Cynorthwywyr Addysgu wrth eu Gwaith

Rhaglen Genedlaethol ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu wrth eu Gwaith

Cynulleidfa Darged: Ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu sydd wedi bod yn eu swydd ers dwy flynedd neu ragor.

Rhaglen genedlaethol ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu a fyddai’n croesawu diweddariad ar gyd-destun newidiol y proffesiwn. Mae hwn ar gael i bob ysgol a lleoliad, gyda’r gweithgareddau’n cael eu cyflwyno yn Gymraeg, yn Saesneg neu’n ddwyieithog. Cyfuniad o weithgareddau, astudiaethau hunangyfeiriedig, cymorth, myfyrdod a rhwydweithio. 

Manylion y Digwyddiad:

Bydd y rhaglen genedlaethol hon yn cael ei darparu’n rhanbarthol gan Partneriaeth. Rhaglen wyneb yn wyneb deuddydd o hyd, neu bedair sesiwn rithwir dwyawr o hyd. 

Bydd y pedwar modiwl yn archwilio: 

Rhaglen ddeuddydd wyneb yn wyneb gyda sesiynau ar gael ym mhob un o’r awdurdodau lleol yn ystod tymor yr hydref 2023.

Dolenni i gofrestru:

Sir Benfro https://forms.office.com/e/auzUCA84wr

Sir Gaerfyrddin https://forms.office.com/e/PvmMydEPNw

Abertawe https://forms.office.com/e/mg2bPnd3NT


Bydd y rhaglen hon hefyd yn cael ei chynnig dros bedwar sesiwn prynhawn ar-lein, Ionawr – Mawrth 2024.

Dolen i gofrestru: https://forms.office.com/e/Se160HKt8N


I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:

Heulwen Lloyd   Arweinydd Prosiect – Dysgu Proffesiynol Cynorthwywyr Addysgu       heulwen.lloyd@partneriaeth.cymru

PDF

Diwrnod Datblygu CALU

Cynulle dfa Darged: Digwyddiad a fydd o ddiddordeb i bawb sydd wedi ennill statws CALU gan Lywodraeth Cymru.

Diwrnod Datblygu Cenedlaethol ar gyfer CALU yn cael ei ddarparu’n rhanbarthol gan bob consortiwm a phartneriaeth. Mae’r digwyddiad hwn ar gyfer yr holl Gynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch ledled Cymry sy’n anelu at ddatblygu eu dealltwriaeth o ddatblygiadau newydd ymhellach.

Manylion y Digwyddiad:

Digwyddiad wyneb yn wyneb, y lleoliad i’w gadarnhau, ac iddo thema o ddathlu gwaith Cynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch yn ysgolion Partneriaeth; rhannu cyfleoedd ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu; tynnu sylw at arfer da ymhlith ymarferwyr a chyflwyno siaradwyr gwadd ysbrydoledig. Gwahoddir rhanddeiliaid i fod yn bresennol i hyrwyddo eu cefnogaeth, e.e. undebau, prifysgolion, cyrff addysgol.

Archebwch yma


I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:

Heulwen Lloyd Arweinydd Prosiect – Dysgu Proffesiynol Cynorthwywyr Addysgu    heulwen.lloyd@partneriaeth.cymru

PDF