Beth yw cynnydd ym maes Gwyddoniaeth a Thechnoleg?
Mae'r diffiniad clir hwn o gynnydd yn ddiamwys o ran bod angen i ni, yr ymarferwyr, ddeall ac asesu cynnydd ein dysgwyr mewn mwy na dim ond eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a'u sgiliau. Mae egwyddorion Cwricwlwm i Gymru yn ei gwneud yn ofynnol i ni ystyried datblygu pob agwedd ar y dysgwr. Wrth i'n dysgwyr ddatblygu dyfnder, ehangder a soffistigeiddrwydd eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth, eu sgiliau a'u galluoedd, a'u priodoleddau a'u tueddiadau byddant yn ffurfio cysylltiadau ar draws eu dysgu ac yn cymhwyso hyn mewn cyd-destunau newydd a heriol. Mae hyn yn allweddol i'w galluogi i weithio tuag at wireddu'r pedwar diben, wrth iddynt symud trwy eu hysgol neu eu lleoliadau ac i wahanol lwybrau y tu hwnt i'r ysgol.
‘Mae cynnydd yng nghyd-destun dysgu yn broses o ddatblygu a gwella sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth dros gyfnod. Mae hyn yn canolbwyntio ar ddeall beth yw ystyr gwneud cynnydd mewn maes penodol neu ddisgyblaeth benodol wrth i ddysgwyr gynyddu dyfnder, ehangder a soffistigeid drwydd eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth, eu sgiliau a’u galluoedd, a’u priodweddau a’u hagweddau.’
Cefnogi dilyniant dysgwyr: canllawiau asesu
Cwricwlwm i Gymru
Mae cefnogi dysgwyr i wneud cynnydd yn sbardun sylfaenol ar gyfer Cwricwlwm i Gymru. Adlewyrchir cynnydd yn yr egwyddorion cynnydd, y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig, a’r disgrifiadau o ddysgu ar gyfer pob un o’r datganiadau hyn. Diben cyffredinol asesu o fewn y cwricwlwm yw cefnogi pob dysgwr i wneud cynnydd. Mae deall y modd y mae dysgwyr yn gwneud cynnydd yn hanfodol i ddysgu ac addysgu, a dylai lywio'r gwaith o gynllunio’r cwricwlwm a threfniadau asesu, yn ogystal â’r gwaith o gynllunio ac ymarfer yn yr ystafell ddosbarth/yn y lleoliad.
‘Mae’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig, egwyddorion dilyniant a’r disgrifiadau o ddysgu yn cyfleu hanfod yr hyn a ddylai fod yn sail i ddysgu
ac yn darparu’r un disgwyliadau uchel i bob dysgwr. ’
Canllawiau Cwricwlwm Cymru
Mae yna gyfanswm o 27 o ddatganiadau o'r hyn sy'n bwysig, ac mae'r rhain yn cynrychioli crynswth yr hyn y mae angen i ddysgwyr ei wybod a'i ddeall pan fyddant yn gadael addysg orfodol. Nhw yw hanfodion pob Maes, a rhaid i'r holl ddysgu gysylltu'n ôl â nhw. Mae'r egwyddorion cynnydd yn darparu lefel uwch o ddealltwriaeth i ymarferwyr o ran y modd y mae dysgwyr yn gwneud cynnydd. Mae'r disgrifiadau dysgu yn cyfleu'r modd y dylai dysgwyr wneud cynnydd yn unol â phob datganiad o'r hyn sy'n bwysig. Maent wedi'u trefnu yn ôl pum cam cynnydd, sy'n ffurfio'r continwwm dysgu.
Yr Egwyddorion Cynnydd
Mae'r egwyddorion cynnydd yn creu gofyniad gorfodol o ran yr hyn y mae’n rhaid i gynnydd ei olygu i ddysgwyr.
Maent wedi’u cynllunio i’w defnyddio gan ymarferwyr i:
ddeall beth yw ystyr cynnydd a’r hyn y bydd yn ei olygu ym mhob Maes
datblygu’r cwricwlwm a phrofiadau dysgu er mwyn galluogi dysgwyr i wneud cynnydd yn y ffyrdd a ddisgrifir
datblygu dulliau asesu sy'n ceisio deall a yw'r cynnydd hwn yn cael ei wneud.
O edrych ar y datganiadau hyn yn fanylach, gallai fod yn fuddiol symleiddio'r iaith a myfyrio ar eu hystyr. Mae'r golofn ar y dde yn cynnig un dehongliad o'r egwyddorion. Bydd rhannu'r ddealltwriaeth hon a chymryd rhan mewn deialog broffesiynol ar draws yr ysgol a rhwng ysgolion yn helpu i sicrhau dealltwriaeth gyffredin ac iaith gyffredin o ran cynnydd. Gallai symleiddio'r iaith ein helpu i ymgysylltu â'r egwyddorion hyn o ran cynnydd a sicrhau mwy o eglurder yn eu cylch.
Mae yna resymeg ynghlwm wrth bob egwyddor cynnydd, sy'n egluro ymhellach yr hyn a olygir wrth gynnydd yn y Maes hwn. Mae'r rhain yn cwmpasu'r continwwm cyfan ar draws 3-16. Dyma lle y gallwn ddod o hyd i'r hyn a olygir wrth gynnydd ar draws y Maes. Fe welwch fod geirfa a dyfyniadau allweddol yn y canllawiau y gallech ddymuno eu hystyried ymhellach wrth ddatblygu dealltwriaeth o gynnydd. Efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi drafod y rhain ar lefel ysgol/clwstwr er mwyn datblygu ymhellach ddealltwriaeth gyffredin o gynnydd yn y Maes Dysgu a Phrofiad hwn.
Effeithiolrwydd
Effeithiolrwydd cynyddol fel dysgwr
Mae datrys problemau a dylunio yn tueddu i fod yn iteraidd; daw meithrin hunaneffeithiolrwydd a gwydnwch sy'n gysylltiedig â sgiliau yn bwysig er mwyn galluogi dull 'treialu a gwella'. Drwy hyn, mae dysgwyr yn datblygu eu defnydd o sgiliau, yn ogystal â gwydnwch gan eu bod yn deall manteision methiant yn y Maes hwn i ddarganfod ffyrdd newydd o wneud pethau. Dros amser, ceir annibyniaeth gynyddol wrth ddysgu, gan gynnwys rhyngddibyniaeth mewn dysgu drwy grŵp cyfoedion. Dylai dysgwyr feithrin ymwybyddiaeth o'u dealltwriaeth gynyddol soffistigedig a'r gallu i reoleiddio eu meddwl eu hunain.
Gwybodaeth
Ehangder a dyfnder gwybodaeth cynyddol
Caiff cynnydd ym Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg (Maes) ei ddangos wrth i ddysgwyr archwilio a phrofi syniadau a chysyniadau cynyddol gymhleth sy'n rhan o'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig. Mae gwybodaeth yn symud, drwy archwilio, o ddealltwriaeth bersonol o'r byd i safbwynt haniaethol sy'n galluogi'r dysgwr i gysyniadu a chyfiawnhau ei ddealltwriaeth. Yn hytrach na bod yn llinol, mae cynnydd dysgu yn gylchol, gyda dysgwyr yn ailystyried eu gwybodaeth bresennol, yn ei chysylltu â'r hyn y maen nhw newydd ei ddysgu, ac yn addasu sgemâu yn sgil darganfyddiadau newydd.
Dealltwriaeth
Dyfnhau'r ddealltwriaeth o'r syniadau a'r disgyblaethau yn y meysydd dysgu a phrofiad (Maes/Meysydd)
Mae cynnydd yn y Maes hwn yn cynnwys datblygu dealltwriaeth ddofn o'r dysgu a fynegir yn yr holl ddatganiadau o'r hyn sy'n bwysig o fewn y Maes a'r perthnasoedd a'r cysylltiadau cymhleth sy'n bodoli rhyngddynt. Gellir cymhwyso sgiliau ymchwilio a gwybodaeth disgyblaeth benodol sy'n cael eu meithrin yng nghyd-destun un datganiad o'r hyn sy'n bwysig mewn rhai eraill. Gall dulliau iteraidd o ddatrys problemau mewn cyfrifiadureg a dylunio a thechnoleg hefyd fod o fudd i bob gwyddoniaeth. Caiff dysgu yn y cyfnod cynnar ei nodweddu gan ddull holistaidd o ofyn cwestiynau ac archwilio'r byd o gwmpas y dysgwr, gan arbenigo'n gynyddol yn ystod cyfnodau diweddarach.
Sgiliau
Mireinio a soffistigeiddrwydd cynyddol wrth ddefnyddio a chymhwyso sgiliau
Mae ymchwilio, archwilio, dadansoddi, datrys problemau, a dylunio yn sgiliau allweddol sydd eu hangen wrth i ddysgwyr weithio ar hyd continwwm dysgu y Maes hwn. Wrth i ddysgwr wneud cynnydd, mae'n cymhwyso dysgu blaenorol yn y Maes, archwilio ac yn ymchwilio i broblemau ac yn ffurfio atebion creadigol canlyniadol mewn ffordd gynyddol soffistigedig. Mae coethder a chywirdeb cynyddol yn yr hyn y mae dysgwyr yn gallu ei wneud a'i gynhyrchu yn yr amgylcheddau ffisegol a digidol.
Cymhwyso
Creu cysylltiadau a throsglwyddo'r dysgu i gyd-destunau newydd
Wrth i ddysgwyr wneud cynnydd ar hyd y continwwm, byddan nhw’n gallu nodi cysylltiadau cynyddol rhwng dysgu presennol a phrofiadau eraill a gwybodaeth arall a gafwyd yn y Maes hwn a'r tu hwnt. Bydd hyn yn cynnwys creu cysylltiadau â gwybodaeth a phrofiadau o'r tu hwnt i amgylchedd yr ysgol. Mae problemau ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg yn ymwneud â phenblethau moesegol neu foesol a bydd dealltwriaeth gynyddol o'r ffordd yr ymdrinnir neu y dylid ymdrin â'r penblethau hyn yn dangos cynnydd. Bydd dysgwyr yn datblygu'r gallu i gymhwyso eu dysgu ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg er mwyn llywio'r ffordd y maen nhw’n meddwl ac yn gweithredu y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth.
Ymateb a Myfyrio
Efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi fynd ati ’nawr i archwilio pob un o’r egwyddorion cynnydd a’u rhesymeg gysylltiedig ar gyfer Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn fanylach fel tîm/adran/clwstwr ysgol. Rydym wedi darparu’r testunau angenrheidiol gyferbyn, ynghyd â thabl y gallwch ei lenwi â’r elfennau penodol o gynnydd a ganfuwyd.
Egwyddorion cynnydd a Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Tabl i goladu’r elfennau cynnydd a nodir
Dyma enghraifft o fersiwn wedi'i chwblhau o'r gweithgaredd.
Efallai y byddwch yn dod o hyd i agweddau eraill sy'n berthnasol i'ch dysgwyr a'ch lleoliadau.
Gall hyn fod yn ddefnyddiol i lywio trafodaeth ar lefel ysgol/adran/clwstwr.
*dylid ystyried cynnydd personol i haniaethol o fewn yr egwyddor wybodaeth fel a ganlyn: personol i fyd-eang neu ddiriaethol i haniaethol (gwyddoniaeth)/haniaethol i ddiriaethol (dylunio a thechnoleg)
Beth yw cyd-ddealltwriaeth o gynnydd?
Mae datblygu cyd-ddealltwriaeth o gynnydd yn golygu bod ymarferwyr, ar y cyd yn eu hysgol neu eu lleoliad, ledled eu clwstwr, a chydag ysgolion eraill y tu hwnt i’w clwstwr, yn mynd ati gyda’i gilydd i archwilio, trafod a deall:
Eu disgwyliadau ar y cyd o ran ym mha fodd y dylai dysgwyr wneud cynnydd, a sut y dylai gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau gyfrannu at hyn yng nghwricwla ysgolion a lleoliadau.
Y modd i sicrhau cynnydd cydlynol i ddysgwyr trwy gydol eu taith ddysgu, ac yn arbennig ar adegau pontio.
Y modd y mae eu disgwyliadau ar gyfer cynnydd yn cymharu â disgwyliadau ysgolion a lleoliadau eraill, a hynny er mwyn sicrhau cydlyniad a thegwch ledled y system addysg, a chyflymder a her digonol yn eu hymagwedd at gynnydd yn eu cwricwlwm a’u trefniadau asesu.
Sut y dylai ysgolion a lleoliadau ddatblygu cyd-ddealltwriaeth o gynnydd?
Bydd ysgolion yn elwa o gynllunio dysgu sy’n cefnogi dealltwriaeth gynyddol soffistigedig a chymhwyso’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig. Rhaid i gynnydd fod yn rhan greiddiol o ddysgu ac addysgu, a dylai fod yn sail i feddylfryd ysgolion wrth gynllunio cwricwlwm yr ysgol. Dull yw’r canlynol a allai fod o ddefnydd i chi fel man cychwyn wrth i chi gynllunio ar gyfer cynnydd, a gallai gael ei addasu i weddu i’ch ysgol chi.
Mae'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig yn elfen orfodol o Gwricwlwm i Gymru ac felly mae angen eu harchwilio i nodi llinynnau y gellir eu defnyddio i lunio continwwm dysgu o 3 i 16.
Yn y datganiad o'r hyn sy'n bwysig sydd gyferbyn, rydym wedi tynnu sylw at agweddau sydd, yn ein barn ni, yn berthnasol i'r llinynnau amgylcheddau/ecosystemau.
Mae hwn yn lle da i ddechrau dewis llinyn dysgu, ond nid yw datganiadau o'r hyn sy'n bwysig yn gwbl gynhwysfawr a gall gwaith cynllunio ddefnyddio gweledigaethau ysgolion, lleoliadau a gwahanol ddylanwadau eraill i ddarparu llinynnau dysgu wrth i'r broses aeddfedu.
Mae'r canllawiau a roddir ar gyfer Gwyddoniaeth a Thechnoleg hefyd yn darparu rhestr o ystyriaethau penodol y gellir eu defnyddio i gefnogi'r gwaith o gynllunio cynnydd ar hyd llinyn dysgu. Mae'r cynnwys hwn, dysgu gweithdrefnol ac epistemig yn diffinio'n glir wybodaeth a sgiliau pwysig sy'n gysylltiedig â'r disgyblaethau ym maes Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Bydd angen i gynllunio ar gyfer cynnydd hefyd adlewyrchu hyn.
🌐 Ystyriaethau penodol ar gyfer Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Gyferbyn y mae'r agweddau perthnasol sy'n cefnogi’r llinyn Ecosystemau, a gellir gweld yn glir y modd y maent yn cefnogi'r gwaith o gynllunio cynnydd.
Ar ôl penderfynu ar linyn dysgu, awgrymir wedyn bod y disgrifiadau o ddysgu yn cael eu harchwilio gan y byddant yn rhoi arweiniad ar y modd y dylai dysgwyr wneud cynnydd ym mhob datganiad o’r hyn sy'n bwysig. Fe'u cynlluniwyd i gynnal dysgu dros gyfnod o flynyddoedd ac maent yn rhoi cyfle i ymarferwyr eu defnyddio i ddewis cynnwys sy'n darparu ehangder a dyfnder o ran dysgu.
Yn yr enghraifft gyferbyn, rydym wedi dewis y disgrifiad o ddysgu sy'n ein galluogi i greu cynnydd yn ein llinyn o ecosystemau o 3 i 16. Fel y gwelir yma, weithiau bydd yna ddisgrifiadau o ddysgu nad yw’n cael ei ddarparu ar bwyntiau ar hyd y continwwm. Awgrymwn y dylid gwneud penderfyniadau ynghylch a yw bylchau'n cael eu hanwybyddu neu eu llenwi, a hynny’n seiliedig ar anghenion megis manylebau arholiadau, ac ati.
Gellir hefyd ystyried egwyddorion cynnydd wrth i'r dysgwyr ddod yn fwyfwy soffistigedig. Yn y llinyn dysgu hwn, maent yn symud ymlaen o allu adnabod i esbonio eu dealltwriaeth o ecosystemau (fel y nodwyd).
Trwy gynllunio fel hyn, gallwn sicrhau bod dysgwyr yn datblygu o fod yn ddibrofiad i fod yn arbenigwyr ar hyd y continwwm, gan feithrin eu gwybodaeth a'u sgiliau ar gamau priodol. Mae hyn yn awgrymu ymhellach yr angen i weithio mewn clwstwr er mwyn sicrhau cyfle cyfartal a dileu'r posibilrwydd o fylchau'n ymddangos wrth i ddysgwyr bontio.
Ar ôl nodi'r llinyn a'r cynnydd a ddymunir ynddo, gall ysgolion wedyn benderfynu ar brofiadau i gefnogi'r dysgu ar y gwahanol gamau ar hyd y continwwm. Dylid cynllunio'r dewisiadau a wneir yma yn unol ag egwyddorion cynnydd fel bod dysgu'n briodol i'r cam, gan adeiladu ar ddysgu blaenorol a pharatoi ar gyfer dysgu yn y dyfodol. Mae gweithio fel clwstwr yn rhoi cydbwysedd gan fod yna gysondeb â'r hyn sy'n cael ei ddysgu ar draws y clwstwr ond bod yna hyblygrwydd o hyd yn y ffordd y caiff ei ddarparu.
Uchod, gallwch weld awgrymiadau o ddysgu a allai ddigwydd ar bob cam cynnydd ar gyfer ein llinyn ecosystemau.
Mae'r animeiddiad ar y chwith yn dangos sut y gellir sicrhau bod cynnydd wrth wraidd y cwricwlwm a gaiff ei lunio. Yn yr un modd, gall hefyd ddangos yr effaith negyddol y mae colli cam yn ei chael ar ddysgu yn y dyfodol.
Mae'n tynnu sylw at bwysigrwydd gweithio mewn clwstwr er mwyn sicrhau bod pob dysgwr yn cael yr un cyfleoedd i wneud cynnydd.
Mae gweithio mewn clwstwr fel hyn yn caniatáu rhannu arfer da a dosbarthu cyfrifoldebau cynllunio os oes angen.
Ymateb a Myfyrio
Yn y tabl isod rydym wedi awgrymu rhai penawdau posibl ar gyfer llinynnau sy'n deillio o'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig ar gyfer Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Dylech nodi nad yw hon yn rhestr gynhwysfawr o bell ffordd, ac rydym wedi dewis y rhai sy'n eithriadol o gyfarwydd i'r arbenigeddau pwnc yn ein Maes. Byddwch am ymhelaethu ar y rhain wrth i chi gynllunio ar gyfer eich lleoliadau ysgol eich hun, gan ystyried eich gweledigaeth a'r dysgu a ddewiswyd yn flaenorol. Rydym hefyd yn gweithio o fewn ein Maes Dysgu a Phrofiad at y diben hwn, ond bydd angen i chi ystyried datganiadau o'r hyn sy'n bwysig a'u disgrifiadau cysylltiedig o ddysgu o Feysydd eraill lle y bo’n briodol.
Isod ceir chwe dogfen, un ar gyfer pob datganiad o'r hyn sy'n bwysig mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg, y gellir eu defnyddio i ddechrau cynllunio cynnydd posibl o 3 i 16 yn eich clwstwr, yn unol â'r enghraifft ecosystemau uchod. Rydym wedi rhoi'r wybodaeth ganlynol i chi ym mhob dogfen:
Y datganiad perthnasol o'r hyn sy'n bwysig a'i resymeg gysylltiedig.
Penawdau a awgrymir ar gyfer llinynnau o'r awgrymiadau uchod. Mae croeso i chi ddefnyddio eich llinyn eich hun, ond ar hyn o bryd gall fod yn llai cymhleth defnyddio un o'r rhai mwy amlwg.
Y disgrifiadau o ddysgu a'r camau cynnydd sy'n berthnasol i'r datganiad o'r hyn sy'n bwysig. Rydym wedi amlygu’r rhai a oedd yn berthnasol i ni ond chi sy'n penderfynu ar hynny.
Rydym hefyd wedi ychwanegu'r tabl symlach o egwyddorion cynnydd y gallwch gyfeirio ato. Dylid cyfeirio at hyn wrth i chi drafod yr enghreifftiau o ran sgiliau, cynnwys a gwybodaeth y gellid eu darparu ar hyd y continwwm.
Tabl terfynol sy'n cynnig lle i chi gynllunio.
Mae croeso i chi newid ac addasu'r adnoddau i anghenion eich lleoliad, ac, os credwch y gallent fod yn berthnasol i'r gymuned ehangach, byddem wrth ein bodd yn clywed amdanynt.
Exemplification examples coming soon.
Y manteision sydd ynghlwm wrth y dull hwn:
Gweithio mewn clwstwr (dull sy’n canolbwyntio ar y dysgwr)
Rhannu syniadau da
Gwell ymwybyddiaeth ymhlith athrawon o gynnydd disgyblion yn y pwnc/MDPh o 3 i 16
Yn atal ysgolion yn y clwstwr rhag datblygu i fod yn seilos
Mae’n sicrhau cydbwysedd rhwng cysondeb yr hyn sy’n cael ei addysgu a hyblygrwydd y modd y caiff ei addysgu – sydd o fantais i’r dysgwr
Mae'n cefnogi gweithgareddau pontio ystyrlon
Mae'n rhoi ystyriaeth i gysylltiadau ystyrlon o fewn/rhwng Meysydd.
Y camau nesaf:
Myfyrio ar eich dealltwriaeth o gynnydd a’r modd y mae'n cael ei fynegi yn eich cwricwlwm
Adnabod llinynnau dysgu ac ystyried cynnydd ar hyd y llinellau hynny
Ystyried y modd y gallwch weithio gyda chyd-weithwyr yn eich ysgol ac yn eich clwstwr, a, lle bo hynny'n bosibl, gydag ysgolion tebyg eraill, i ddatblygu cyd-ddealltwriaeth o gynnydd trwy gydol y cwricwlwm
Meddwl sut y gellid defnyddio’r ddealltwriaeth hon a’i rhannu ag eraill.
I gael rhagor o gymorth i ddatblygu eich cwricwlwm, cysylltwch â ni trwy ddefnyddio unrhyw un o'r cyfeiriadau e-bost canlynol: