Croeso i wefan Cwricwlwm i Gymru Partneriaeth.

Lluniwyd y wefan hon i roi cymorth i ysgolion wrth iddynt gynllunio'r cwricwlwm a datblygu addysgeg. Mae'n disodli gwefannau blaenorol ac yn rhoi'r holl adnoddau perthnasol a chyfredol mewn un ardal hawdd ei chyrchu. Er bod y wefan ar gael i'r cyhoedd, nodwch y bydd yn rhaid i chi fewngofnodi i Hwb trwy gyfrif Hwb Ysgol Partneriaeth i gyrchu adnoddau. Cynlluniwyd y wefan i ategu'r hyfforddiant a'r gweithdai a ddarperir gan dîm y cwricwlwm, a bydd yn esblygu'n gyson yn unol â datblygiad y cwricwlwm ac addysgeg yn y dyfodol.

Cysylltwch â ni os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y rhaglenni hyn, os bydd angen cymorth arnoch ar gyfer eich ysgol neu os hoffech awgrymu ychwanegiadau at y wefan.

Cynllunio’r Cwricwlwm

Er mwyn cefnogi ysgolion wrth iddynt ddechrau ar y gwaith o ddatblygu a mireinio eu cwricwlwm, mae tîm cwricwlwm Partneriaeth wedi datblygu model cylchol pum cam y gellir ei ddefnyddio'n ganllaw i gyfeirio ato. Mae'n bwysig ein hatgoffa ein hunain yn y fan hon nad yw hwn yn gwricwlwm cenedlaethol lle bydd cwricwlwm rhagnodol, parod yn cael ei ddarparu ar ryw adeg. Dylid ystyried Cwricwlwm i Gymru yn fframwaith sy'n amlinellu'r disgwyliadau i bob ysgol a lleoliad yng Nghymru, ac sy'n rhoi ymreolaeth a'r cyfrwng i chi, yr ymarferwyr, gynllunio cwricwlwm a fydd yn unigryw i'ch dysgwyr chi.

Mae'r canllawiau cyfredol yn sôn am adeiladu cenedl o gynllunwyr cwricwla, ac, er pa mor frawychus bynnag y gall hynny ymddangos, mae'n wir y byddwch i gyd yn arwain y newid hwn yn eich rôl yn eich ysgol. Mae'n haws delio â menter mor fawr os caiff ei rhannu'n gamau llai, mwy hylaw. Dyna, felly, esbonio natur gylchol, risiog ein model, y gallwch ei ddefnyddio yn ei gyfanrwydd neu ddethol rhannau ohono yn eich cynllun eich hun. Mae'r ffordd yr ydych yn mynd ati yr un mor bwysig â'r hyn y byddwch yn ei gynhyrchu, ac felly bydd cydweithredu ag eraill bob cam o'r ffordd yn hanfodol.

Rydym yn awgrymu'r dull hwn fel un llwybr posibl o'r weledigaeth i'r ystafell ddosbarth:

  1. Penderfynu gyda'ch gilydd ar yr hyn y mae arnoch ei eisiau ar gyfer eich dysgwyr.

  2. Ar ôl i chi gytuno ar yr hyn y mae arnoch ei eisiau ar gyfer eich dysgwyr, y cam nesaf fyddai penderfynu ar yr hyn yr ydych am iddynt ei ddysgu.

  3. Ar ôl i'r dysgu gael ei nodi, mae angen i ni gael trafodaeth ynghylch sut olwg a fydd ar gynnydd yn y dysgu hwnnw.

  4. Penderfynu ar y lle gorau i'r dysgu hwn ddigwydd.

  5. Y cam olaf yw dewis cyd-destunau ar gyfer y dysgu, yna, y gobaith yw y bydd gennych gwricwlwm ar waith sy'n gwireddu gweledigaeth eich ysgol.

Gellir cyrchu'r holl weithdai a chanllawiau sy'n berthnasol i bob un o'r adrannau hyn trwy'r gwymplen uchod neu drwy glicio ar adran berthnasol y graffigwaith.

Addysgu o Ansawdd Uchel a Gwerthuso

Wrth gynllunio eu cwricwlwm, dylai ysgolion ystyried y dulliau addysgegol y bydd angen iddynt eu rhoi ar waith i gefnogi dysgwyr i wireddu'r pedwar diben. Dylai ysgolion geisio datblygu gweledigaeth gref o ddysgu ac addysgu sy'n rhoi ystyriaeth i ‘pam’ a ‘sut’ yn ogystal â ‘beth’. Mae hyn yn golygu ein bod yn chwilio am hanfod dysgu yn ein hystafelloedd dosbarth – mae hyn yn ymwneud yn rhannol â hanfodion cynnwys (gwybodaeth y mae'n rhaid i chi ei haddysgu) ond yn bennaf mae'n ymwneud â'r broses ddysgu a chymhwyso dysgu (y modd yr ydych yn addysgu a pham y mae angen i ddysgwyr ddeall yr wybodaeth hon), gan fyfyrio trwy'r amser, a symud y dysgwyr ymlaen tuag at y pedwar diben.

Gellir dod o hyd i gymorth ar gyfer y datblygiad addysgegol hwn yn yr adran Addysgu/Gwerthuso ar y wefan.

🌐 Addysgu o Ansawdd Uchel a Gwerthuso

Model y Cwricwlwm i Gymru

Mae'r adran hon yn cynnwys tri fideo cyflwyniadol, pob un â thrawsgrifiad cysylltiedig, sy'n cefnogi ymarferwyr i feithrin dealltwriaeth o'r model cysyniadol o'r cwricwlwm. Dilynir y modelau cwricwlwm hyn gan set o bedwar gweithdy ysgol gyfan a fydd yn galluogi ysgolion a lleoliadau i ddatblygu neu ddiweddaru eu gweledigaeth ar y cyd â rhanddeiliaid lleol, i ystyried cydweithredu, ac i werthuso eu haddysgeg a'u harfer asesu mewn perthynas â'u hanghenion datblygu ysgol gyfan.

Os nad ydych ond yn dechrau ar eich taith o ddiwygio'r cwricwlwm, byddem yn awgrymu eich bod yn defnyddio'r adran hon i adnewyddu/sicrhau dealltwriaeth o'r modd y mae Cwricwlwm i Gymru yn wahanol i fersiynau blaenorol.

🌐 Model y Cwricwlwm i Gymru