Pam cael MDPh penodol i’r Celfyddydau Mynegiannol?

Mae dysgu trwy'r celfyddydau mynegiannol yn darparu cyfleoedd i archwilio, mireinio, a chyfleu syniadau, gan danio’r meddwl, y dychymyg a’r synhwyrau yn greadigol mewn byd lle mae unrhyw beth yn bosibl. Mae ymgysylltu â'r celfyddydau mynegiannol yn gofyn am gymhwyso, dyfalbarhad a sylw manwl i fanylion; galluoedd sydd â buddion ar draws dysgu. Mae galw mawr am y sgiliau lefel uwch hyn gan gyflogwyr ac maent yn hanfodol i ddysgwyr ddod yn ddinasyddion gweithredol yr unfed ganrif ar hugain. Trwy faes dysgu a phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol bydd dysgwyr yn magu hyder i dyfu a defnyddio eu lleisiau a'u hunaniaeth artistig a byddant yn archwilio ffyrdd o gysylltu a chyfathrebu ag eraill. Mae'r maes dysgu a phrofiad hwn yn darparu cyfleoedd i ddatblygu gwerthfawrogiad gydol oes a mwynhad o weithgareddau celfyddydau mynegiannol a diwylliannol, ac hefyd i gymryd rhan ynddynt.

Ymateb a Myfyrio

Trwy gyd-destunau cyfoethog, dilys - wedi'u gwella trwy weithio ar draws meysydd dysgu a phrofiad - bydd dysgwyr yn mwynhau cyfleoedd niferus ac amrywiol i greu, archwilio ac ymateb i'r celfyddydau yn eu diwylliannau eu hunain a diwylliannau eraill a phrofi mwynhad a chyfoethogi yn eu bywydau tra'n datblygu cymwyseddau a gwerthoedd fydd yn galluogi dysgwyr i ymgorffori'r pedwar diben.


  • Pa gymwyseddau a gwerthoedd y gallai'r celfyddydau mynegiannol eu datblygu yn ein dysgwyr?

Cymwyseddau - yn bethau rydych chi wedi'u dysgu trwy waith, hyfforddiant neu addysg, h.y. pirouette, golygu lluniau

Gwerthoedd - priodoleddau y gallech fod wedi'u defnyddio i fod o fudd i chi mewn bywyd a gwaith, h.y. annibyniaeth, penderfyniad

  • Sut ydych yn mynd i ddatblygu eich cwricwlwm ysgol i sicrhau bod y cymwyseddau a’r gwerthoedd hyn yn cael eu hadlewyrchu yn y ddarpariaeth ar gyfer pob dysgwr?

Gellir ymgymryd â'r gweithgaredd yn annibynnol neu ei rannu ag eraill i drafod ar y cyd trwy glicio ar y ddolen hon:

🌐 Jamboard - Why EA? / Pam CM?

Sut gall maes dysgu a phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol gefnogi iechyd a lles?

Mae pandemig Covid-19 wedi golygu bod bywyd wedi newid y tu hwnt i bob cydnabyddiaeth, gan deimlo'n rhyfedd, yn ddryslyd ac yn llethol yn aml. Ni fu gofalu am ein hiechyd a'n lles erioed mor bwysig. Mae'n hanfodol i les meddyliol pawb gael allfa i fynegi emosiynau ac mae llawer yn gwneud hyn trwy'r celfyddydau. Mae cynllunio a datblygu cwricwlwm celfyddydau mynegiannol cyfoethog yn darparu llwyfan ar gyfer cefnogi lles pob dysgwr.

"Mae'r Celfyddydau'n helpu pobl i ymdopi mewn amseroedd tywyll ... hyd yn oed yn ystod pandemig."

Barbara Stcherbatcheff (Fforwm Economaidd y Byd 2020)

Ar ôl meddwl eisoes am, ac o bosibl rhannu, syniadau ag eraill am y cymwyseddau a'r gwerthoedd gydol oes y mae'r celfyddydau mynegiannol yn eu datblygu, beth am yr agwedd lles wrth ddatblygu'r celfyddydau mewn ysgolion?

Lles_trwy_r_Celfyddydau_Mynegiannol.mp4

Ymateb a Myfyrio

Meddyliwch am y dysgwyr yn eich ysgol chi. Pa effaith gadarnhaol y gallai datblygu maes dysgu a phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol ei gael ar eu lles?

Y weledigaeth ar gyfer y Celfyddydau Mynegiannol

Mae Cwricwlwm i Gymru yn codi proffil y Maes hwn ac yn rhoi statws cyfartal iddo gyda'r holl feysydd eraill.

    • Bydd y Celfyddydau Mynegiannol yn darparu cyd-destunau cyfoethog a dilys i ddysgwyr wireddu'r pedwar diben.

    • Mae natur ddeinamig a chynhwysol y Celfyddydau Mynegiannol yn datblygu cymhelliant a hunanhyder dysgwyr a’u sgiliau artistig, creadigol a pherfformio.

    • Bydd y Celfyddydau Mynegiannol yn meithrin piblinell o dalent i gynnal a datblygu'r cyfleoedd amrywiol yn y diwydiannau creadigol.

    • Mae'r Maes hwn hefyd yn meithrin sgiliau trosglwyddadwy gan gynnwys, creadigrwydd a medrau meddwl yn feirniadol.

Beth yw’r celfyddydau mynegiannol?

Mae'r maes dysgu a phrofiad hwn yn cynnwys pum disgyblaeth, sef celf, dawns, drama, ffilm a chyfryngau digidol, a cherddoriaeth, ac mae gan bob disgyblaeth ei gorff ei hun o sgiliau a gwybodaeth. Mae'n bwysig bod ysgolion yn darparu cyfleoedd eang a chytbwys sy'n galluogi eu dysgwyr i symud ymlaen tuag at y pedwar diben ar draws bob un o’r disgyblaethau.

CELF - Mae celf yn cynnwys datblygu ac arbrofi gydag ystod diderfyn o adnoddau, deunyddiau, technegau a phrosesau ar draws pob math o gelf, crefft a dylunio.

DAWNS - Mae dawns yn cynnwys perfformio, coreograffi a gwerthfawrogiad ar draws ystod o arddulliau.

DRAMA - Mae drama'n cynnwys actio, cyfarwyddo, dylunio, theatr dechnegol a gweinyddiaeth gelf.

FFILM A CHYFRYNGAU DIGIDOL - Mae ffilm a chyfryngau digidol yn cynnwys teledu, ffilm, radio, dylunio gemau, ffotograffiaeth, digwyddiadau byw a sgiliau cynhyrchu theatrig, cyfryngau print, cyfryngau cymdeithasol, cynhyrchu sain a sain.

CERDDORIAETH - Mae cerddoriaeth yn cynnwys perfformio, byrfyfyrio a chyfansoddi, gwrando a gwerthfawrogi.

🌐 Ystyriaethau sy'n benodol i ddisgyblaethau

Mae'r pum disgyblaeth hyn yn rhyng-gysylltiedig, a'r hyn sy'n eu cysylltu yw'r broses greadigol o archwilio, ymateb a chreu. Y broses hon yw'r edau gyffredin ac anaml iawn y maent yn gweithio ar eu pennau eu hunain.

Bydd y broses greadigol o fewn y celfyddydau mynegiannol yn rhoi llwyfan i ddysgwyr archwilio posibiliadau creadigol a mynegiannol. Gall y broses helpu dysgwyr i ddeall a throsglwyddo'r ddealltwriaeth hon o natur ffiniau a chymryd risg yn well, yn ogystal â sut i ymateb yn gynhyrchiol i'w camgymeriadau.

Y Celfyddydau Mynegiannol a’r pedwar diben

Gan fod Cwricwlwm i Gymru yn gwricwlwm wedi ei selio ar ddibenion, mae'n hanfodol deall y berthynas rhwng y Celfyddydau Mynegiannol a'r pedwar diben ac ystyried ffyrdd y mae'r MDPh yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr symud tuag atynt. Mae angen ystyried a deall y rhesymeg dros y MDPh yn ofalus er mwyn nodi sut mae natur holistaidd y celfyddydau mynegiannol yn galluogi'ch dysgwyr i ddatblygu tuag at y pedwar diben.

Dylai profiadau dysgu ym mhob Maes ddarparu cyfleoedd i ddysgwyr symud ymlaen tuag at y pedwar diben.

Ymateb a Myfyrio

Beth yw'r berthynas rhwng y Celfyddydau Mynegiannol a'r pedwar diben?

Mae'r datganiadau isod yn cynrychioli agweddau a gymerwyd o'r cyflwyniad i'r canllawiau i'r Celfyddydau Mynegiannol. Sut mae pob datganiad yn cwrdd â'r pedwar diben? Pa un o'r pedwar diben maen nhw'n cyd-fynd â nhw? Sut mae'r aliniad hwn yn cefnogi natur ryng-gysylltiedig y cwricwlwm hwn? Sut y bydd y pedwar diben felly yn gyrru gweledigaeth ar gyfer yr Maes hwn yn eich ysgol neu'ch lleoliad?


Defnyddiwch yr opsiwn nodiadau gludiog ar y Sleidiau er mwyn gweithio ar y cyd ag aelodau eraill o staff. Cliciwch ar y ddelwedd i agor y ddogfen a sicrhewch eich bod yn lawrlwytho copi i gydweithio arno.

Bydd ystyried y nodweddion sydd o dan benawdau'r pedwar diben yn arwain at ddealltwriaeth ddofn o weledigaeth Cwricwlwm i Gymru. Rhaid cynnal y drafodaeth hon ym mhob Maes.

Ymateb a Myfyrio

Gan ddefnyddio'r adnodd ar y dde, archwiliwch ffyrdd y bydd dysgu a phrofiadau yn y Celfyddydau Mynegiannol yn cefnogi'r broses o ddatblygu pob un o'r nodweddion.

Yr hyn sy'n bwysig yn y Celfyddydau Mynegiannol

Mae'n hanfodol myfyrio ar y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig a'r rhesymeg sy'n sail i bob un. Mae'n hollbwysig ymgysylltu â'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig a gwerthfawrogi eu pwysigrwydd wrth wireddu'r pedwar diben.

Mynegwyd yr hyn sy'n bwysig yn y Maes hwn mewn tri datganiad, sy'n cefnogi ac yn ategu ei gilydd ac na ddylid eu hystyried ar wahân. Mae'r datganiadau rhyng-gysylltiedig yn galluogi dysgwyr i ymgysylltu'n llawn â'r broses greadigol ym mhob un o'r disgyblaethau.

Mae'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig yn darparu'r cysyniadau allweddol yn y Maes hwn a rhaid i'r holl ddysgu gysylltu yn ôl â nhw.

🌐 Y Celfyddydau Mynegiannol - Datganiadau o’r hyn sy’n bwysig

Yr hyn sy'n bwysig

Mae archwilio’r celfyddydau mynegiannol yn hanfodol er mwyn dyfnhau sgiliau a gwybodaeth gelfyddydol, ac mae’n galluogi dysgwyr i ddod yn unigolion chwilfrydig a chreadigol.

Mae ymateb a myfyrio, fel artist ac fel cynulleidfa, yn rhan hanfodol o ddysgu yn y celfyddydau mynegiannol.

Mae creu yn cyfuno sgiliau a gwybodaeth, gan dynnu ar y synhwyrau, ysbrydoliaeth a dychymyg.

Ymateb a Myfyrio

Beth sy'n bwysig yn y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig?

Ar ôl darllen y rhesymeg dros bob datganiad o'r hyn sy'n bwysig, gall fod yn ddefnyddiol ar hyn o bryd i greu cynrychiolaeth weledol i gydgrynhoi eich dealltwriaeth unigol neu gyfunol o'r dysgu sy'n ofynnol ar draws y pum disgyblaeth, eu natur ryng-gysylltiedig a'r broses greadigol sy'n rhedeg drwyddynt .

Creu gweledigaeth ar gyfer y Celfyddydau Mynegiannol

Mae’r gweithdy gweledigaeth hwn ar gyfer Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol wedi’i gynnig yn flaenorol fel hyfforddiant ar-lein, ac mae recordiad ohono ar gael gyferbyn.

Beth nesaf?

Efallai yr hoffech chi, fel cam nesaf, ddechrau creu gweledigaeth a rennir ar gyfer y Celfyddydau Mynegiannol yn eich ysgol / lleoliad. Gellid cyflwyno hwn fel datganiad a fydd yn mynegi eich uchelgeisiau a'ch dyheadau ar gyfer eich dysgwyr yn eich ysgol / lleoliad.

Gan ddefnyddio'ch dealltwriaeth o weledigaeth ar gyfer yr Maes hwn, a'ch myfyrdodau o'r gweithgareddau uchod, dechreuwch roi rhai syniadau at ei gilydd fel sail ar gyfer trafodaeth gyda'ch cydweithwyr wrth ichi adeiladu eich gweledigaeth.

Ymateb a Myfyrio

  • Trafodwch / Ystyriwch beth sy'n wirioneddol bwysig i'ch dysgwyr chi yn eich cyd-destun chi. Beth yw eu hanghenion a sut y gall maes dysgu a phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol eu cefnogi?

  • Beth ydych chi am i'ch dysgwyr ei gofio am y Celfyddydau Mynegiannol yn y dyfodol? Coladwch syniadau i'w defnyddio pan fyddwch chi'n creu'r weledigaeth ar gyfer eich MDPh.

  • Gyda phwy sydd angen i chi gydweithio nawr?