan 1
05/10/23 Cothi, Canolfan Halliwell, Caerfyrddin SA31 3EP
01/02/24 Cothi, Canolfan Halliwell, Caerfyrddin SA31 3EP
Garfan 2
07/03/24 Cothi, Canolfan Halliwell, Caerfyrddin SA31 3EP
16/05/24 Cothi, Canolfan Halliwell, Caerfyrddin SA31 3EP
Sophie Flood MDaPh Iechyd a Llesiant sophie.flood@partneriaeth.cymru
Sesiynau galw heibio ar y Meysydd Dysgu a Phrofiad: Iechyd a Lles
Cynulleidfa Darged: Yr holl staff mewn ysgolion a lleoliadau addysgol.
Mae Partneriaeth yn ymrwymedig i ddarparu dysgu proffesiynol cyffredinol, pwrpasol ac o ansawdd uchel i bob ysgol a lleoliad ledled y rhanbarth. Mae Partneriaeth yn cydnabod yr heriau sylweddol sy’n wynebu ysgolion ar hyn o bryd, yn ogystal â’r anawsterau y mae sawl un yn eu hwynebu wrth geisio hwyluso’r staff i fynd i ddigwyddiadau dysgu proffesiynol. Er mwyn ceisio lliniaru’r heriau hyn, mae Partneriaeth wedi amserlennu sesiynau galw heibio ar-lein ar y Meysydd Dysgu a Phrofiad.
Mae’r sesiynau galw heibio hyn, a gynhelir bob tymor (a phob hanner tymor), wedi’u hamserlennu i ddarparu cyfleoedd i siarad â swyddogion Partneriaeth sy’n arwain y broses o ddatblygu a chefnogi’r Meysydd Dysgu a Phrofiad. Maent yn anffurfiol ac, yn ôl eu natur, byddant yn ymatebol i anghenion y rhai a fydd yn bresennol.
Cael cyfle i fynegi pryderon a chael eu cefnogi i ddod o hyd i atebion.
Manylion y Digwyddiad:
06/10/2023 09:00 – 10:00
Cliciwch yma i ymuno â’r cyfarfod
13/12/2023 13:30 – 14:30
Cliciwch yma i ymuno â’r cyfarfod
26/02/2024 15:30 – 16:30
Cliciwch yma i ymuno â’r cyfarfod
07/05/2024 09:00 – 10:00
Cliciwch yma i ymuno â’r cyfarfod
08/07/2024 15:00 – 16:30
Cliciwch yma i ymuno â’r cyfarfod
Sophie Flood MDaPh Iechyd a Lles sophie.flood@partneriaeth.cymru