Beth yw ystyr ymagwedd ysgol gyfan?
Gyrrir Cwricwlwm i Gymru gan y pedwar diben, sy’n sylfaen i’r holl weithgareddau dysgu. Mae’n gofyn defnyddio dull holistaidd, lle bydd holl aelodau cymuned yr ysgol yn cyfrannu i ddatblygiad yr unigolyn ar hyd y continwwm 3-16.
Yr Egwyddorion Allweddol
Dylid cynllunio holl brofiadau’r dysgwyr yn yr ysgol i ddarparu cyfleoedd cysylltiedig i ddatblygu’r pedwar diben.
Mae anghenion yr holl ddysgwyr wrth wraidd y penderfyniadau a wneir ar bob lefel.
Dylai pob aelod o gymuned yr ysgol rannu’r cyfrifoldeb a’r ymrwymiad i addysg integredig y dysgwyr.
Mae cydweithio’n angenrheidiol er mwyn gwella’r dysgu a dyfnhau dealltwriaeth gysyniadol.
Ystyriaethau allweddol:
Pan fyddwn yn sôn am gymuned yr ysgol gyfan, pwy y mae hynny’n ei olygu?
Sut y gallwn sicrhau bod ein staff yn cefnogi ac yn arddel y weledigaeth a ddarperir gan y pedwar diben?
A ydym yn cynnig cyfleoedd i’n staff fyfyrio ar sut y gall ymagwedd ysgol gyfan roi addysg fwy cyflawn a chyfannol i ddysgwr?
A ydym wedi trafod y manteision y mae ymdrin â’r cwricwlwm trwy ymagwedd ysgol gyfan yn eu cynnig i ddysgwyr?
Sut y gallwn gynllunio i sicrhau bod yr ysgol gyfan yn darparu addysg gynhwysfawr i bob un o’n dysgwyr?