Cynnydd yn Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

“… rhaid i gynnydd fod yn rhan greiddiol o ddysgu ac addysgu, a dylai fod yn sail i feddylfryd ysgolion wrth gynllunio cwricwlwm yr ysgol.”

Cwricwlwm i Gymru

Mae Cwricwlwm i Gymru yn gosod y dysgwr wrth wraidd y broses gynllunio. Mae'r dyfyniad hwn o'r canllawiau yn pwysleisio pwysigrwydd deall sut mae dysgwyr yn gwneud cynnydd a sut mae'r ddealltwriaeth hon yn fan cychwyn i ysgolion wrth iddynt gynllunio cwricwlwm ar gyfer eu dysgwyr. Er mwyn cefnogi dysgwyr i wneud cynnydd ar hyd y continwwm dysgu, mae angen i ymarferwyr ddatblygu cy-ddealltwriaeth o gynnydd.

Bydd y gweithdy hwn yn mynd i'r afael a'r pedwar cwestiwn isod, sy'n dod yn uniongyrchol o'r canllawiau 'Cefnogi cynnydd dysgwyr' sydd ar gael ar Hwb ac sydd wedi’u nodi gan Lywodraeth Cymru i'ch arwain wrth i chi gynllunio cwricwlwm eich ysgol.

  • Beth yw cynnydd?

  • Beth yw cyd-dealltwriaeth o gynnydd?

  • Pam mae cyd-ddealltwriaeth o gynnydd yn bwysig?

  • Sut dylai ysgoion a lleoliadau ddatblygu y gyd-ddealltwriaeth hon?

Mae'n ofynnol yn y Cwricwlwm i Gymru i ddeall cynnydd mewn dysgu cyn symud ymlaen i drafodaethau ar sut fydd y dysgu yn cael ei asesu.
Nod y gweithdy hwn yw eich cefnogi i ddatblygu cyd-ddealltwriaeth o gynnydd yn Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu.

"Mae’r drefn newydd yn newid diwylliannol sylweddol i’r ffordd y mae pethau wedi bod yn cael eu gwneud yn y gorffennol. Gwyddom bod yn rhaid i asesu adeiladu ar gynnydd: bydd eglurder ynghylch beth mae angen ei ddysgu, pam a sut mae dysgwyr yn gwneud cynnydd, yn pennu sut y dylai hynny gael ei asesu."

Jeremy Miles

Beth yw cynnydd?

Ymateb a myfyrio

Rhannwch syniadau gyda'ch cydweithwyr am yr hyn a olygir gan gynnydd.

Dyma rai syniadau sydd wedi cael eu rhannu yn flaenorol gan ymarferwyr:

  • symud ymlaen

  • gwella

  • datblygu

  • adeiladu ar wybodaeth flaenorol

  • taith ddysgu

Gan ein bod bellach wedi rhannu ein meddyliau ar yr hyn a olygwn wrth gynnydd, mae'n bwysig bod yn glir ar yr hyn yr hyn yr ydym eisiau i'n dysgwyr wneud cynnydd ynddo.

Os ydym am i'n dysgwyr gynyddu eu hystod o eirfa, er enghraifft, byddai hynny'n golygu y byddai dysgwyr yn cynyddu'r hyn y maent yn ei wybod, felly byddent yn gwneud cynnydd o ran gwybodaeth.

Os ydym am iddynt ddod yn ymwybodol o'r amrywiaeth ieithyddol yn ein cymunedau, byddai hynny'n golygu gwneud cynnydd o ran eu dealltwriaeth.

Os ydym am iddynt wella'r ffordd y maent yn cyfleu eu meddyliau a'u syniadau, byddai hynny'n golygu gwella'r hyn y gallant ei wneud,felly byddent yn gwneud cynnydd mewn sgiliau.

Felly, wrth gynllunio ar gyfer dysgu byddwn yn cefnogi ein dysgwyr i gynyddu eu gwybodaeth, i ddyfnhau eu dealltwriaeth a gwella eu sgiliau, ond gallwn hefyd eu helpu i ddatblygu agweddau cadarnhaol tuag at ddysgu ieithoedd a sefydlu gwerthoedd cadarn tuag at ieithoedd a diwylliannau eraill.

Bydd dysgwyr, felly, yn gwneud cynnydd mewn :

  • gwybodaeth

  • dealltwriaeth

  • sgiliau

  • agweddau

  • gwerthoedd

​"Mae cynnydd yng nghyd-destun dysgu yn broses o ddatblygu a gwella sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth dros gyfnod. Mae hyn yn canolbwyntio ar ddeall beth yw ystyr gwneud cynnydd mewn maes penodol neu ddisgyblaeth benodol wrth i ddysgwyr gynyddu dyfnder, ehangder a soffistigeiddrwydd, eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth, eu sgiliau a’u galluoedd, a’u priodweddau a’u hagweddau.”

Cwricwlwm i Gymru

Beth yw cyd-dealltwriaeth o gynnydd a pham mae en bwysig?

Beth?

Archwilio, trafod a deall gyda’n gilydd …

  • Disgwyliadau

  • Cynnydd cydlynol

  • Cymharu disgwyliadau

Pam?

I sicrhau…

  • Cydlyniad ac ecwiti ar draws y system addysg

  • Pontio llyfn i gefnogi addysg a lles

  • Cyflymder a her digonol

Mae cyd-ddealltwriaeth yn golygu cynnal sgyrsiau yn ein hysgolion, clystyrau a thu hwnt i sicrhau ein bod yn rhannu'r un disgwyliadau uchel o'n dysgwyr, fel eu bod yn profi taith ddysgu llyfn a hwylus o 3 i 16.

Mae'r sgyrsiau hyn yn hollbwysig os ydym am gynnig addysg deg ar gyflymder a lefel o her sy'n ymateb i anghenion ein holl ddysgwyr.

Sut ydyn ni'n datblygu cyd-ddeallwriaeth o gynnydd?

The guidance states that ongoing professional dialogue around progression should happen within schools, clusters and with other schools or settings beyond the cluster. This will provide opportunities for practitioners to reflect on our understanding, compare our thinking and understand different approaches and practice.

Mae'r canllawiau yn dweud y dylai deialog broffesiynol barhaus am gynnydd ddigwydd o fewn ysgoion, clystyrau a gydag ysgolion neu leoliadau eraill tu hwnt i'r clwstwr. Bydd hyn yn darparu cyfleoedd i ymarferwyr fyfyrio ar eu dealltwriaeth, cymharu meddyliau a deall gwahanol ddulliau ac ymarfer.

Er mwyn datblygu cyd-ddealltwriaeth o gynnydd, mae angen i ni ddechrau gyda’r Egwyddorion Cynnydd. Mae pump ohonynt i gyd, ac maent yn orfodol.

Mae'r naratif o dan bob un yn benodol i bob Maes. Yn Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, maent yn disgrifio cynnydd yn y Maes yn ei gyfanrwydd ac felly maent yn berthnasol i bob iaith.

Cliciwch ar y gwymplen isod i weld naratif pob un o'r egwyddorion yn Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu.

Effeithiolrwydd cynyddol fel dysgwr ( cynnydd mewn effeithiolrwydd)

Wrth iddynt symud ar hyd y continwwm dysgu, bydd dysgwyr yn adeiladu ar sgiliau ieithyddol sylfaenol i feithrin medr sy'n eu galluogi i oresgyn ystod o heriau cyfathrebu yn llwyddiannus. Mae'r rhain yn cynnwys, er enghraifft:

  • gofyn cwestiynau cynyddol soffistigedig

  • dod o hyd i wybodaeth yn annibynnol

  • gwneud penderfyniadau trwy werthuso a beirniadu’r syniadau a'r safbwyntiau a'r dulliau cyfathrebu yn yr hyn y maen nhw’n ei glywed, ei ddarllen a'i weld

  • defnyddio iaith yn effeithiol i gyfleu eu syniadau a'u safbwyntiau eu hunain ar bynciau amrywiol

Byddan nhw’n meithrin y sgiliau ieithyddol angenrheidiol i drafod a gwerthuso eu dysgu mewn ieithoedd.

Ehangder a dyfnder gwybodaeth cynyddol (cynnydd mewn gwybodaeth)

Caiff cynnydd yn y Maes hwn ei gynrychioli fel continwwm cydlynol. Mae'r dysgwr yn datblygu'n holistaidd o ran ei ddealltwriaeth a'i ddefnydd pwrpasol o ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu wrth wrando a darllen, siarad ac ysgrifennu, a rhyngweithio a chyfryngu mewn ystod eang o gyd-destunau.

Mae dysgwyr yn meithrin dealltwriaeth gynyddol soffistigedig o gysyniadau ieithyddol sy'n cefnogi'r broses o feithrin sgiliau mewn modd mwy ymwybodol a hunanymwybodol i gyfathrebu'n effeithiol drwy siarad, ysgrifennu, ystumiau, delweddau neu gyfryngau eraill.

Maen nhw hefyd yn gwneud cynnydd o ran ehangder a dyfnder gwybodaeth gysyniadol drwy profi syniadau mewn ieithoedd a llenyddiaeth, i ddechrau mewn cyd-destun mwy personol a lleol gan symud ymlaen i gysylltu â chyfathrebu mwy cymhleth mewn byd amlieithog. Felly, yn raddol, mae dysgwyr yn meithrin dealltwriaeth fwy cynnil o wahanol safbwyntiau a meistrolaeth gynyddol o'r sgiliau sydd eu hangen i ddehongli, gwerthuso a mynegi safbwyntiau gwahanol ac ymateb iddyn nhw.

Dyfnhau'r ddealltwriaeth o'r syniadau a'r disgyblaethau yn y meysydd (cynnydd mewn dealltwriaeth)

Mae cynnydd yn y Maes hwn yn gontinwwm o ymgysylltiad cynyddol gymhleth â syniadau a dibenion cyfathrebu ac o feithrin ymwybyddiaeth ieithyddol. Caiff y rhain eu dangos fel a ganlyn:

  • ymateb i ddulliau cyfathrebu wrth wrando, darllen neu dderbyn iaith mewn ffyrdd eraill

  • eu cynhyrchu wrth siarad ac ysgrifennu neu drwy ddulliau cyfathrebu eraill.

Mae defnyddio holl allu ieithyddol dysgwr – ni waeth pa mor anwastad y gall fod – yn ei alluogi i wneud cynnydd ym mhob iaith. Gellir cymhwyso dealltwriaeth o gysyniadau ieithyddol yn iaith y dosbarth, er enghraifft, at ddysgu iaith newydd, sy'n hwyluso cynnydd yn yr iaith honno yn ogystal â gwella dealltwriaeth o’r ffordd y mae holl ieithoedd y dysgwr yn gweithio. Er y gall cynnydd dysgwyr fod ar wahanol bwyntiau mewn gwahanol ieithoedd, mae canolbwyntio ar luosieithrwydd yn eu galluogi i ddefnyddio eu dealltwriaeth o nifer o ieithoedd i ddeall testun llafar neu ysgrifenedig, ni waeth beth fo'u meistrolaeth o'r iaith honno, a deall yn gynyddol y cydberthnasau rhwng gwahanol ieithoedd a dysgu o’r cydberthnasau hyn.

Mireinio sgiliau a soffistigeiddrwydd cynyddol wrth eu defnyddio a'u cymhwyso (cynnydd mewn sgiliau)

Mae cynnydd o ran mireinio a soffistigeiddrwydd sgiliau yn symud o ddiben cyfathrebol llythrennol a syml i lefelau mwy haniaethol, casgladwy neu ddealledig a chynnil o ran ystyr, gyda dibenion mwy cymhleth. Mae iaith lafar yn rhagflaenu ar sgiliau cyn llythrennedd ac yn sail iddynt. Mae dysgwyr yn raddol yn meithrin ymwybyddiaeth well o iaith a mwy o soffistigeiddrwydd wrth ddefnyddio'r ymwybyddiaeth hon i gyflawni'r dibenion arfaethedig o ran dehongli a chyfathrebu drwy siarad neu ysgrifennu, neu drwy ddulliau eraill.

I ddysgwyr iau, mae caffael iaith yn dilyn yr un drefn ag ar gyfer dysgwyr hŷn, er y gall cyflymder y mae'n gwneud hynny amrywio'n sylweddol. Wrth i ddysgwyr brofi, ymgyfarwyddo, deall a chymhwyso syniadau ac ymwybyddiaeth ieithyddol gynyddol gymhleth, mae cywirdeb a rhuglder wrth ddefnyddio sgiliau cyfathrebu yn gwella.

Gwelir cynnydd yn y Maes hwn hefyd drwy ddefnyddio iaith. Wrth i ddysgwyr ddod yn fwy medrus, gallant addasu a thrin iaith er mwyn cyfathrebu'n effeithiol ag ystod o wahanol gynulleidfaoedd. Mae hyn yn galluogi dysgwyr i feithrin cydberthnasau cryf a'r hyder i ddefnyddio eu llais mewn cymdeithas.

Gall dysgwyr ail iaith ddefnyddio iaith fformiwlaïg gydag ychydig iawn o gamgymeriadau i ddechrau ac, wrth iddynt wneud cynnydd a defnyddio iaith mewn ffordd fwy uchelgeisiol a digymell, gall ymddangos fel eu bod yn gwneud mwy o gamgymeriadau. Mae'r rhan annatod hon o'r broses o ddysgu iaith yn llwyddiannus yn arwain at ddod yn ddefnyddwyr mwy rhugl a chywir. Efallai na fydd dysgwyr ail iaith neu ddwyieithog o reidrwydd yn dangos yr un patrwm cynnydd ieithyddol â dysgwyr iaith gyntaf.

Creu cysylltiadau a throsglwyddo'r dysgu i gyd-destunau newydd (cynnydd mewn cymhwyso)

Mae cydberthynas sylweddol rhwng y Maes hwn a'r dysgu ym mhob maes arall. Mae'r dysgwr yn symud ar hyd y continwwm cynnydd yn rhannol drwy wynebu heriau cyfoethog ac adnoddau yn y meysydd dysgu a phrofiad eraill. Mae cysylltiad agos rhwng y meddwl sydd ei angen i ddeall a chyfathrebu'r holl ddysgu a'r hyn sy'n galluogi dysgwyr i feithrin sgiliau derbyn, dehongli a mynegi iaith. Maen nhw’n gwneud cynnydd ar y cyd mewn ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu yn y Maes hwn ac mewn llythrennedd disgyblaethol yn y meysydd dysgu a phrofiad eraill.

Mae'r gallu i drosglwyddo gwybodaeth a sgiliau i gyd-destunau newydd yn rhan annatod o gynnydd yn y Maes hwn. Wrth i ddysgwyr feithrin dealltwriaeth o ieithoedd ychwanegol, caiff patrymau o ran defnydd iaith eu hadnabod, eu haddasu a'u cymhwyso mewn cyd-destunau newydd. Caiff dulliau cyfathrebu eu haddasu ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd, a gwahanol gyd-destunau disgyblaethol. Mae sgiliau mewn iaith gyntaf ac ail iaith dysgwyr yn eu helpu i ddysgu mewn ieithoedd dilynol. Wrth i ddysgwyr wneud cynnydd, byddan nhw’n gallu adnabod cysylltiadau rhwng ffyrdd o gyfathrebu, gan wneud dewisiadau da ynghylch dulliau cyfathrebu effeithiol.

Ymateb a myfyrio

Darllenwch a thrafodwch y naratif ar gyfer pob egwyddor cynnydd yn ILlaCh. Crynhowch bob paragraff i bwyntiau bwled, gan ofyn y cwestiwn Beth y mae angen i ddysgwyr ei wneud i wneud cynnydd o fewn yr egwyddor hon?

e.e. Effeithiolrwydd cynyddol fel dysgwr

  • gofyn cwestiynau cynyddol soffistigedig

Bydd y broses o gyflawni y gweithgaredd hwn ar y cyd yn eich galluogi i ddatblygu cyd-ddealltwriaeth o'r hyn sydd angen i'r dysgwyr ei wneud i wneud cynnydd.

Beth yw rôl y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig, yr egwyddorion cynnydd a'r disgrifiadau dysgu?

Mae’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig, yr egwyddorion cynnydd a’r disgrifiadau dysgu yn cyfleu hanfod yr hyn a ddylai fod yn sail i ddysgu ac yn darparu’r un disgwyliadau uchel i bob dysgwr.

Cwricwlwm i Gymru


Mae'r tri yn sail i ddysgu ac yn darparu'r un disgwyliadau uchel ar gyfer pob dysgwr ledled Cymru.

Wrth gynllunio eich cwricwlwm, dylid eu defnyddio yn y drefn ganlynol, fel y maent yn ymddangos yn y canllawiau:

  • y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig ( mandadol)

  • yr egwyddorion cynnydd ( mandadol)

  • y dysgrifiadau dysgu ( nid yn fandadol)

Pan fyddwn yn penderfynu beth y mae angen i'n dysgwyr ei ddysgu, byddwn yn cyfeirio at y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig. Maent yn orfodol ac yn crynhoi'r dysgu y mae ei angen i wireddu'r pedwar diben.

Pan fyddwn am ddeall cynnydd yn y dysgu hwn yn ILlaCh, rydym yn cyfeirio at yr Egwyddorion Cynnydd. Maen nhw hefyd yn orfodol.

Mae'r disgrifiadau dysgu yn ddefnyddiol fel arwyddbyst i ddangos sut y dylai dysgwyr wneud cynnydd mewn gwahanol linynnau dysgu o fewn pob datganiad o’r hyn sy’n bwysig.

Dethol y dysgu o'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig

Yn ein gweithdy diwethaf, awgrymon ni eich bod yn ymgymryd â gweithgaredd i ddethol dysgu o'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig. Mae'r enghraifft isod yn dangos sut wnaeth un grŵp o ymarferwyr ddethol y dysgu o'r datganiad Mae mynegi ein hunain drwy ieithoedd yn allweddol i gyfathrebu. Maent wedi rhoi'r hyn sydd angen ei ddysgu ar y papurau post-it o gwmpas y datganiad a'u grwpio mewn gwahanol liwiau.

Er enghraifft, mae'r dysgu ar y papurau post-it gwyrdd yn cyfeirio at siarad ac ysgrifennu gyda ffocws gwahanol, un ar gyfer mynegiant, un i rannu gwybodaeth, ac yn y blaen.

Ar gyfer y gweithgaredd nesaf, byddwn yn cymryd y dysgu o'r papur post-it oren yn y canol, sef dethol cywair ar gyfer cynulleidfa a phwrpas.

Defnyddio yr egwyddorion cynnydd i ddeall cynnydd yn y dysgu

Wrth ddysgu sut i fynegi eu hunain ar gyfer cynulleidfaoedd a phwrpasau gwahanol, mae angen i ddysgwyr gael profiadau sy'n eu galluogi i wneud cynnydd o fewn pob un o'r pum egwyddor.

e.e.

Effeithiolrwydd

  • defnyddio iaith yn effeithiol i gyfleu syniadau a safbwyntiau

Gwybodaeth

  • cyfathrebu yn effeithiol drwy siarad, ysgrifennu, ystumiau, delweddau neu gyfryngau eraill

Dealltwriaeth

  • datblygu ymwybyddiaeth iaith

  • ymgysylltiad cynyddol gymhleth â syniadau pan yn ymateb i a defnyddio dulliau cyfathrebu

Sgiliau

  • addasu a thrin iaith er mwyn cyfathrebu'n effeithiol ag ystod o wahanol gynulleidfaoedd

Cymhwyso

  • datblygu pob meddwl a dysgu i ddatblygu sgiliau iaith derbyniol, deongliadol a mynegiannol

Daw'r brawddegau uchod o'r pwyntiau bwled a ddangoswyd i chi'n gynharach, a gallwn weld yn awr sut y gellir eu defnyddio i gefnogi dysgwyr i wneud cynnydd yn y dysgu hwn o fewn pob un o'r pum egwyddor.

Ymateb a myfyrio

Ar ochr chwith y tabl isod, gallwch weld y dysgu yr ydym wedi ei ddewis ar gyfer y gweithgaredd hwn, sef dethol cywair ar gyfer cynulleidfa a phwrpas o'r datganiad Mae mynegi ein hunain drwy ieithoedd yn allweddol i gyfathrebu.

Gan gofio'r hyn y mae angen i ddysgwyr wneud cynnydd ynddo o’r egwyddorion cynnydd, trafodwch sut olwg allai fod ar y dysgu hwn yn ystod camau cynnar a diweddarach ar y continwwm dysgu iaith. Yn gyffredinol, beth yw natur y dysgu i ddysgwyr yn y cyfnod sylfaen, ar ddiwedd y cyfnod cynradd, ac wrth iddynt barhau â'u taith i'r ysgol uwchradd?

Beth ydych chi yn ei ddysgu ich dysgwyr ar hyn o bryd fel eu bod yn deall bod eu hiaith yn amrywio i ateb gofynion pwrpas eu cyfathrebu ac hefyd yn dibynnu ar y person neu'r bobl y maent yn siarad â nhw?

Beth maent yn ei ddeall a’i wybod am hyn yn y blynyddoedd cynnar, a sut mae e’n datblygu wrth iddynt fynd yn hŷn a symud ar hyd y continwwm dysgu?

Sut gall y disgrifiadau dysgu ein helpu i ddeall cynnydd mewn dysgu

Er nad yw'r disgrifiadau dysgu yn orfodol, maent yno i'n cefnogi i gynllunio ar gyfer cynnydd mewn gwahanol linynnau dysgu ym mhob datganiad o’r hyn sy’n bwysig. Dyma'r disgrifiadau ar gyfer cynnydd wrth ddethol cywair ar gyfer cynulleidfa a phwrpas, a gallwn weld ar y continwwm hwn - sy'n cwmpasu 12 mlynedd o ddysgu – fod dysgwyr yn symud ymlaen o gydnabod iaith briodol i ddewis ac addasu iaith briodol, o ddechrau gwneud dewisiadau sy’n gweddu i argyhoeddi’r gynulleidfa, a hynny mewn ystod o gyd-destunau.

Rhaid cofio na ddylid defnyddio y disgrifiadau dysgu fel man cychwyn ar gyfer cynllunio cwricwlwm, na'u trin ychwaith fel bocsys i'w ticio. Maent yn hytrach yn bwyntiau cyfeirio neu arwyddbyst i'n helpu fel ymarferwyr i gefnogi ein dysgwyr i symud ar hyd y continwwm dysgu iaith.

Adnodd arall sydd ar gael gennym fel pwynt cyfeirio yn ILlaCh yw'r Fframwaith Llythrennedd diwygiedig. Nid yw bellach yn statudol, fel y gwyddoch erbyn hyn, ond mae'n adnodd defnyddiol ychwanegol i'n helpu i ddeall cynnydd.

Dull arall o ddatblygu cyd-ddealltwriaeth o gynnydd

Nod y gweithgaredd olaf hwn yw datblygu ymhellach ein cyd-ddealltwriaeth o gynnydd o fewn ILlaCh.

Fel enghraifft y tro hwn, rydym wedi cymryd llinyn dysgu o ddatganiad arall o'r hyn sy'n bwysig, Mae ieithoedd yn ein cysylltu â’n gilydd. O fewn y datganiad hwn, mae'n ofynnol i'r dysgwyr ddeall bod ieithoedd wedi'u cysylltu â'i gilydd.

Yng nghamau cynnar y dysgu hwn gallai eich dysgwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau syml i ddarganfod tebygrwydd rhwng geiriau sylfaenol mewn gwahanol ieithoedd.
Gallai hyn eu harwain i holi pam mae ieithoedd wedi'u cysylltu ac i chwilio am ffyrdd gwahanol o'u cysylltu. Bydd dysgu am deuluoedd iaith ar y cam hwn yn gwella eu dealltwriaeth o darddiad ieithoedd a’r modd y maent yn esblygu.

Byddai cynnydd yn y dysgu hwn yn golygu symud o'r ffordd y caiff geiriau eu llunio i'r ffordd y caiff brawddegau eu llunio. Gallant ddysgu o wahaniaethau yn ogystal â thebygrwydd rhwng ieithoedd, gan ddefnyddio enghreifftiau o ystod ehangach o ieithoedd.

Gallai cynnydd pellach yn y dysgu hwn gynnwys cymhwyso strategaethau a ddysgwyd i ieithoedd a chyd-destunau newydd. Gallai hefyd gynnwys esbonio rhyng-gysylltiadau, dysgu o batrymau gwrthgyferbyniol yn ogystal â phatrymau tebyg, ac yn y pen draw defnyddio'r wybodaeth hon fel ysbrydoliaeth i greu iaith newydd eu hunain.

Yn yr enghraifft hon, rydym wedi dewis cylch sydd wedi ein galluogi i ddangos sut mae dysgu mewn un llinyn yn adeiladu mewn haenau dros amser, gan ddod yn ehangach, yn ddyfnach ac yn fwy soffistigedig.
Awgrymwn eich bod yn ymgymryd â'r un broses gyda'ch cydweithwyr, gan ddefnyddio llinyn dysgu arall, efallai o ddatganiad arall o'r hyn sy'n bwysig, e.e.

  • Mae llenyddiaeth yn tanio dychymyg ac yn ysbrydoli creadigrwydd : datblygu empathi trwy lenyddiaeth

  • Mae mynegi ein hunain drwy ieithoedd yn allweddol i gyfathrebu: datblygu syniadau ymhellach drwy lafaredd

Gallwch ddilyn y camau canlynol:

  1. Dewiswch un llinyn dysgu o un o'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig.

  2. Defnyddiwch y model o gylch i adeiladu haenau o ddysgu sy'n adlewyrchu cynnydd.

  3. Defnyddiwch y sleid pwyntiau bwled i ddangos sut mae'r dysgu hwn yn galluogi'r dysgwyr i wneud cynnydd o fewn pob un o'r pum egwyddor cynnydd.

  4. Defnyddiwch y disgrifiadau dysgu i'ch cynorthwyo.

  5. Myfyriwch ar ba mor ddefnyddiol yw'r broses hon i ddatblygu cyd-dealltwriaeth o gynnydd.

Ymateb a myfyrio

Yn y gweithgaredd nesaf hwn, ystyriwch sut mae dysgu bod “ ieithoedd wedi'u cysylltu a’i gilydd ' yn galluogi dysgwyr i gyflawni cynnydd o fewn pob un o'r pum egwyddor cynnydd. Bydd y sleid gyda'r pwyntiau bwled o Ymateb a Myfyrio 2 yn gwneud hyn yn haws i chi, ac rydym wedi rhoi un enghraifft , sef, er mwyn cyflawni cynnydd o ran cymhwyso, mae angen i ddysgwyr allu trosglwyddo gwybodaeth a sgiliau presennol i gyd-destunau ac ieithoedd newydd.

Nod y gweithgaredd hwn yw dangos sut gall yr egwyddorion cynnydd helpu ysgolion i gynllunio cwricwlwm sy'n cefnogi dysgwyr i wneud cynnydd yn y dysgu sy'n ofynnol yn y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig, sef y dysgu a fydd yn eu galluogi i wireddu y pedwar diben.

Beth yw'r camau nesaf i chi a'ch timau?

Gan fod pwysigrwydd cyd-ddealltwriaeth i sicrhau cydlyniad a pharhad i'ch dysgwyr wedi'i bwysleisio heddiw, awgrymwn eich bod yn ymgymryd a'r camau canlynol:

  • Trefnwch gyfarfod gyda'ch cydweithwyr yn eich ysgol, clwstwr ac mewn ysgolion tebyg eraill i ddechrau datblygu cyd-ddealltwriaeth o gynnydd.

  • Gyda'ch gilydd, crëwch grynodeb o'r egwyddorion cynnydd ar ffurf pwyntiau bwled i'w ddefnyddio pan fyddwch yn cynllunio'r dysgu.

  • Dewiswch linyn dysgu o'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig a thrafodwch sut olwg a allai fod ar gynnydd o ddysgu cynnar i ddysgu diweddarach ar hyd y continwwm.

  • Parhewch gyda'r trafodaethau hyn nes eich bod yn meithrin cyd-ddealltwriaeth o gynnydd mewn dysgu o fewn pob un o'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig.

Dyma gyflwyniad sy'n cydgrynhoi'r dudalen hon y gallech ei defnyddio at ddibenion hyfforddi. Mae'r sgript wedi gosod yn y man nodiadau.