Dysgu, Addysgu ac Asesu

Mae Cwricwlwm i Gymru yn ymgorffori’r rhagdybiaeth bod cwricwlwm hynod o effeithiol yn cydnabod na all cwricwlwm, addysgeg nac asesu bodoli’n annibynnol i’w gilydd. Mae’n dilyn felly, ei bod yn ofynnol ystyried y broses o gynllunio’r cwricwlwm ysgol gydag addysgeg ac asesu yn rhan annatod ohono.

Mae dysgu’n cwmpasu dealltwriaeth, sgiliau a gwybodaeth a ddatblygwyd trwy brofiadau dysgu eang ac amrywiol. Gellir trosglwyddo’r rhain i gyd-destunau gwahanol wrth i’r dysgu dyfnhau. Rhaid bod gan athrawon gyd-ddealltwriaeth o’r modd y mae dysgwyr yn dysgu er mwyn sicrhau eu bod yn dod yn ddysgwyr gweithredol. Mae hon yn broses o fewnoli gwybodaeth a’i chymysgu â’r hyn yr ydym yn ei brofi er mwyn newid yr hyn yr ydym yn ei wybod ac adeiladu ar yr hyn yr ydym yn ei wneud. Wrth lunio cwricwlwm, mae angen ar ysgolion athrawon o safon uchel sy’n meddu ar ddealltwriaeth gadarn o ‘pam’ a ‘sut’ yr addysgir, yn ogystal â’r ‘beth’.

Mae asesu effeithiol yn hanfodol i’r broses ddysgu, gan alluogi pob dysgwr i wneud cynnydd. Diben asesu yng Nghwricwlwm i Gymru yw cefnogi dilyniant tuag at y pedwar diben. Felly bydd yn ofynnol i ysgolion sicrhau bod ymarferwyr yn datblygu cyd-ddealltwriaeth o sut mae dilyniant yn edrych ledled yr ysgol, er mwyn llywio’r cynllunio ar gyfer dysgu. Dylai ysgolion ganiatau iddynt eu hunain roi diwedd ar unrhyw arferion asesu nad ydynt yn cyfrannu at hyn. Gyda chymorth a her briodol, bydd dysgwyr nid yn unig yn gwneud cynnydd, ond hefyd yn dysgu adnabod eu cyflawniadau unigol a nodi eu camau nesaf o ran dysgu’n annibynnol. Mae Cwricwlwm i Gymru yn gosod ffocws ar asesu ffurfiannol mewn ysgolion, ac mae’r asesu yma’n digwydd tra bo’r dysgu’n digwydd ac mae hefyd yn rhoi ystyriaeth i’r plentyn cyfan – ei wybodaeth, ei sgiliau, ei brofiadau, ei agweddau, ei werthoedd a’i les.

Mae gan ysgolion yr ymreolaeth i gynllunio cwricwlwm sy’n briodol i’w cyd-destun nhw ac i anghenion unigol eu dysgwyr tra’n cynnwys y dysgwyr yn y broses. Dylai profiadau dysgu sicrhau bod yna le i ddysgu ac iddo ehangder a dyfnder, gan ganiatáu i ddysgwyr symud ymlaen ar eu cyflymder eu hunain ac i gymorth effeithiol gael ei ddarparu.

"Weithiau, ni allwn daro’r hoelen ar ei phen yn achos gweld rhywbeth pwysig, a hynny am fod pob un o’n bysedd wedi’u lapio o amgylch swp o bethau eraill nad ydynt yn bwysig."

Craig D. Lounsbrough

"Mae angen i ysgolion sicrhau bod rhoi’r myfyriwr wrth wraidd y dysgu yn flaenoriaeth sefydliadol. Dylent annog ymgysylltiad llawn y dysgwyr, a datblygu dealltwriaeth ynddynt o’u gweithgarwch eu hunain fel dysgwyr.

OECD

Egwyddorion allweddol

  • Bydd angen i ysgolion feddwl am natur ryng-gysylltiedig dysgu, addysgu ac asesu wrth greu eu cwricwlwm a chynllunio ar gyfer ei gyflwyno. Bydd angen iddynt gydweithredu i ystyried y modd y bydd eu cynllun yn diwallu anghenion unigol y dysgwyr dros amser, wrth iddynt wneud cynnydd tuag at y pedwar diben.

  • Dylai fod gan ymarferwyr yr ymreolaeth i ddefnyddio ystod eang o addysgeg effeithiol a phriodol, gan gynnwys y rhai sy’n cefnogi’r agweddau cymdeithasol ac emosiynol ar ddysgu.

  • Dylai’r dulliau addysgu a ddewisir annog y dysgwyr i ysgwyddo cyfrifoldeb cynyddol am eu dysgu eu hunain, deall lle y maent arni, i ba gyfeiriad y mae angen iddynt fynd, a’r modd i gyrraedd yno.

  • Dylai ysgolion weithio gyda’i gilydd i ddatblygu a gweithredu trefniadau asesu mewn perthynas â’u cwricwlwm.

  • Dylai ysgolion gynnwys barn eu dysgwyr wrth greu’r cwricwlwm ac wrth gynllunio eu profiadau dysgu.

Ni ddylai asesu:

  • gael ei ddefnyddio i lunio barn unwaith ac am byth ar oedran penodol neu adeg benodol

  • cael ei ddefnyddio i ddibenion atebolrwydd allanol

  • arwain at fatricsau ar gyfer asesu’r pedwar diben neu Yr Hyn sy’n Bwysig

  • cael ei gyfyngu i ‘ddata’ – dysgu ei hun yw’r dystiolaeth.

Ystyriaethau allweddol:

  1. A oes gennym ddealltwriaeth gyffredin o’r berthynas ryng-gysylltiedig rhwng dysgu, addysgu ac asesu?

  2. Sut mae ein cwricwlwm yn sicrhau bod yna ddyfnder ac ehangder yn y dysgu?

  3. Sut yr ydym yn cynllunio cyfleoedd ar gyfer dysgu sy’n seiliedig ar gryfderau, anghenion a dyheadau unigol ein dysgwyr? Pa mor dda yr ydym yn ystyried eu hanghenion cymdeithasol ac emosiynol?

  4. Beth yw ein hanghenion dysgu proffesiynol mewn perthynas â dysgu, addysgu ac asesu? A ydym yn caniatáu ar gyfer galluogedd athrawon yn ein cwricwlwm? Pa mor dda yw’r graddau yr ydym yn croesawu ymchwil weithredol?

  5. Sut a phryd yr ydym yn asesu dysgwyr, a beth yw effaith ein harferion asesu ar ddysgu a chynnydd tuag at y pedwar diben?

  6. Ym mha fodd yr ydym yn sicrhau bod pob dysgwr yn gwybod beth y mae’n ei ddysgu, a pham? Pa mor dda y maent yn deall eu cynnydd eu hunain, i ble y mae angen iddynt fynd nesaf, a beth mae’n ofynnol iddynt ei wneud i gyrraedd yno?

  7. Sut yr ydym yn gwybod bod ein dysgwyr yn datblygu hyder ac annibyniaeth? I ba raddau y gallant drosglwyddo eu sgiliau ar draws y cwricwlwm a’u cysylltu â’u profiadau eu hunain?

  8. A ydym yn ystyried llwyth gwaith ymarferwyr yn ein harferion asesu?

  9. Sut yr ydym yn cefnogi cyfathrebu effeithiol a rheolaidd gyda rhieni a gofalwyr i gefnogi cynnydd y dysgwyr?

  10. A oes yna ddealltwriaeth ysgol gyfan o’r cysylltiad rhwng diben ac ymarfer mewn addysgeg ac asesu?

  11. Pa mor dda yr ydym yn cydweithio ag ysgolion eraill i ddatblygu dysgu, addysgu ac asesu?



Cyfleoedd dysgu proffesiynol:

🌐 Arolwg Ysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu

🌐 Dysgu Proffesiynol Rhanbarthol

👩‍🏫 Astudiaethau achos ysgolion arloesi

👩‍🏫 @NetworkEd

👩‍🏫 Ymweliadau ag Ysgolion

🌐 Partneriaeth