Cynnydd
Mae cynnydd mewn addysg yn golygu cynyddu gwybodaeth, gwella sgiliau a dyfnhau dealltwriaeth o syniadau a chysyniadau. Mae’n broses aflinol, ddargyfeiriol, sy’n digwydd ar gamau gwahanol o’r continwwm ar gyfer pob dysgwr. Dylai cynnydd mewn dysgu bob amser fod wrth wraidd y broses o gynllunio’r cwricwlwm yn hytrach na dechrau gyda thema ac addasu'r dysgu i gydweddu â hi. Wrth ddewis cynnwys cwricwlwm, mae'n rhaid i ysgolion ac ymarferwyr ddefnyddio'r egwyddorion cynnydd i lywio eu dull gweithredu o ran cynnydd.
Mae'r egwyddorion cynnydd yn cyfleu'r disgwyliadau cenedlaethol ar gyfer y cynnydd a wneir gan ddysgwyr ar hyd y continwwm dysgu.
Ehangder a dyfnder gwybodaeth cynyddol
Dyfnhau'r ddealltwriaeth o'r syniadau a'r disgyblaethau yn y Meysydd
Mireinio a soffistigeiddrwydd cynyddol wrth ddefnyddio a chymhwyso sgiliau
Creu cysylltiadau a throsglwyddo dysgu i gyd-destunau newydd
Cynyddu effeithiolrwydd
Egwyddorion Allweddol:
Dylai cynllunio ar gyfer cynnydd ystyried cyflymder a dyfnder y dysgu.
Mae cynnydd yn golygu symud o wybodaeth lythrennol, syml i gysyniadau mwy haniaethol a chymhleth.
Mae cynnydd yn digwydd pan ellir trosglwyddo sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth a’u defnyddio mewn cyd-destunau newydd a chynyddol anghyfarwydd.
Mae cynnydd yn cael ei alluogi pan fydd trafodaeth, myfyrio a gwerthuso yn ffurfio rhan annatod o’r dysgu.
Rhieni’n Bartneriaid mewn Cynnydd:
Mae cyfathrebu rheolaidd ac effeithiol â rhieni a gofalwyr yn cefnogi cynnydd dysgwyr. Gall cynnwys rhieni yn y broses ddysgu yn y ffordd hon eu helpu i ddeall sut y gallant gefnogi dysgu yn amgylchedd yr ysgol, a’r tu hwnt iddo.
Mae profiadau dysgu yn cwmpasu’r holl weithgarwch a rhyngweithio lle mae dysgu’n digwydd, a hynny yn amgylchedd yr ystafell ddosbarth, a’r tu hwnt iddo. Mae profiadau dysgu cadarnhaol yn cyfoethogi addysg pob unigolyn trwy feithrin chwilfrydedd, ehangu gorwelion a chreu llawenydd mewn dysgu.
Ystyriaethau allweddol:
Beth yr ydym yn ei ddeall am y broses ddysgu ddargyfeiriol aflinol?
I ba raddau yr ydym ni yn yr ysgol yn caniatáu i gyd-weithwyr drafod a chytuno ar natur cynnydd?
A ydym yn ymwybodol o fannau dechrau ein dysgwyr fel y gallwn hwyluso eu cynnydd?
Sut yr ydym yn gwybod pan fo dysgu dwfn ar waith?
Sut yr ydym yn cefnogi dysgwyr i wella eu heffeithlonrwydd trwy drafod, myfyrio a gwerthuso?