Themâu trawsbynciol

Gweithdai Cyfranwyr Creadigol Mentrus 

Cynulleidfa Darged: Ysgolion cynradd ac uwchradd

Mae’n orfodol i ysgolion a lleoliadau gynllunio, datblygu a gweithredu profiadau gyrfa a phrofiadau sy’n gysylltiedig â byd gwaith (CWRE), a hynny fel thema drawsbynciol yn y cwricwlwm.

Cafodd y cynnig dysgu proffesiynol hwn, sydd mewn dwy ran, ei ddatblygu gan Gyrfa Cymru mewn partneriaeth â’r Athro Andy Penaluna o Brifysgol Abertawe.

Manylion y Digwyddiad:

Dydd 1: 10/10/2023 09:30 - 13:00
Gardd Fotaneg, Llanarthne (SA32 8HN) 

Dydd 2: 15/01/2024 09:30 - 13:00
Canolfan Halliwell, Caerfyrddin (SA31 3EP) 

Archebwch yma


Stuart Jacob Addysg Gyrfaoedd a Phrofiadau sy’n Gysylltiedig â Byd Gwaith stuart.jacob@partneriaeth.cymru

PDF

Cefnogi CGM ac ACRh plwraliaethol, beirniadol a gwrthrychol

Cynulleidfa Darged: Pob ymarferydd – yn enwedig y rheiny sydd â gwybodaeth am CGM a/neu ACRh a dealltwriaeth ohonynt.

Cynlluniwyd y dysgu proffesiynol hwn i gefnogi ymarferwyr i feithrin dealltwriaeth o amrywiaeth ledled y rhanbarth, gan felly gefnogi ysgolion i ddarparu CGM ac ACRh gwrthrychol a phlwraliaethol. Bydd pob sesiwn yn cael ei saernïo’n ofalus i gefnogi’r broses o feithrin gwybodaeth a dealltwriaeth mewn perthynas â’r prif grefyddau a chredoau ledled y rhanbarth, yn ogystal ag i ymgorffori ymwybyddiaeth o brofiad bywyd a chyfeirio at ddeunydd darllen, adnoddau a deunyddiau addysgu a dysgu perthnasol a argymhellir.

Manylion y Digwyddiad:

20/09/23 16:00-17:00 Sesiwn Gyflwyno
Archebwch yma

04/10/2023 16:00-17:00 Bwdhaeth
Archebwch yma

08/11/2023 16:00-17:00 Cristnogaeth
Archebwch yma

06/12/2023 16:00-17:00 Y Dharma Hindŵaidd
Archebwch yma

10/01/2024 16:00-17:00 Islam
Archebwch yma

07/02/2024 16:00-17:00 Iddewiaeth
Archebwch yma

28/02/2024 16:00-17:00 Y Traddodiad Sikhaidd
Archebwch yma

10/04/2024 16:00-17:00 Roma, Sipsiwn a Theithwyr
Archebwch yma

08/05/2024 16:00-17:00 Tystion Jehofa
Archebwch yma

05/06/2024 16:00-17:00 Dyneiddiaeth
Archebwch yma

10/07/2024 16:00-17:00 Heddychiaeth a Figaniaeth Moesegol
Archebwch yma


I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:

Jennifer Harding-Richards Cynghorydd CGM / ACaR jennifer.harding-richards@partneriaeth.cymru

PDF

Gweithgor: Datblygu dulliau o addysgu a dysgu ym maes ACRh

Cynulleidfa Darged: Pob ymarferydd – yn enwedig y rheiny sydd â gwybodaeth am ACRh yn thema drawsbynciol.

FFURFLEN MYNEGI DIDDORDEB yw hon

Mae addysg cydberthynas a rhywioldeb (ACRh) yn ofyniad statudol yn fframwaith Cwricwlwm i Gymru, ac mae’n orfodol ar gyfer pob dysgwr 3 i 16 oed. Mae Partneriaeth am gydweithredu â chwe ymarferydd o bob cwr o’r rhanbarth i ddatblygu adnoddau i gefnogi ysgolion i ystyried y modd y mae’r cwricwlwm ac addysgeg yn cefnogi ac yn llywio datblygiad y dull ehangach o fynd i’r afael ag ACRh.

Bydd y cyfranogwyr yn:

Manylion y Digwyddiad:

07/11/23       Y Llwyfan, Heol Y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ
24/01/24       Flemming Suite, Halliwell, Caerfyrddin SA31 3EP
08/03/24       Flemming Suite, Halliwell, Caerfyrddin SA31 3EP

Llenwch y ffurflen hon i gofrestru eich mynegiad o ddiddordeb os hoffech fod yn rhan o’r gweithgor hwn. 

Diwrnod cau 09/10/23.

Archebwch yma


I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:

Jennifer Harding-Richards Cynghorydd CGM / ACaR jennifer.harding-richards@partneriaeth.cymru

PDF

Rhwydweithiau Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb

Cynulleidfa Darged: Pob ymarferydd uwchradd – yn enwedig y rheiny sydd â gwybodaeth a dealltwriaeth mewn perthynas ag ACRh.

Bydd y rhwydwaith hwn yn cefnogi ymarferwyr gyda’u rôl o fod yn arweinwyr ACRh yn eu hysgolion. Bydd yr ymarferwyr yn cael dysgu proffesiynol yn ogystal â chyfleoedd i gydweithredu ac i gyd-lunio addysgu a dysgu ACRh ar gyfer eu lleoliadau.

Bydd y cyfranogwyr yn:

Manylion y Digwyddiad:

Trwy’r dydd     09:00-15:30

Sir Gâr a Sir Benfro
15/11/2023     
Teifi, Canolfan Halliwell, Caerfyrddin SA31 3EP
Archebwch yma

22/02/2024    
Neuadd y Frenhines, Arberth, Sir Benfro SA67 7AS
Archebwch yma

18/06/2024     
Cothi, Canolfan Halliwell, Caerfyrddin SA31 3EP
Archebwch yma

Abertawe

29/11/2023    
Canolfan y Ffenics,  Rhodfa Powys, Townhill, Abertawe SA1 6PH
Archebwch yma

14/03/2024   
Canolfan y Ffenics,  Rhodfa Powys, Townhill, Abertawe SA1 6PH
Archebwch yma

11/07/2024    
Canolfan y Ffenics,  Rhodfa Powys, Townhill, Abertawe SA1 6PH
Archebwch yma


I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:

Jennifer Harding-Richards  Cynghorydd CGM / ACaR jennifer.harding-richards@partneriaeth.cymru

PDF

Sesiynau galw heibio ar y Meysydd Dysgu a Phrofiad: CGM / ACaR

Cynulleidfa Darged: Yr holl staff mewn ysgolion a lleoliadau addysgol.

Mae Partneriaeth yn ymrwymedig i ddarparu dysgu proffesiynol cyffredinol, pwrpasol ac o ansawdd uchel i bob ysgol a lleoliad ledled y rhanbarth. Mae Partneriaeth yn cydnabod yr heriau sylweddol sy’n wynebu ysgolion ar hyn o bryd, yn ogystal â’r anawsterau y mae sawl un yn eu hwynebu wrth geisio hwyluso’r staff i fynd i ddigwyddiadau dysgu proffesiynol. Er mwyn ceisio lliniaru’r heriau hyn, mae Partneriaeth wedi amserlennu sesiynau galw heibio ar-lein ar y Meysydd Dysgu a Phrofiad.

Mae’r sesiynau galw heibio hyn, a gynhelir bob tymor (a phob hanner tymor), wedi’u hamserlennu i ddarparu cyfleoedd i siarad â swyddogion Partneriaeth sy’n arwain y broses o ddatblygu a chefnogi’r Meysydd Dysgu a Phrofiad. Maent yn anffurfiol ac, yn ôl eu natur, byddant yn ymatebol i anghenion y rhai a fydd yn bresennol.

Manylion y Digwyddiad:

29/09/2023 10:00 - 11:00
Archebwch yma

24/11/2023 10:00 - 11:00
Archebwch yma

19/01/2024 10:00 - 11:00
Archebwch yma

15/03/2024 10:00 - 11:00
Archebwch yma

17/05/2024 10:00 - 11:00
Archebwch yma

28/06/2024 10:00 - 11:00
Archebwch yma


I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:

Jennifer Harding-Richards  Cynghorydd CGM / ACaR jennifer.harding-richards@partneriaeth.cymru

PDF

Cymru I Bawb - rhoi perthyn wrth wraidd eich cwricwlwm

Cynulleidfa Darged: Pob ymarferwr

Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adroddiad yr Athro Charlotte Williams: ‘Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y Cwricwlwm Newydd’. Cafodd pob un o’r 51 o argymhellion yn yr adroddiad eu derbyn gan Lywodraeth Cymru. Yn unol ag argymhelliad 28, mae Partneriaeth yn cynnig y cyfle hwn i weithwyr proffesiynol ym maes addysg ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r modd y gallant adeiladu cwricwlwm byd-eang sy’n meithrin ymdeimlad o berthyn ar gyfer pob dysgwr.  

Bydd y gynhadledd undydd hon yn rhoi cyfle i’r cynadleddwyr glywed gan siaradwyr sydd ag arbenigedd yn y maes hwn a mynychu detholiad o weithdai. Bydd y cynadleddwyr yn cael cyfle i siarad â chyd-weithwyr o ysgolion ledled y rhanbarth sydd wedi dechrau ar eu taith eu hunain.  

Bydd y cynadleddwyr yn:  

Manylion y Digwyddiad:

23 Chwefror 2024 Cothi, Canolfan Halliwell, Caerfyrddin SA31 3EP Archebwch yma


I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:

Julian Nicholds Cymru Wrth-hiliol 2030 julian.nicholds@partneriaeth.cymru

PDF

Gweithgor Dad-drefedigaethu’r Cwricwlwm

Cynulleidfa Darged: Pob ymarferwr

Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adroddiad yr Athro Charlotte Williams: Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y Cwricwlwm Newydd. Cafodd pob un o’r 51 o argymhellion yn yr adroddiad eu derbyn gan Lywodraeth Cymru. Yn unol ag argymhelliad 28, mae Partneriaeth yn cynnig y cyfle hwn i weithwyr proffesiynol ym maes addysg ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r modd y gallant adeiladu cwricwlwm byd-eang sy’n meithrin ymdeimlad o berthyn ar gyfer pob dysgwr.

I gefnogi’r gwaith hwn, mae Partneriaeth yn cynnull gweithgor o ysgolion a lleoliadau ledled y rhanbarth. Ffocws y gweithgor fydd datblygu dealltwriaeth a rennir o ddulliau sy’n cefnogi cwricwlwm byd-eang wedi’i ddad-drefedigaethu. Bydd aelodau’r gweithgor yn datblygu eu cwricwlwm byd-eang eu hunain ac yn cael cyfleoedd rheolaidd i rannu a thrafod â’i gilydd. Bydd yr ysgolion sy’n cymryd rhan hefyd yn cael cyfleoedd i rannu eu cynnydd yn fwy eang. Bydd y cyfarfodydd yn hybrid, ac aelodau’r gweithgor a fydd yn cytuno ar y dyddiadau/lleoliadau. 

Manylion y Digwyddiad:

Os hoffech fod yn rhan o’r gweithgor, cysylltwch â julian.nicholds@partneriaeth.cymru erbyn 29.09.23. 

Nodwch mai nifer cyfyngedig o leoedd sydd, ac y byddant yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin. 


Julian Nicholds Cymru Wrth-hiliol 2030 julian.nicholds@partneriaeth.cymru

PDF