Asesu CALU
Asesiad CALU Cenedlaethol
Cynulleidfa Darged: Ymgeiswyr sydd wedi cwblhau modiwlau o’r Rhaglen Darpar CALU ac y mae ganddynt gefnogaeth a chymeradwyaeth lawn eu Pennaeth.
Mae Asesiad CALU yn asesiad penodol ar gyfer ymarferwyr sydd wedi cwblhau’r Rhaglen Darpar CALU ac sydd bellach yn credu eu bod yn barod i gael eu hasesu ar gyfer statws CALU.
I wneud cais am asesiad ar gyfer statws CALU rhaid i ymgeiswyr fod:
Wedi ymgysylltu â’r Rhaglen Datblygu Darpar CALU Genedlaethol
Wedi ysgrifennu 10 o Fyfyrdodau Dysgu Proffesiynol sy’n dangos bod ganddynt ddigon o brofiad a sgiliau arbenigol i amlygu tystiolaeth o arfer hynod o effeithiol parhaus yn unol â’r Safonau Proffesiynol ar gyfer Cynorthwyo Addysgu
Wedi ennill y cymwysterau lefel 2 gofynnol cyn yr asesiad
 phrofiad o arwain y dysgu ar gyfer dosbarthiadau cyfan. Gofynnir i benaethiaid gadarnhau hyn
 chefnogaeth lawn eu Pennaeth, y disgwylir iddo gymeradwyo’r cais.
Ategu gwaith proffesiynol athrawon yn unol â gweithgareddau dysgu y cytunwyd arnynt o dan system oruchwylio gytunedig. Gallai hyn olygu cynllunio, paratoi a darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer unigolion/grwpiau neu yn y byrdymor ar gyfer y dosbarth cyfan. Mae dyfarnu’r statws, er nad yw’n gymhwyster, yn cefnogi cynorthwywyr addysgu i ymgymryd â rôl benodol yn yr ystafell ddosbarth/y lleoliad.
Manylion y Digwyddiad:
Ymgeiswyr:
rhaid iddynt gyflwyno tystiolaeth a baratowyd yn ystod y Rhaglen Darpar CALU a chael eu hasesu yn ystod ymweliad â’r ysgol neu gyfarfod asesu gan Asesydd CALU cofrestredig sydd wedi’i hyfforddi’n genedlaethol
byddant yn cael mynediad at y broses ymgeisio genedlaethol yn ystod y Rhaglen Darpar CALU
dyrennir iddynt Asesydd a fydd yn cwblhau’r Asesiad CALU cenedlaethol yn ystod cylch asesu penodedig.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â
Heulwen Lloyd Arweinydd Prosiect – Dysgu Proffesiynol Cynorthwywyr Addysgu heulwen.lloyd@partneriaeth.cymru